Gyda phobl ledled Cymru nôl yn y gêm wrth i’r cyfyngiadau ar chwaraeon godi, mae dyn o Gaerdydd sy’n Gymro a hefyd yn Fangladeshaidd yn helpu Mwslimiaid eraill i ailgysylltu â chwaraeon wrth ymprydio fel rhan o Ramadan.
Jalal Goni, 31, yw rheolwr a sylfaenydd Clwb Pêl Droed Dreigiau Bengal ac mae wedi bod yn cael ei chwaraewyr i gynnwys pêl droed yn ôl yn eu trefn wythnosol ochr yn ochr ag ymrwymiadau i osgoi bwyd a dŵr yn ystod oriau golau dydd.
Er bod cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon yn ystod Ramadan wedi parhau ers canrifoedd, gallai eleni deimlo'n anoddach i filoedd o Fwslimiaid ledled Cymru ar ôl llai o ymarfer corff yn ystod y pandemig.
Mae ein hymchwil yn awgrymu bod mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn i'r pandemig ddechrau, tra bod 60% o oedolion yn bwriadu cynyddu faint o weithgarwch corfforol ac ymarfer fyddant yn ei wneud wrth i Gymru ddod allan o’r cyfnod clo.