Skip to main content

O Hong Kong i Hoci Cymru – siwrnai hyfforddi Singh Jasminder Bal

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. O Hong Kong i Hoci Cymru – siwrnai hyfforddi Singh Jasminder Bal

Mae gan Singh Jasminder Bal glip ar-lein ohono’i hun yn cael y gorau ar gôl-geidwad, sydd wedi’i wylio fwy na 12,000 o weithiau, ond mae’n dal i gredu mai fel hyfforddwr y bydd yn cael yr effaith fwyaf. 

Mae’r fideo o’r chwaraewr gyda Chlwb Hoci Penarth – yn fflicio’r bêl i fyny gyda’i ffon yn gwbl ddidaro ac yn ei thapio, gyda’i gefn at y gôl, dros ben y gôl-geidwad sy’n chwifio ei freichiau – yn drawiadol ac yn werth ei wylio ar Twitter.

Ond felly hefyd y siwrnai hyfforddi mae’r llanc 27 oed wedi’i dilyn. Yn ddiweddar mae wedi’i benodi fel hyfforddwr datblygu ar gyfer bechgyn D16 a D18 Cymru, ochr yn ochr ag Ieuan Bartlett.

Weithiau mewn chwaraeon, mae chwaraewyr yn teimlo tynfa hyfforddi ymhell cyn ei bod yn amser iddynt roi eu styds, eu raced neu eu ffon hoci i gadw, ac mae Jasminder – a symudodd i Gymru 10 mlynedd yn ôl o Hong Kong – yn un o’r rhai hynny.

Roedd Jose Mourinho eisiau hyfforddi yn ei 20au yn ôl y sôn, trodd Wayne Pivac at hyfforddi yn 28 oed yn dilyn problemau gyda’i ben-glin, dim ond 20 oed oedd Mike Hesson o Seland Newydd – un o’r hyfforddwyr criced mwyaf llwyddiannus ar hyn o bryd – pan benderfynodd addysgu eraill am sut i ddefnyddio bat yn hytrach na chydio yn y bat ei hun.

Athletau oedd cariad cyntaf Jasminder, a’r naid uchel yn benodol, ond wedyn newidiodd at hoci ar ôl dwy flynedd o ymgolli yn y busnes teuluol ar ôl cyrraedd i Gymru i ddechrau. 

Ymunodd â Chlwb Hoci Llanisien a Chaerffili a phan oeddent yn brin o hyfforddwyr, penderfynodd estyn am ei dracwsig a’i chwiban a dechrau cymryd rhan.                      

Hyfforddi a Chwarae

“Doedd gen i ddim profiad o hyfforddi o gwbl, dim ond chwarae, ond rydw i’n hoff iawn o’r gamp ac roeddwn i’n mwynhau gwylio’r chwaraewyr yn datblygu,” meddai Jasminder.

“Rydw i’n hoffi gweld sut mae pobl yn gallu dysgu am fywyd a pherthnasoedd drwy chwaraeon. Mae chwaraeon yn addysgu pobl am sut i gefnogi a gwella ei gilydd ac os ydych chi’n hyfforddwr sy’n galluogi chwaraewyr i wneud hynny, mae’n rhoi llawer iawn o foddhad i chi.         

“Rydw i wedi ceisio gwirfoddoli bob amser pan oedd cyfleoedd ar gael, cwblhau cyrsiau hyfforddi a cheisio gwella ym mhob cam.           

“Dydw i erioed wedi cytuno bod rhaid i hyfforddwyr fod yn gyn-chwaraewyr. Pam aros nes eich bod chi wedi stopio chwarae? Rydw i’n chwaraewr o hyd, ond yn hyfforddwr hefyd. Mae’r ddau’n mynd law yn llaw ac yn helpu ei gilydd. 

“Pe bawn i’n cael anaf fory, fe fyddwn i dal mewn cysylltiad â’r gamp ar unwaith drwy hyfforddi. ’Fyddai dim rhaid i mi ddechrau eto.”                           

