Mae Natalie Powell wedi arfer taflu gwrthwynebwyr i'r llawr, ond mae'r seren jiwdo o Gymru yn cyfaddef mai brwydr bersonol dros ei hunaniaeth ei hun a'i lloriodd go iawn.
Bydd pencampwr y Gymanwlad yn 2014 yn cael cyfle o'r diwedd i amddiffyn ei theitl yn Birmingham y mis hwn, ond nid oedd ei habsenoldeb o'r gamp yng Ngemau'r Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl yn ddim o'i gymharu â'r rhwystredigaeth a oedd yn ei hwynebu yn ei bywyd personol.
A hithau'n un o athletwyr mwyaf llwyddiannus a phrofiadol Tîm Cymru, cyhoeddodd Powell ei bod yn hoyw yn 2017 ar ôl yr hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel "chwe blynedd o boen".
Roedd Powell yn rhif 1 yn y byd yn 2017 - y judoka cyntaf yn y DU i gyrraedd y pinacl hwnnw ar ôl i restr raddio swyddogol gael ei chyflwyno.
Ond roedd y straen o gystadlu heb fod yn onest â hi ei hun a'r rhai o'i chwmpas yn annioddefol.
"Flwyddyn ar ôl Gemau Olympaidd Rio yn 2017, daeth y cyfan yn ormod i mi," meddai Natalie, a oedd yn byw yn Birmingham ar y pryd yng Nghanolfan Ragoriaeth Judo Prydain.
"Es i i Bencampwriaethau’r Byd, cael medal efydd, sef fy mherfformiad gorau, ac yn fuan ar ôl hynny cyrhaeddais rif un yn y byd.
"Ro'n i hefyd yn gwthio fy hun ac yn dweud, 'os ydw i'n llwyddo gyda jiwdo, mi fydda i’n iawn.’
"Ro'n i'n byw gydag un o'r merched ar y tîm yn Walsall bryd hynny a ro'n i'n crio yn afreolus. Dywedais wrthi ac ar ôl i mi wneud hynny dechreuodd pethau wella.
"O fewn chwech mis ro'n i'n berson newydd. Roedd y pwysau wedi cael ei godi oddi ar fy ysgwyddau.
"Ro'n i'n gyfforddus ynof fi fy hun ac yn methu credu'r hyn y gwnes i roi fy hun drwyddo. Ond rwy'n credu mai’r rheswm am hyn yw’r diwylliant a'r hyn y mae pobl yn ei weld fel normau cymdeithasol pan fyddwch chi'n tyfu.”
Dywed Natalie ei bod bob amser wedi teimlo'n hyderus y byddai ei theulu a'i ffrindiau yn cefnogi ei phenderfyniad i ddod allan.
Ond hyd yn oed gyda'r sicrwydd hwnnw yn ei meddwl, roedd cymryd y cam hwnnw'n dal i godi ofn mawr arni.