Pan enillodd Alys Thomas y teitl pili pala 200m yng Ngemau Cymanwlad 2018, nid yn unig oedd hynny'n achos dathlu yng Nghymru, ond hefyd creodd ei buddugoliaeth gynnwrf mawr ar draws pyllau ym mhob cwr o'r byd.
Nofio - dyma'r Cymry i'w gwylio
Llun: Tim Cymru
Enillodd Thomas mewn 2:05.45, record newydd i'r Gemau, ac un a fyddai wedi ei gweld ar y podiwm yn y pedair Pencampwriaeth Byd ddiwethaf ac ar y ris uchaf yn 2011 a 2015.
Symudodd y ferch ifanc 27 oed ar y pryd i'r prif fwrdd, ond gyda'i chynnydd daeth pethau nad oedd yn barod amdanynt.
Yr holl sylw, disgwyliadau pobl eraill a'i disgwyliadau ei hun, y pwysau annisgwyl sy'n gallu deillio o lwyddiant.
Mae'n gallu anesmwytho athletwr sydd heb arfer â sylw o'r fath ac mae Thomas yn cyfaddef ei bod wedi cymryd amser i addasu.
Meddai: "Doeddwn i heb orfod delio ag unrhyw beth felly o'r blaen.
"Roedd saethu mor sydyn i frig y safleoedd ac wedyn yr holl erthyglau ar-lein ac ar y cyfryngau - a'r diddordeb ychwanegol. Yn sydyn iawn, roedd llygaid pawb arna' i.
"Mae pobl eisiau eich helpu a'ch cefnogi chi yn y ffordd orau bosib ond mae'n stwff ychwanegol dydw i heb arfer ag o felly mae'n rhaid i mi addasu ac rydw i'n gwybod mai fy muddiannau gorau i ydi'r nod.
"Mae wedi cymryd dipyn o amser i mi arfer. Dim ond i mi ddal ati i wneud yr un peth, does dim fedr fynd o'i le a dweud y gwir."
Mae Thomas yn un o bedwar nofiwr o Gymru - gyda Georgia Davies, Dan Jervis a Calum Jarvis - a fydd yn teithio i Gwangju, De Korea, ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd yn nes ymlaen y mis yma.
Dyma ail deitlau byd i'r nofwraig o Abertawe. Ddwy flynedd yn ôl, oherwydd salwch, ni chafodd siawns yn Budapest, gan fethu cyrraedd rownd derfynol y 100m a'r 200m. Nofiodd gymal pili pala yn sgwad cyfnewid cymysg 4x100m merched Prydain Fawr (a gorffen yn seithfed).
Mae ei hamser buddugol o 2:07.40 ym Mhencampwriaethau Prydain ym mis Ebrill yn ei gosod yn 10fed yn y byd a chafwyd dilyniant o berfformiadau cyson ganddi yn ystod y gyfres Mare Nostrum.
Mae Jarvis yn gobeithio cael tri theitl byd yn olynol gyda thîm cyfnewid 4x200m y dynion a bydd Davies yn gobeithio efelychu 2018 lwyddiannus pryd dilynodd ddwy fedal efydd y Gymanwlad gydag aur ac arian yn y 50m a'r 100m dull cefn, yn ogystal ag aur ac efydd cyfnewid ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Glasgow.
Llun: Tim Cymru
Creodd Jervis gynnwrf mawr yn y dull rhydd pellter wrth glocio 14:46.51 yn y 1500m ym Mhencampwriaethau Prydain ym mis Ebrill.
Dim ond 0.56 eiliad oedd Jervis oddi wrth record Brydeinig David Davies o 2004, a dyrchafodd Jervis i'r trydydd safle yn y byd yn 2019 - ond bydd efelychu'r math hwnnw o berfformiad yng nghrochan Gwangju wrth wynebu mawredd pencampwr Olympaidd a byd dwbl, Gregorio Paltrinieri, yn stori arall.
Mae Jazz Carlin yn hen gyfarwydd â gofynion a heriau chwaraeon byd-eang a chymerodd chwe blynedd i'r Gymraes hawlio ei hail fedal byd yn y dull rhydd 800m ar ôl ei chyntaf yn ras gyfnewid Prydain Fawr ym mhencampwriaethau'r byd yn 2009.
Flwyddyn yn ddiweddarach wrth gwrs enillodd ddwy fedal Olympaidd a thynnodd sylw at y ffaith mai dim ond 12 mis sydd i fynd tan Tokyo 2020.
"Wrth edrych ymlaen, rydw i'n meddwl ei fod yn dîm cyffrous iawn," meddai. "Dim ond blwyddyn sydd i fynd tan y Gemau Olympaidd hefyd, felly mae pawb eisiau rhoi perfformiad da wrth fynd i'r Gemau Olympaidd ar lwyfan y byd, oherwydd fe fyddan' nhw'n wynebu goreuon y byd.
"Mae Dan ac Alys yn benodol wedi cael blwyddyn wych y llynedd ac fe fyddan' nhw wir yn gobeithio dangos eu hunain ar lwyfan y byd i ddangos pa mor dda ydyn nhw i bawb arall.
"Rydw i'n meddwl eu bod nhw mewn sefyllfa dda iawn: maen nhw wedi rhoi perfformiadau gwych, ac wedi nofio'n dda mewn treialon.
"Mae'n bwysig cael bloc ymarfer cyson wrth i'r pencampwriaethau byd agosau. Maen nhw bron yma. Mae'n gyffrous iawn. Rydw i wir yn edrych ymlaen at fod yr ochr arall y tro yma."
Ar ôl y perfformiad dull rhydd 1500m gan Jervis yn Glasgow, talodd deyrnged i Carlin, gan ddweud ei fod yn ei hedmygu fel model rôl.
Dywedodd Carlin: "Rydw i'n teimlo'n lwcus o fod wedi bod yn yr un tîm ag o. Mae'n un o'r bobl hynny mae pawb yn ei gefnogi am ei fod yn berson mor anhygoel.
"Roeddwn i wedi 'nghyffwrdd wrth ei glywed yn dweud hynny, oherwydd rydw i wedi bod i ffwrdd mewn timau gydag o am flynyddoedd.
"Mae mor neis yn dweud hyn'na. Mae'n haeddu pob llwyddiant: rydw i'n gwybod ei fod yn gweithio'n galed iawn ac mae'n berson hyfryd hefyd."
Gyda phawb yn cefnogi ei gilydd, mae'n argoeli'n dda am flwyddyn gyffrous i nofwyr Cymru.
Georgia Davies - Llun: Team Wales