Skip to main content

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Os edrychwch chi ar y niferoedd, mae dylanwad Neil Robinson ar dennis bwrdd para yng Nghymru yn gwbl glir.

O'r 11 aelod yng ngharfan Prydain Fawr sy’n mynd i Baris ym mis Awst ar gyfer y Gemau Paralympaidd, mae pedwar ohonyn nhw'n Gymry.

Mae hynny’n 36 y cant o’r garfan. Ddim yn ddrwg i wlad sydd ond yn cynrychioli pump y cant o boblogaeth y DU.

Ond mae llawer mwy i effaith Robinson fel un o hyfforddwyr cenedlaethol Tennis Bwrdd Para Prydain na dim ond cynnwys Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh Stacey yn y Gemau yr haf yma.

Mae'n rhaid i chi gynhyrchu pridd ffrwythlon os ydych chi eisiau i unrhyw beth dyfu. Felly, yn fwy arwyddocaol na chipolwg ar y llwyddiant presennol yw’r amgylchedd hyfforddi y mae Robinson – y cyn-enillydd medal aur Paralympaidd o Ben-y-bont ar Ogwr – wedi’i greu yn ei ganolfan yn Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Nid bod holl amser ac ymdrechion Robinson yn canolbwyntio ar gynhyrchu athletwyr elitaidd. Pan nad yw’n brysur yn hogi sgiliau’r criw nesaf o Baralympiaid, mae i’w weld yn aml yn Ysbyty’r Brifysgol, Llandochau, yn annog pobl sydd ag anafiadau i’w hasgwrn cefn ddarganfod y gall chwaraeon fod yn rhan o’u bywydau o hyd.

Amgylchedd hyfforddi

Dechreuodd Robinson, sydd wedi cystadlu yn y Gemau Paralympiad saith gwaith, hyfforddi yn 2009 ac mae 15 mlynedd o brofiad wedi dysgu iddo fod pobl yn bwysicach na phroses.

“I mi, mae’r amgylchedd hyfforddi gorau yn ymwneud â datblygu a meithrin perthnasoedd da gyda chwaraewyr,” meddai Robinson.

“Dydi deall yr agweddau technegol a thactegol ddim mor bwysig â deall y chwaraewr fel person.

“Mae angen i chi wybod beth sy'n rhoi boddhad i berson a gweld wedyn sut gallwch chi fel hyfforddwr ei helpu. Mae pob chwaraewr yn wahanol gyda gwahanol agweddau a phersonoliaethau.

“I gael y gorau allan ohonyn nhw, mae’n rhaid i chi ddeall hynny a bod yn fodlon addasu i gael y gorau ohonyn nhw. Nid gorfodi fy awdurdod fydda’ i. Mae’n bwysig gwrando ac ymateb.”

Dim ond os oes parch rhwng y chwaraewr a’r hyfforddwr mae’r awdurdod hwnnw, meddai Robinson, yn bodoli.

Mae'r parch yn cael ei ennill, meddai, pan fydd y pethau sylfaenol yn eu lle.

“Rydw i’n gweithio’n agos gyda staff Chwaraeon Cymru i wneud yn siŵr bod y chwaraewyr yn teimlo’n dda am yr amgylchedd maen nhw’n gweithio ynddo. Dydi hynny ddim bob amser yn ymwneud â nifer neu faint yr adnoddau sydd gennych chi, oherwydd gall pobl fod eisiau mwy bob amser.

“Yn aml, mae’n ymwneud ag addasu fel hyfforddwr a bod yn ddyfeisgar.”

Neil Robinson yn hyfforddi un o'i athletwyr.

Manylion bach

Un enghraifft o hynny yw bod Robinson yn mynnu lloriau taraflex, yr un lloriau ag y bydd ei chwaraewyr yn cystadlu arnyn nhw mewn twrnameintiau ledled y byd. Mae'n golygu, bob bore, bod stribed o'r deunydd – sydd ychydig yn lletach na phob bwrdd - yn cael ei rolio allan i sicrhau amodau perffaith fel twrnamaint.

Yn y manylion bach, meddai, mae'r chwaraewyr yn ymwybodol bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.

Cefnogir y cyfleusterau hynny yng Nghaerdydd gan hyfforddwyr cryfder a chyflyru, ffisiotherapyddion, maethegwyr ac arbenigwyr meinwe meddal.

“Unwaith rydych chi wedi dangos i’ch chwaraewyr eich bod chi wedi creu amgylchedd cystal â phosib, wedyn fe allwch chi ganolbwyntio ar hyfforddiant un i un ar y bwrdd, gyda’r posibilrwydd iddyn nhw fod y gorau y gallan nhw fod.

“Maen nhw hefyd wedyn yn dechrau datblygu ei gilydd, ac rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni fodelau rôl gwych fel Rob Davies, sydd wedi cyflawni cymaint.”

Un o’r chwaraewyr hynny sy’n elwa o hyfforddiant Robinson mewn twrnameintiau yw Karabardak, a enillodd ei fedalau Paralympaidd cyntaf wrth gystadlu am y pedwerydd tro yn y Gemau yn Tokyo, gan gipio’r efydd yn senglau dosbarth 6 y dynion a’r arian yn nhîm dosbarth 6-7 y dynion gyda Will Bayley. 

