Main Content CTA Title

CYFNOD ATAL BYR: BETH MAE'N EI OLYGU I CHWARAEON AC YMARFER

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. CYFNOD ATAL BYR: BETH MAE'N EI OLYGU I CHWARAEON AC YMARFER

 

 

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi cyfyngiadau clo cyflym sydd i’w gynnal rhwng Dydd Gwener 23ain Hydref (o 6pm ymlaen) a dydd Llun 9fed Tachwedd.

 

Y RHEOLAU AR GYFER CHWARAEON AC YMARFER  

  • Dylid ymarfer yn lleol

    Dylid ymarfer yn lleol – o’r cartref neu mor agos â phosib at y cartref. Yn gyffredinol, ni ddylai hyn gynnwys pobl sy’n gyrru i leoliad o’u cartref ar gyfer y diben yma. 
     
  • Oedi gyda chwaraeon trefnus a chyfleusterau

    Bydd unrhyw chwaraeon trefnus ac unrhyw gyfleusterau ar gau yn ystod y cyfnod torri’r cylch, gan gynnwys clybiau golff a thennis.
     
  • Dim cyfyngiadau ar amledd na hyd ymarfer

    Gallwch adael eich cartref fel rydych yn dymuno i ymarfer dim ond eich bod yn gwneud hynny o’ch cartref ac ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch teulu (a/neu ofalwr).

 

Gallwch gael mwy o wybodaeth yng nghwestiynau cyffredin Llywodraeth Cymru am y cyfnod torri’r cylch.

 

FFYNONELLAU O GEFNOGAETH

 

 

Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth a CHYLLID YCHWANEGOL yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Cofrestrwch gyda'n rhestr bostio i dderbyn y diweddariadau i gyd.