Talodd Llanisien a Chaerffili i'w hyfforddwr ifanc uchelgeisiol ddilyn ei gyrsiau cynnar, cyn iddo symud ymlaen i rôl hyfforddi ym Mhrifysgol De Cymru a chasglu cymwysterau hyfforddi pellach yn Lloegr.

Gyda dyfarniad lefel dau dan ei gesail, mae wedi mynd ymlaen i gael mwy o brofiad hyfforddi gyda Howardians Ladies a chyfnod fel hyfforddwr cynorthwyol carfan dynion Dros 35 oed Cymru.

Nawr, bydd Jasminder yn cysylltu â thimau grwpiau oedran Cymru wrth iddo gyfuno cwrs hyfforddi chwaraeon ym Met Caerdydd gyda'i gymhwyster lefel tri gan y Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol.

Yn ogystal â hyn i gyd, mae'n dal i ddod o hyd i amser i chwarae i Benarth. Neu, o leiaf roedd yn gwneud hynny tan i'r pandemig ddod â hoci i stop.

Hyd yma, mae'r un rhwystr wedi ei atal rhag mynd ar gae hyfforddi gyda phobl ifanc Cymru, er bod sesiynau Zoom ar-lein wedi galluogi iddo oruchwylio rhai sgiliau, ymarferion a rhaglenni ffitrwydd o leiaf.

Mae hynny'n gadael mymryn o amser ar gyfer un prosiect arall – Alien Hockey, cwmni cyflenwadau ac offer hoci y mae Jasminder yn gyfarwyddwr arno.

Singh Jasminder Bal yn chwarae hoci
Singh Jasminder Bal yn saethu am gôl

Y Pwysigrwydd o Cystadleuaeth

“Gobeithio y gallwn ni fynd ar y cae eto’n fuan iawn oherwydd mae gan y tîm D18 gemau Ewropeaidd rydyn ni eisiau gallu eu chwarae yr haf yma. 

“Rydyn ni’n gweithio gyda’r chwaraewyr ar-lein ond mae pawb eisiau mynd yn ôl allan yna nawr.”

I’r hyfforddwr grwpiau oedran newydd, o ran yr ieuenctid, dim ond crafu’r wyneb mae hoci fel camp cyfranogiad, ond mae angen ysgolion i ehangu’r dewisiadau sydd ar gael os yw am ffynnu mewn mwy o lefydd na’i lleoliadau traddodiadol. 

“Dylai ysgolion drefnu mwy o dwrnameintiau ymhlith ei gilydd. Does dim rhaid iddo fod yn bêl droed, rygbi na hyd yn oed hoci. Gallai fod yn bêl osgoi.

"Pam na all ysgolion gynnal cystadlaethau rhwng ysgolion mewn amrywiaeth o chwaraeon? Os byddwch chi’n cyflwyno camp fel hoci am chwe wythnos, ond heb unrhyw gystadleuaeth wedyn, mae plant yn anghofio amdani ac yn symud ymlaen.

"Mae angen cystadleuaeth fel eu bod nhw’n gallu cyffroi am wella ac ennill ac mae hynny'n dod o fod yn gystadleuol."

Mae cystadleuaeth, mynna, yn gwneud meistroli’r sgiliau’n fwy o hwyl – sy'n dod â ni'n ôl at y clip nodedig hwnnw o'i gôl mewn sesiwn hyfforddi a drefnwyd rhwng Penarth a sgwad grŵp oedran merched Cymru.

"Roeddwn i wedi gweld fideo o chwaraewr o Dde Corea (Lee Nam-young) mewn gornest o giciau cosb yn erbyn India, lle mae'n fflicio’r bêl i fyny dros ben y gôl-geidwad.

"Felly, roeddwn i'n chwarae o gwmpas cyn y sesiwn hyfforddi ac yn meddwl y byddwn i'n rhoi cynnig arni. Dipyn o hwyl oedd y cyfan a dyna ddylai chwaraeon fod."

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy