Mae Chwaraeon Cymru wedi ailagor ei Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon i ddarparu mwy o gymorth ariannol i hyfforddwyr ffitrwydd, hyfforddwyr personol, cyfarwyddwyr a gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd eraill sy'n cyflwyno gweithgareddau yn uniongyrchol sy'n sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn symud.
Pan agorodd cam cyntaf y gronfa ym mis Tachwedd, darparodd grantiau o £1,500 i 346 o unigolion yn y sector nad oeddent wedi derbyn unrhyw gymorth arall yn ystod y pandemig.
Nawr, gyda'r cyfyngiadau symud presennol yn rhoi mwy fyth o bwysau ar weithwyr llawrydd sydd eisoes wedi colli incwm yn ystod 2020, mae swm y grant wedi cynyddu i £2,500 ac mae'r meini prawf wedi cael eu hehangu mewn ymgais i helpu mwy fyth o bobl.
I fod yn gymwys, mae angen i ymgeiswyr ddangos sut maent wedi colli o leiaf £2,500 mewn incwm o weithgareddau a ddylai fod wedi cael eu cynnal yng Nghymru ers i'r argyfwng ddechrau, oherwydd bod contractau'n cael eu canslo neu gyfyngiadau'n atal eu gwaith.
Gallant wneud cais o hyd os ydynt wedi cael arian gan y cynllun cymorth incwm hunangyflogedig, ond ni fyddant yn gymwys os ydynt wedi derbyn cyllid arall sy'n gysylltiedig â Covid-19 gan gorff cyhoeddus arall neu daliad yswiriant am golli incwm.
Mae posib cyflwyno ceisiadau drwy wefan Chwaraeon Cymru rhwng hanner dydd ar ddydd Iau 21 Ionawr a 5pm ar ddydd Mercher 3 Chwefror.
Mae canllawiau llawn ar bwy sy'n gymwys ar gyfer y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon, a sut i wneud cais, ar gael yn https://www.chwaraeon.cymru/cynnwys/cronfagweithwyrllawrydd/
Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon yn rhan o Becyn Adfer Chwaraeon a Hamdden cyffredinol gwerth £14m sydd wedi’i ddyrannu gan
Lywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru fel bod sefydliadau, cyfleusterau a swyddi chwaraeon yn gallu cael eu gwarchod.
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Y gronfa yma yw'r gyntaf o'i bath yn y DU i weithwyr chwaraeon llawrydd, ac mae'n arwydd clir arall o'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar chwaraeon a'u gallu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
“Mae cymaint o unigolion gweithgar yng Nghymru sy'n gwneud bywoliaeth o hyfforddi, cynnal gwersylloedd ymarfer, addysgu dosbarthiadau ffitrwydd, a gwneud pob math o bethau eraill i'n cadw ni'n actif.
“Roedden ni’n hynod falch o lwyddiant cam cyntaf y gronfa yma ym mis Tachwedd, pan roddwyd blaenoriaeth gennym ni i gael cyllid yn gyflym i gannoedd o bobl oedd heb dderbyn unrhyw fath o gymorth ariannol yn ystod y pandemig.
“Drwy ymestyn y meini prawf, rydyn ni’n gobeithio y bydd y newidiadau’n galluogi mwy o bobl i wneud cais y tro yma.
“Gan ei fod wedi bod yn gyfnod mor heriol i weithwyr llawrydd, rydyn ni hefyd yn falch o allu cynyddu swm y grant i £2,500. Rydyn ni’n sylweddoli na fydd £2,500 yn gwneud iawn am yr holl golledion ariannol y mae llawer wedi'u dioddef, ond rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arian yma’n cyfrannu rhywfaint tuag at helpu i sicrhau y gall yr unigolion yma aros yn y sector, gan barhau i ddefnyddio eu doniau i wella bywydau pobl eraill.”
Bydd unrhyw un a wnaeth gais llwyddiannus am grant o £1,500 ym mis Tachwedd yn cael cynnig y £1,000 ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael yr un swm â’r arian sydd ar gael yn ystod y cam hwn ac felly nid oes angen iddynt wneud cais eto.
Mae'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon ar agor i weithwyr llawrydd a gweithwyr hunangyflogedig yng Nghymru y mae eu gwaith yn cefnogi pobl yn uniongyrchol i fod yn actif, fel hyfforddwyr chwaraeon, hyfforddwyr personol, hyfforddwyr ffitrwydd a hyfforddwyr dawns. Nid yw ar gael i weithwyr llawrydd eraill sy'n gweithio yn y diwydiant, fel awduron chwaraeon, sylwebyddion, ffotograffwyr, therapyddion chwaraeon a maethegwyr.
Ymhlith y rhai sy'n croesawu'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon mae Vernon Cornish, hyfforddwr ffitrwydd yng Nghaerdydd a ddywedodd: "Adeg y cyfyngiadau symud cyntaf roeddwn i'n dysgu tua 13 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ac roedd yr amgylchiadau'n golygu bod fy incwm i wedi dod i ben dros nos. Mae'r Gronfa yma'n cynnig ochenaid enfawr o ryddhad nid yn unig oherwydd fy mod i'n gallu hawlio rhywfaint o'r incwm rydw i wedi'i golli yn ôl ond hefyd oherwydd eich bod chi'n gallu cael gwared ar rywfaint o'r pryder am ddyfodol ansicr."
Dywedodd Tara Dillon, Prif Swyddog Gweithredol CIMSPA:
"Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol heriol i bawb yn ein sector ni, yn enwedig i'r miloedd lawer o weithwyr proffesiynol llawrydd a hunangyflogedig sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 ond sydd wedi'u heithrio o gymorth ariannol Llywodraeth y DU.
"Mae'r rhain yn weithwyr proffesiynol ymroddedig sy'n gweithio'n galed ac sy'n darparu gwasanaeth hanfodol i'r cyhoedd, ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd o roi rhywfaint o gefnogaeth iddyn nhw. Rydw i wrth fy modd bod Chwaraeon Cymru wedi gallu ymestyn y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon ac yn annog unrhyw un o'n haelodau yng Nghymru sy'n bodloni'r meini prawf i edrych ar y wefan a gwneud cais."
I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon, ewch i https://www.chwaraeon.cymru/cynnwys/cronfagweithwyrllawrydd/.
Ddechrau mis Chwefror, bydd Chwaraeon Cymru hefyd yn lansio cronfa newydd i gefnogi darparwyr preifat yn y sector chwaraeon. Bydd manylion llawn ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yn fuan.