I mi, mae’r amgylchedd hyfforddi gorau yn ymwneud â datblygu a meithrin perthnasoedd da gyda chwaraewyr... Dydi deall yr agweddau technegol ddim mor bwysig â deall y chwaraewr fel person.

Agwedd gadarnhaol

Dywed y chwaraewr o Abertawe fod Robinson a’r tîm hyfforddi yng Nghymru wedi bod yn allweddol wrth i chwaraewyr Cymru ennill medalau Paralympaidd, Byd, Ewropeaidd a Chymanwlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda Davies a Stacey ymhlith y rhai sydd wedi profi llwyddiant.

“Mae Neil yn hyfforddwr da iawn, mae wedi datblygu llawer o brofiad, ac mae bob amser yn gadarnhaol iawn,” meddai Karabardak.

“Mae’n rheoli’r amrywiaeth o chwaraewyr yn dda iawn. Mae gennym ni chwaraewyr gyda gwahanol fathau o anableddau. Mae rhai yn ddifrifol iawn, mae rhai yn llai difrifol ac mae hynny'n golygu bod gan bawb eu ffordd eu hunain o hyfforddi a gwahanol bethau maen nhw'n hoffi eu gwneud.

“Mae hyfforddwr da yn sylweddoli bod angen arferion gwahanol gyda phobl wahanol i reoli nid yn unig eu galluoedd, ond pethau fel blinder ac anafiadau. Mae Neil yn dda iawn am hynny.”

Nid dim ond yn ei waith gydag athletwyr elitaidd mae’r sgiliau pobl craidd hynny – y gallu i ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu a thrin pob athletwr yn unigol – yn amlwg.

Mae'r un egwyddorion yn berthnasol, meddai, pan fydd yn gweithio gyda chleifion yn Llandochau, yn eu huned adsefydlu asgwrn cefn a niwro.

Ochr yn ochr â phencampwr Paralympaidd 2016 Davies a Matthews, trodd Robinson at dennis bwrdd wrth wella ei hun o anafiadau i’w asgwrn cefn a gafodd mewn damwain car pan oedd ond yn 18 oed. 

Digwyddiad yn newid bywyd

“Fe wnes i ddod o hyd i dennis bwrdd yn ystod fy mhroses adsefydlu ar ôl fy anaf,” meddai Robinson.

“Rydw i’n delio gydag ochr perfformiad pethau, ond yng nghefn fy meddwl rydw i bob amser wedi bod eisiau dod o hyd i ffordd o roi cyfle i bobl ag anafiadau i asgwrn y cefn chwarae tennis bwrdd, neu unrhyw gamp arall y gallent ei mwynhau.

“Fe wnes i ddechrau pan oedd Ysbyty Rookwood yn dal i fodoli, tua mis Chwefror 2020, ac wedyn fe darodd Covid ac yn amlwg roedd rhaid stopio.

“Fe gaeodd Rookwood ac aeth yr uned anafiadau i’r asgwrn cefn i Landochau. Ond fe wnes i gadw mewn cysylltiad, ac roeddwn i’n arfer mynd i sgwrsio gyda chleifion oedd wedi dioddef anafiadau. O hynny, rydw i wedi gallu eu cyflwyno nhw i chwarae tennis bwrdd.

“Unwaith eto, mae’n ymwneud â deall ac adnabod yr unigolyn. Mae rhai pobl eisiau chwarae i helpu eu hadsefydlu, rhai yn chwarae dim ond er mwyn cael hwyl, neu adloniant, neu efallai y byddan’ nhw’n mynd ymlaen i'w gymryd yn fwy difrifol fel rhywbeth maen nhw eisiau ymroi amser iddo ar gyfer symud ymlaen.

“Rydw i’n deall sut brofiad ydi wynebu digwyddiad sy’n newid eich bywyd chi. Mae gen i empathi ac efallai bod yr hyn rydw i'n ei ddweud am chwaraeon a'r manteision sydd ar gael yn fwy credadwy oherwydd fy mod i'n berson sydd wedi cael anaf i'r asgwrn cefn fy hun.”

Dydi’r rhan fwyaf o bobl, meddai Robinson, ddim yn dyheu am fod yn Rob Davies ac ennill medal aur Paralympaidd, ond gall gwerth chwaraeon fod yn hynod arwyddocaol iddyn nhw yr un fath.

“Roedd chwaraeon yn hynod bwerus i fy nghael i’n ôl ac yn rhan o gymdeithas. Fe all helpu gyda chymhelliant a datblygu penderfyniad, ar ba lefel bynnag rydych chi eisiau ei chwarae a'i mwynhau.

“Rydw i wedi gorfod rhoi’r gwaith ysbyty i’r naill ochr am ychydig, oherwydd y Gemau, ond fe fydda i’n mynd yn ôl yn sicr.”

Mae'n debygol y bydd yn gysylltiedig â mwy o lwyddiant medalau erbyn hynny hefyd.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy