Skip to main content

Newydd-ddyfodiaid rygbi Cymru a’u llwybrau gwahanol i Stadiwm y Principality

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Newydd-ddyfodiaid rygbi Cymru a’u llwybrau gwahanol i Stadiwm y Principality

Mae Dewi Lake a James Ratti yn brawf byw y gall rygbi mewn clybiau cymunedol yng Nghymru barhau i fynd â bachgen ifanc o gaeau’r pentref i Stadiwm y Principality.

Ac weithiau gall y trawsnewid o uchelgeisiau plentyndod i fyw'r freuddwyd ddigwydd dros nos bron.

Cyn i ornest bresennol y Chwe Gwlad ddechrau, ychydig iawn fyddai wedi betio y byddai Lake, 22 oed, a Ratti, 24 oed, yn rhan o'r twrnamaint.

Ond wrth i Gymru symud tuag at rownd tri gartref yn erbyn Lloegr, mae bachwr y Gweilch, Lake, a blaenwr rheng ôl Caerdydd, Ratti, yn mwynhau pob eiliad o’u cynnydd i garfan genedlaethol hŷn y dynion am y tro cyntaf.

Dewi Lake yn chwarae rygbi dros Cymru
Dewi Lake yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru Llun: WRU

Dewi Lake

Daeth Lake oddi ar fainc yr eilyddion i ennill ei gap cyntaf yn erbyn Iwerddon yn Nulyn – gan gwblhau siwrnai a ddechreuodd yn ei dref enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr, pan ddechreuodd chwarae rygbi i’r Valley Ravens.

Rhoddodd y Ravens – tîm a sefydlwyd i gynnig cyfleoedd i blant drwy bwlio adnoddau clybiau Nantymoel, Cwm Ogwr a Phontycymer – ei flas cyntaf o’r gamp iddo, a thanio’i angerdd.

O’r fan honno, aeth Lake ymlaen i chwarae i Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr, Nantyffyllon, Cwm Ogwr, Ravens Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Castell-nedd ac wedyn y Gweilch.

Tra oedd yn brysur yn mwynhau'r gamp, yn dysgu ac yn gwneud cynnydd, roedd y rhai sy'n gweithio i adnabod talent yn cadw llygad barcud arno.

Chwaraeodd i dimau’r grwpiau oedran cenedlaethol, gan gynnwys tîm dan 20 Cymru, y bu’n gapten cofiadwy arno mewn buddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd dair blynedd yn ôl.

Ond yn ystod y dyddiau cynnar hynny, yn chwarae gyda’i ffrindiau, ddaeth ei gariad at y gêm – a’r ymdeimlad o berthyn yr oedd yn ei gynnig – yn sylfaen i’w lwyddiant.

“Mae llawer o fy ffrindiau gorau i’n fechgyn wnes i gwrdd â nhw wrth gymryd rhan mewn chwaraeon yn ifanc,” meddai Lake.

“Fe ddysgodd y clybiau hynny lawer i mi am dyfu i fyny. Roedd hefyd yn rhoi rhywbeth i mi ei wneud bob nos Fawrth a nos Iau.

“Doedden ni ddim i gyd yn mynd i’r un ysgol oherwydd roeddwn i yn yr ysgol Gymraeg, ond roedd yn dda bod gyda’r bechgyn eraill hynny yn yr amgylchedd hwnnw.

“Mewn un ystyr, rydw i’n colli’r amseroedd hynny mewn rygbi iau, oherwydd roedd y cyfan yn ymwneud â mwynhad a chael amser da gyda’ch ffrindiau, a llai am ennill.

“Mewn chwaraeon proffesiynol, mae’n ymwneud llawer mwy ag ennill ac er y gallwch chi gael hwyl o hyd, nid yw cweit yr un fath.” 

Mae llawer o heriau wedi bod ar hyd y ffordd i Lake, ac yn sicr gorfod newid safle o flaenwr rheng ôl i fod yn fachwr ar gyngor ei hyfforddwyr.

