Skip to main content

O Ynys Môn i Gwpan America – Ymgyrch morwr o Gymru am fri mawr

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. O Ynys Môn i Gwpan America – Ymgyrch morwr o Gymru am fri mawr

Gall dychweliad y morwr o Gymru, Bleddyn Môn, i Gwpan America lunio llwybr i ieuenctid ei efelychu - yn ôl y gŵr sy'n bennaeth y gamp yng Nghymru.

Mae Môn wedi cael ei enwi fel aelod o griw Ineos Team UK, a fydd yn cystadlu yn erbyn cychod sy'n cynrychioli UDA a'r Eidal i geisio herio'r deiliaid, Seland Newydd, yn 2021.

Hwn fydd yr eildro i'r morwr a aned ym Mangor gael profiad o'r ras fwyaf yn y gamp gan ei fod wedi rasio yng Nghwpan America yn 2017 hefyd.

I Gerwyn Owen, Prif Weithredwr y Royal Yachting Association (RYA) Cymru, mae cael ei ddewis yn tynnu sylw at y cynnydd mae clybiau hwylio yng Nghymru wedi'i wneud.

"Mae'n dangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael mewn hwylio ac rydyn ni'n dymuno'r gorau i Bleddyn fel rhan o Ineos Team UK ac yn gobeithio y gall fod yn rhan o'r ymdrech i ennill Cwpan America," meddai Owen.

“Mae bob amser yn neis gweld rhai o gyn forwyr ein sgwad ni’n dilyn y llwybr confensiynol drwodd at gystadlu yn y Gemau Olympaidd, fel Hannah Mills a Chris Grube, ond mae hwn yn gyflawniad gwych hefyd i Bleddyn.

“Arferai fod yn forwr yn sgwad Cymru ar ôl dechrau hwylio yn Nhraeth Coch ar Ynys Môn, ac ar lefel ieuenctid roedd ar y podiwm ar lefel Prydain, Ewrop a’r Byd.”

Yn ddim ond 27 oed, mae Môn eisoes wedi cael llawer iawn o brofiad o hwylio ar y lefel uchaf ac mae wedi dod yn wyneb y gamp yng Nghymru i ryw raddau.

Wrth i Mills a Grube baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo y flwyddyn nesaf yn y dosbarthiadau Olympaidd llai, mae Môn wedi dilyn capten Ineos Team UK, Ben Ainslie, i rasio cefnfor.

Yn gweithredu bellach mewn elfen o hwylio sy’n debyg i F1 rasio ceir gyda’i phwyslais ar dechnoleg arloesol, a gyda gradd meistr mewn peirianneg, mae Môn hefyd wedi defnyddio ei gefndir academaidd i wneud ei hun ddwywaith mor ddefnyddiol fel arbenigwr dylunio a dadansoddi yn ogystal â morwr.

Roedd Môn yn aelod o griw Turn The Tide On Plastic, a gystadlodd yn Ras Cefnforoedd Volvo y llynedd. Roedd un o’r cymalau yn gorffen ym Mae Caerdydd, a oedd yn gyfle iddo ddangos atyniadau prifddinas Cymru i’r byd, yn ogystal â’r safonau a’r cyfleoedd hwylio yng Nghymru.

Ar ôl defnyddio cyllid cynllun Talent Cymru, gwnaeth ddefnydd da hefyd o gyfleusterau ei glwb hwylio lleol – Traeth Coch – ar ôl i’r clwb dderbyn grant datblygu gan Chwaraeon Cymru.

Cafodd le yn y sgwad datblygu Olympaidd ac efallai y byddai wedi mynd ar ôl ei uchelgais ar gyfer y Gemau oni bai ei fod yn cymryd rhan yn nigwyddiad Hwylio Eithafol Caerdydd ar ran Red Bull Racing, lle’r oedd yn ymgymryd ag interniaeth.

Roedd Cwpan America 2013 yn cael ei darlledu ar y teledu ac meddai Môn: “A dweud y gwir, hwnnw oedd y tro cyntaf i mi ei ddilyn yn iawn. Roeddwn i’n gwybod am y Cwpan ond doedd o ddim ar fy radar i go iawn.

“Olympaidd, Olympaidd, Olympaidd oedd bob dim i mi. Ond pan welais i’r rasio, fe wnes i feddwl, ‘s**t, mae hyn’na’n cŵl’. Ac roeddwn i’n cerdded i swyddfa Red Bull ac roedd yna bobl yno oedd yn gwybod dim byd am hwylio mae’n siŵr oedd yn siarad amdano fo. Roedd rhywbeth yn mynd ymlaen a dyna beth oeddwn i eisiau ei wneud.”

Er ei fod yn rhan erbyn hyn o ben cyfoethocaf a chrandiaf y gamp – mae Ineos Team UK yn cael ei gyllido gan y biliwnydd Syr Jim Ratcliffe – mae Môn yn dweud bod ei hoffter o hwylio wedi dechrau ar draethau Gogledd Cymru.

“Fe wnes i dyfu i fyny ar Ynys Môn ac fel teulu roedden ni’n treulio llawer o amser yn mynd i lawr i’r traeth bob gwyliau haf. Dydyn ni ddim yn deulu hwylio mewn unrhyw ffordd. Roedden ni jyst yn mynd i’r traeth yma ac roedd clwb hwylio yno. Heb feddwl bron, roedden ni wedi rhoi cynnig ar gwch.

“Roeddwn i’n rhan o garfan genedlaethol yn ddeg oed. Roedd pobl, hyfforddwyr neu bwy bynnag, oedd yn gallu edrych arnach chi a gweld llwybr. Fe wnes i benderfynu ’mod i’n mynd i ganolbwyntio ar hwylio.”

Mae ei gefndir ffitrwydd fel unigolyn da iawn mewn chwaraeon yn gyffredinol, ac a arferai chwarae criced a rygbi, wedi talu ar ei ganfed wrth iddo baratoi eto ar gyfer her gorfforol rasio cefnfor cyflym.

“Ar yr ochr hwylio, rydw i’n ôl fel greindar, yr un rôl ag o’r blaen ar fwrdd y cwch. Dyma’r rôl fwyaf corfforol felly mae mynd yn ôl i’r gampfa wedi bod yn dipyn o sioc i’r system.

“Ond mewn gwirionedd mae’r rhan fwyaf o fy amser i nawr yn cael ei dreulio ar yr ochr ddylunio, yn datblygu ac yn cynnal profion ac yn dadansoddi.

“Yn bersonol, rydw i’n teimlo nawr, gydag un ymgyrch Cwpan dan fy melt yn barod, ’mod i’n deall y broses yn well a gobeithio y bydd hynny yn fy rhoi i mewn lle da i berfformio’n dda ar ac oddi ar y dŵr.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy