Main Content CTA Title

Adnodd newydd yn mapio caeau artiffisial yng Nghymru

Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn falch o lansio adnodd newydd sbon ar gyfer y sector chwaraeon yng Nghymru. Mae’r adnodd yn rhan o Fap Data Cymru ac wedi'i gynllunio i gefnogi pawb sydd eisiau’r wybodaeth ddiweddaraf am gaeau artiffisial yng Nghymru. Nod y cydweithredu yw dod â’r data presennol at ei gilydd, a sicrhau eu bod yn parhau’n fyw ac yn weithredol, er mwyn hysbysu’r cyhoedd yn well am eu cyfleusterau lleol a helpu i wella penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.

Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Cymru:

“Mae’n newyddion gwych bod unrhyw un nawr yn gallu chwilio am leoliad ac argaeledd eu cae chwaraeon artiffisial agosaf drwy Fap Data Cymru. Mae’n cyfeirio pobl at lawer o’r cyfleusterau y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddyn nhw drwy Chwaraeon Cymru ac yn cefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu cyfleoedd cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i bobl ledled Cymru, i fwynhau manteision iechyd corfforol a meddyliol chwaraeon.”

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, Brian Davies, “Rydyn ni'n falch iawn o allu lansio’r adnodd yma ochr yn ochr â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Mae Chwaraeon Cymru, gan weithio gyda phartneriaid allweddol, wedi buddsoddi’n sylweddol yn natblygiad rhwydwaith y wlad o gaeau artiffisial. Mae sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ble mae’r cyfleusterau hynny, er mwyn cynllunio defnydd ohonyn nhw a manteisio i'r eithaf ar y buddion ar gyfer chwaraeon cymunedol, yn ystyriaeth bwysig. Mae’r adnodd newydd yma'n gam cadarnhaol tuag at gysylltu’r dotiau hynny.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Map Data Cymru.