Ond mae dysgu delio ag anawsterau yn ifanc, yn ei ddyddiau cynnar, wedi rhoi gwytnwch iddo i ddal ati pan fydd pethau’n mynd yn anodd.

Yn fwy diweddar, bu’n rhaid iddo ymdopi â blwyddyn allan yn gwella o anaf difrifol i’w bigwrn, a ohiriodd ei gynnydd i fod yn aelod o’r garfan genedlaethol fwy na thebyg.

“Rydych chi'n datblygu mwy drwy fynd drwy gyfnodau anodd. Rydych chi'n defnyddio’r profiadau hynny o wahanol adegau yn eich bywyd ac yn eu troi nhw'n brofiadau dysgu.

“Roedd rhaid i mi ddysgu llawer pan oeddwn i’n ifanc – sut i ymdopi â phwysau a pheidio â chael fy siomi’n ormodol os nad oeddwn i’n cael fy newis.”

James Ratti yn pasio'r bêl yn hyfforddiant rygbi Cymru
James Ratti yn pasio'r bêl yn hyfforddiant rygbi Cymru. Llun: WRU

James Ratti

Mae Ratti – a gafodd ei fagu yn Abertawe, ond sydd wedi gwneud ei farc ar ôl symud i chwarae yng Nghaerdydd – wedi bod ar lwybr tebyg i Lake.

Chwaraeodd ei rygbi iau yng Nghlwb Rygbi Dynfant, clwb yn Abertawe sy'n enwog am y nifer fawr o fechgyn a merched maent yn rhoi cychwyn iddynt drwy eu sesiynau Dynfant Devils a lle'r oedd ei dad Lee yn hyfforddwr.

“Fe wnaeth e fy hyfforddi i pan ddechreuais i dan saith yr holl ffordd hyd at y garfan dan 16,” meddai Ratti.

“Roedd yn uwch hyfforddwr Dynfant ar yr adeg y dechreuais i chwarae, ond ar ôl rhai blynyddoedd daeth yn hyfforddwr Tata Steel, ac roedd yno am 10 mlynedd.”

Bu Ratti hefyd yn chwarae yn Ysgol Llandeilo Ferwallt, Coleg Llanymddyfri a Choleg Gŵyr, cyn symud i fyny ac ymlaen gydag Aberafon ac Academi’r Gweilch.

Fel Lake, nid yw’r llwybr wedi bod yn gwbl hawdd iddo o bell ffordd. Ni wnaeth ei gyfnod gyda’r Gweilch agor y drws at le yn eu tîm cyntaf, felly aeth i lawr haen i Uwch Gynghrair Cymru ac ymuno â Chlwb Rygbi Caerdydd.

O’r fan honno, fe ddaliodd ei berfformiadau sylw tîm rhanbarthol Caerdydd ac fe gamodd yn ôl i fyny lefel – gan brofi weithiau bod angen i chi symud i’r ochr neu i lawr i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod.

“Rydw i’n hoffi meddwl ’mod i bob amser yn credu,” meddai.

“Mae gennych chi gyfnodau pan mae eich pen yn y mwd, ond dydw i ddim yn meddwl eich bod chi'n rhoi’r gorau i feddwl hynny.

“Os nad ydych chi'n credu y gallwch chi gyrraedd yno, mae'n debyg ei fod yn effeithio ar eich hyfforddiant a'ch perfformiadau.

“Pan gefais i le yn sgwad Cymru, roedd fy nhad wedi gwirioni. Mae wedi fy nghefnogi i ar hyd y siwrnai rydw i wedi bod arni ar bob lefel.

“Hyd yn oed pan oedd fy mhen i braidd yn isel, mae wedi rhoi cic yn fy mhen ôl i a gwneud i mi ddal ati i wthio ymlaen.” 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy