Gan ddefnyddio ei angerdd dros iechyd corfforol a meddyliol positif, mae Haydn bellach yn rhedeg FitYard, gan helpu cannoedd o bobl ym mhentref Ystrad Mynach a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd drwy ddosbarthiadau ar-lein.
Wrth drafod y cysylltiad rhwng iechyd corfforol a meddyliol, dywedodd Haydn: “Roeddwn i’n swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl gwirfoddol yn y fyddin ac rydw i wedi gweld yn uniongyrchol y manteision mae ymarfer corff yn eu cynnig i les. Mae marchnad enfawr i bobl ifanc mewn ffitrwydd drwy gampfeydd a dosbarthiadau, ond dim llawer ar gyfer y bobl hŷn yn ein cymuned ni. Fel rhywun wedi ymddeol fy hun, rydw i’n gwybod nad ydi pawb yn gyfforddus mewn campfa, yn enwedig ar hyn o bryd yn ystod y pandemig.
“Ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf, mae llawer o’n cymuned ni wedi bod yn cysgodi, mae llawer o’r rheini’n bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain ac a fyddai wedi mynd am gyfnodau hir heb unrhyw gyswllt ag unrhyw un. Yn ogystal â chynnal ein dosbarthiadau ar-lein, fel bod pobl yn gallu cymryd rhan o’u hystafelloedd byw a’u gerddi, fe wnaethon ni hefyd sefydlu gweithgareddau adloniant wythnosol fel bingo i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad.”
Mae cyn-athro, Roger Price, 73 oed, a chyn-nyrs, Rose Batton, 71 oed, y ddau wedi ymddeol, ymhlith y nifer fawr o bobl sydd wedi bod yn mynychu'r dosbarthiadau FitYard gyda Haydn. Gan rannu ei brofiadau, dywedodd Roger: “Ddwy flynedd yn ôl, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu gwneud naid seren, a nawr, yn 73 oed, rydw i’n rhedeg pellteroedd o 10km. Mae’r dosbarthiadau yma wedi rhoi strwythur a chymhelliant i mi na fyddwn i wedi ei gael fel arall, maen nhw wedi trawsnewid fy mywyd i. Mae’r cyfnodau clo wedi bod yn brofiadau ynysig iawn ac ochr yn ochr â damwain gefais i gan dorri fy mhigwrn, roeddwn i mewn perygl o fod yn isel iawn o ran fy agwedd i at bethau. Fe wnaeth y dosbarthiadau fy nghadw i i fynd ac maen nhw wedi gwella fy lles yn fawr. ”