Main Content CTA Title

Ffenestri ymgeisio newydd ar gyfer Cronfa Cymru Actif

Bydd Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yn cael ei gweithredu’n wahanol yn ystod 2025-26, gyda thair ‘ffenest’ ar gyfer gwneud ceisiadau.

Gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 sy’n galluogi clybiau a sefydliadau chwaraeon i brynu offer, gwella eu cyfleusterau a chefnogi datblygiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr fel eu bod yn gallu cefnogi mwy o bobl i fod yn actif.

Pan fydd Cronfa Cymru Actif yn agor ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd ar ddydd Mercher 2 Ebrill, bydd gan glybiau a sefydliadau tan ddydd Mercher 4 Mehefin i gyflwyno eu ceisiadau. Bydd y gronfa wedyn yn cael saib nes bydd yr ail ffenest ymgeisio yn agor rhwng dydd Mercher 9 Gorffennaf a dydd Mercher 17 Medi, tra bydd y drydedd ffenest ymgeisio, sef y cyfnod olaf ar gyfer 2025-26, yn agor rhwng dydd Mercher 5 Tachwedd a dydd Mercher 14 Ionawr.

Gyda miliynau o bunnoedd yn cael eu dyfarnu drwy Gronfa Cymru Actif bob blwyddyn, mae Chwaraeon Cymru yn cyflwyno’r ffenestri ymgeisio newydd i wneud yn siŵr bod pob ymgeisydd yn cael y safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid. Bydd y ffenestri hefyd yn rhoi mwy o amser i Chwaraeon Cymru ymgynghori â chyrff rheoli chwaraeon ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y ceisiadau’n cael eu blaenoriaethu ar sail yr angen mwyaf.

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r galw am Gronfa Cymru Actif dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn enfawr. Er ein bod ni’n amlwg yn croesawu hyn ac yn falch iawn o fod wedi cyllido miloedd o brosiectau gwych, roedden ni’n ymwybodol o’r amser yr oedd yn ei gymryd i ni brosesu’r ceisiadau.

“Er mwyn ein helpu ni i wneud penderfyniadau’n fwy prydlon, fe wnaethon ni dreialu cyflwyno ffenestri ymgeisio y llynedd. Roedd yr effaith yn gadarnhaol, felly byddwn yn gweithredu Cronfa Cymru Actif gyda thair ffenest ymgeisio ar wahân yn ystod 2025-26.”

Mae’n bwysig i glybiau a sefydliadau cymunedol nodi mai dim ond un cais llwyddiannus y flwyddyn y gallant ei wneud i Gronfa Cymru Actif o hyd. Os bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i glwb / sefydliad yn ystod unrhyw un o’r tair ffenest ymgeisio, ni fydd yn gallu gwneud cais am ragor o gyllid tan 2026-27.

Ychwanegodd Owen: “Mae’r tair ffenest yn adlewyrchu natur dymhorol chwaraeon yn y wlad hon a’r gofynion ar amser gwirfoddolwyr. Rydyn ni’n cynghori clybiau i ystyried ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd pryd byddant yn y sefyllfa orau i gyflwyno cais sy’n diwallu eu hanghenion.”

Mewn newid arall, rhaid i glybiau a sefydliadau cymunedol gyfrannu 10% o gyfanswm cost y prosiect nawr ar gyfer ceisiadau rhwng £300 a £25,000, tra bo angen cyfraniad lleiaf o 20% ar gyfer ceisiadau rhwng £25,001 a £50,000. Mae cyllid ar gyfer rhai eitemau gwerth uwch, fel llifoleuadau, yn parhau i gael ei gapio ar 50% o gyfanswm cost y prosiect.

Y cam cyntaf ar gyfer unrhyw glwb neu grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn cyllid yw llenwi'r ffurflen mynegi diddordeb mewn buddsoddiad cymunedol. Os bydd eich syniad yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, bydd Tîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn cysylltu â chi.

Wrth asesu ceisiadau cymwys, effaith gymunedol y prosiect fydd y pwynt allweddol a gaiff ei ystyried.

Cofiwch y bydd y Gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ y mae Chwaraeon Cymru yn ei gweithredu ar y cyd â Crowdfunder yn parhau ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae ‘Lle i Chwaraeon’ yn helpu i ddarparu cyllid ar gyfer cyfleusterau oddi ar y cae fel gwelliannau i ystafelloedd newid, gwell mynediad i bobl anabl ac ati.

Bydd Chwaraeon Cymru hefyd yn cynnig Grantiau Arbed Ynni i gefnogi cynlluniau clybiau ar gyfer mesurau arbed ynni a fydd yn arwain at filiau cyfleustodau is. Bydd y ceisiadau am Grantiau Arbed Ynni yn agor ddiwedd mis Mai a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Mae Tîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru wrth law i helpu unrhyw un sydd eisiau arweiniad a chyngor am gyllid. Gallwch anfon e-bost at y tîm ar BeActive@Sport.Wales neu eu ffonio ar 0300 3003102, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00-12:30 a 13:15-16:00.