Bob blwyddyn, rydyn ni’n gweld hyfforddwyr a gwirfoddolwyr chwaraeon ledled Cymru yn cymryd camau i dyfu, arallgyfeirio a datblygu eu clybiau.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob person yng Nghymru yn cael y cyfle a’r gallu i fod yn actif a’r llynedd fe wnaethon ni gefnogi rhai prosiectau gwych a helpodd i wneud yn union hynny. Roedden ni eisiau rhannu rhai o’r rhain gyda chi, fel eich bod yn gallu cael ysbrydoliaeth ar gyfer eich clwb yn 2024.
Addasu eich sesiynau ar gyfer pobl ag anghenion gwahanol
Yn ôl fersiwn diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn rheolaidd.
Mae llawer o resymau pam na fydd rhywun eisiau cymryd rhan efallai, ac rydyn ni’n gwybod bod y lefelau cyfranogiad yn parhau i fod yn is na’r cyfartaledd ar gyfer merched, oedolion anabl a’r rhai sy’n byw mewn amddifadedd materol.
Gall eich clwb chi wneud sesiynau’n fwy cynhwysol i bobl sy’n profi rhwystrau i chwaraeon drwy addasu ei sesiynau i ddiwallu eu hanghenion. Dyma rai o’n hoff enghreifftiau ni:
- Dechreuodd Clwb Bowls Merched Rhiwbeina sesiwn Feterans i’w aelodau hŷn oedd yn cael anhawster cadw i fyny gyda’r dosbarthiadau rheolaidd.
- Cafodd Clwb Pêl Droed Iau Tref Shotton ei greu er mwyn sicrhau bod lle i blant byddar neu drwm eu clyw i fod yn actif a chwarae pêl droed.
- Gwelodd Clwb Pêl Osgoi Dreigiau y Rhondda o’r Arolwg Chwaraeon Ysgol y byddai mwy na 100,000 o blant yng Nghymru yn hoffi mwy o gyfleoedd i chwarae pêl osgoi, felly fe aeth ati i greu tîm iau.
- Lansiodd Clwb Pêl Fasged Aberystwyth sesiynau pêl fasged tywynnu yn y tywyllwch i helpu merched a genethod yn eu clwb i deimlo’n fwy cyfforddus.
- Mae Clwb Hoci Dysynni wedi addasu ei gamp i fod yn addas i angenion ei holl gyfranowyr, gyda hoci cerdded ar gyfer y rhai sydd eisiau cymryd pethau ychydig yn arafach, a hoci dan do yn ystod misoedd oerach y flwyddyn.