Skip to main content

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. ‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi ei Gronfa Cymru Actif dros dro i geisiadau newydd o 12pm ar ddydd Mawrth 10 Medi ymlaen hyd nes bydd yn ailagor am 9am ar ddydd Llun 4 Tachwedd.

Gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol, dyfarnodd y gronfa werth mwy na £6m o grantiau i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol y llynedd er mwyn iddynt allu cefnogi mwy o bobl i ddod yn actif. Prif ddefnydd y cyllid yw prynu offer chwaraeon, gwella cyfleusterau a chefnogi datblygiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr.

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus: “Rydyn ni wedi cael ein boddi gan geisiadau i Gronfa Cymru Actif yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Dyma’r nifer fwyaf o geisiadau rydyn ni erioed wedi’u derbyn.

“Mae’n wych gweld bod cymaint o glybiau chwaraeon ledled Cymru yn awyddus i fanteisio ar y gronfa yma i helpu i gael mwy o bobl o’u cymuned i fod yn actif. Fodd bynnag, mae’r nifer enfawr o geisiadau rydyn ni wedi’u derbyn yn golygu bod angen i ni oedi’r gronfa dros dro am gyfnod byr fel ein bod yn gallu gweithio drwy’r ceisiadau presennol a rhoi’r safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid maen nhw’n ei ddisgwyl ac yn ei haeddu i’r ymgeiswyr hynny.”

Beth mae hyn yn ei olygu i ymgeiswyr diweddar i Gronfa Cymru Actif

Os ydych chi wedi cyflwyno cais i Gronfa Cymru Actif yn ddiweddar, bydd eich cais yn cael ei asesu ac, os yw’n llwyddiannus, bydd yn cael arian yn ystod y cyfnod pryd mae'r gronfa wedi cael ei hatal.

Gall unrhyw un sydd wedi derbyn ei gais yn ôl yn ddiweddar am ragor o wybodaeth barhau i weithio gyda Thîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru drwy gydol y cyfnod pryd bydd y gronfa wedi’i hoedi. Fodd bynnag, ni fydd ei gais yn cael ei ailasesu nes bod y gronfa yn ailagor ar ddydd Llun 4 Tachwedd.

Beth mae hyn yn ei olygu i unrhyw un sydd eisiau cyflwyno cais newydd i Gronfa Cymru Actif

Llenwch y ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer buddsoddiad cymunedol yn union fel byddech yn ei wneud fel arfer. Os bydd eich syniad yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, bydd Tîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn cysylltu â chi yn ystod yr wythnosau nesaf a byddwch wedyn yn gallu cyflwyno eich cais pan fydd y gronfa’n ailagor ar ddydd Llun 4 Tachwedd.

Sylwch y bydd y Gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ y mae Chwaraeon Cymru yn ei gweithredu ar y cyd â Crowdfunder yn parhau ar agor ac yn hygyrch drwy gydol y cyfnod hwn. Mae ‘Lle i Chwaraeon’ yn helpu i ddarparu cyllid ar gyfer cyfleusterau oddi ar y cae fel gwelliannau i ystafelloedd newid, gwell mynediad i bobl anabl ac ati.

Mae Tîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn parhau i fod wrth law i helpu unrhyw un sydd eisiau arweiniad a chyngor. Gallwch anfon e-bost at y tîm ar [javascript protected email address] neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 3003102, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00 a 12:30 a 13:15 a 16:00.