Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiadau nofio Nadoligaidd yng Nghymru? Os ydych chi’n barod i fentro i ddyfroedd rhewllyd Cymru, gallwch ddewis rhwng sesiynau nofio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Ers blynyddoedd lawer mae miloedd o bobl o bob rhan o’r wlad wedi bod yn trochi yn nyfroedd rhewllyd Cymru yn y traddodiad Nadoligaidd anarferol hwn. Mae rhai yn gwisgo eu hoff wisg ffansi ac yn codi arian at elusen. Ond i eraill, mae nofio mewn dŵr oer yn arferiad oes – nid dim ond yn ystod yr ŵyl.
Mae gan Mental Health Swims 11 o grwpiau ledled Cymru sy’n cofleidio’r dŵr oer drwy gydol y flwyddyn! Ac nid yn unig am y buddion y gall eu sicrhau i adferiad, lleihau llid a dolur y cyhyrau. Maen nhw'n ei wneud i roi hwb i'w hiechyd meddwl ac am yr ymdeimlad cryf o gymuned mae’n ei gynnig.
Meddai Sarah Groves, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol yn Mental Health Swims: “Mae ymdrochi mewn dŵr oer yn ailosod meddwl prysur, a all fod o help mawr pan rydych chi'n cael anhawster gyda'ch iechyd meddwl. Mae’r wefr bositif wedyn yn galonogol iawn”
Mae Traciwr Gweithgarwch Cymru diweddar Chwaraeon Cymru yn dangos bod cymaint o bobl yn gwneud ymarfer corff er lles eu hiechyd meddwl â sydd i wella eu hiechyd corfforol.
Oherwydd hyn, mae mwy a mwy o bobl yn ymuno â grwpiau nofio dŵr oer. I ateb y galw cynyddol, dyfarnwyd £4,350 o arian y Loteri Genedlaethol i Mental Health Swims gan Chwaraeon Cymru yn gynharach eleni i’w helpu i brynu offer nofio awyr agored fel bod y rhai sy’n methu fforddio hynny’n gallu ymuno yn yr hwyl yn y dŵr oer.
Felly, a oes amser gwell i fentro i ddŵr oer na gyda thyrfa llawn cyffro yn un o sesiynau nofio Nadoligaidd Cymru? Dysgwch am fanteision therapi dŵr oer a'i wneud yn fwy na thraddodiad unwaith y flwyddyn.
Dyma restr o ddigwyddiadau nofio Nadoligaidd yng Nghymru y gallwch chi roi cynnig arnynt.
Ble alla i fynd am sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?
Sesiwn Nofio Dydd Nadolig Porthcawl
Pryd? 25 Rhagfyr Mae'r digwyddiad yn dechrau am 10:30am a'r nofio yn dechrau am 11:45am
Ble? Traeth Coney, Porthcawl
Mae sesiwn Nofio Nadolig Porthcawl wedi bod yn digwydd ers 1965 ac mae’r un mor boblogaidd ag erioed. Mae mwy na mil o bobl yn rhuthro i’r dŵr ar draeth Coney bob blwyddyn.
Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Dydd Nadolig Porthcawl.
Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan Dinbych-y-pysgod
Pryd? 26 Rhagfyr. Mae'r digwyddiad yn dechrau am 11am a'r nofio’n dechrau am 11:30am.
Ble? Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod
Sesiwn nofio Nadoligaidd arall sy’n llawn traddodiad – mae pobl Sir Benfro wedi bod yn tyrru i’r tonnau ar Draeth y Gogledd ar Ŵyl San Steffan ers dros 50 mlynedd.
Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan Dinbych-y-pysgod.