Wrth drafod effeithiau cysgodi yn ystod y pandemig, dywedodd Maggie: “Fe wnaeth fy niddordeb i mewn chwarae tennis leihau yn ystod y cyfnod clo a phan ddychwelodd tennis, roedd gen i feddyliau negyddol am ddychwelyd i chwarae. Doeddwn i ddim wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw bobl eraill a doeddwn i ddim wedi bod o fy nghartref heblaw am i ymweld â theulu agos yn lleol. Roeddwn i’n nerfus ac yn teimlo'n bryderus ond fe es i i'r sesiwn cyntaf a chadw fy mhellter oherwydd bod angen.
“Er gwaethaf hyn, rydw i wedi dal ati i fynychu bob wythnos ac rydw i’n falch o weld fy hen ffrindiau eto. Mae fy mhryderon i wedi mynd bellach ac mae wedi codi fy ysbryd i. Nid dim ond gweithgaredd yw chwaraeon, mae'r bobl rydyn ni'n ymarfer gyda nhw a'r bobl rydyn ni'n chwarae gyda nhw yn ffactorau pwysig sy'n cyfrannu at fwynhau'r profiad cyfan. "
Mae adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl ledled Cymru yn dal i roi gwybod am deimladau o unigedd ac unigrwydd ond bod cynyddu gweithgarwch corfforol gydag elfen gymdeithasol yn effeithiol i wella canlyniadau iechyd meddwl.
Wrth drafod buddion dychwelyd i chwaraeon, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n annog pobl ledled Cymru i fod nôl yn y gêm yn eu ffordd eu hunain, boed drwy fod yn rhan o dîm eto, mynd allan ac ailgysylltu â'r gymuned leol, cael y teimlad braf hwnnw ar ôl ymarfer neu ddim ond cael hwyl. Gyda Wimbledon yn dychwelyd yr wythnos yma am y tro cyntaf mewn dwy flynedd, mae stori Maggie yn esiampl ysbrydoledig o’r effeithiau cadarnhaol y mae ymarfer corff yn eu cael ar les corfforol a meddyliol.”