Skip to main content

Out Velo yn dod â'r gymuned feicio LHDTQ+ at ei gilydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Out Velo yn dod â'r gymuned feicio LHDTQ+ at ei gilydd

I nodi mis Pride, dyma gipolwg ar sut mae'r clwb beicio cynhwysol 'Out Velo' yn dod â phobl at ei gilydd ledled y DU i fwynhau anturiaethau beicio wyneb yn wyneb, ac ar-lein.

Er ei fod yn cael ei arwain gan LHDTQ+, mae Out Velo hefyd yn agored i'r rhai nad ydyn nhw'n ystyried eu hunain yn LHDTC+ i ymuno â nhw hefyd. 

Mae'r sefydliad yn cynnal penwythnosau beicio ffordd a theithiau dydd ledled y DU, yn aml mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac maen nhw hefyd yn trefnu teithiau grŵp dramor.

Mae tirweddau hardd Cymru yn sicr yn cynnig maes chwarae daearyddol deinamig i lawer o feicwyr, ond gall mynd i ddigwyddiadau Out Velo fod yn her i rai oherwydd cyfyngiadau cysylltiadau trafnidiaeth wledig. Fodd bynnag, mae Out Velo wedi dod o hyd i ffordd o gysylltu pobl drwy gydlynu reidiau grŵp ar Zwift, y rhaglen hyfforddiant beicio corfforol a rhedeg aml-chwaraewr ar-lein sy'n galluogi defnyddwyr i ryngweithio, hyfforddi a chystadlu mewn byd rhithwir. Mae hyn yn eu galluogi i gynnig profiad beicio gwirioneddol gynhwysol fel nad yw aelodau'n teimlo eu bod yn colli allan. 

Pam clwb beicio LHDTQ+?

Dywedodd David Sharpe, cyd-sylfaenydd Out Velo: "Mae pobl LHDTQ+ yn dal i wynebu llawer o heriau. Mae astudiaethau wedi dangos eu bod nhw’n llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a'u bod yn llawer mwy tebygol o gael trafferth gydag iechyd meddwl. Mae'r gefnogaeth gymunedol sydd wedi cael ei chynnig yn hanesyddol ar y 'sin' yn ninasoedd mawr y DU bellach i'w chael yn bennaf mewn clybiau chwaraeon a chymdeithasol LHDTQ+, ac rydyn ni'n credu y bydd lle i'r rhain bob amser, gan greu gofod lle gall pobl uniaethu â'i gilydd mewn cyd-destun y tu hwnt i'r apiau a'r bariau.”

Ychwanegodd: "Mae'r sgyrsiau sy'n digwydd o fewn ein digwyddiadau ni’n amlwg yn wahanol i'r rhai mewn clwb beicio traddodiadol. Mae pobl yn siarad am eu perthnasoedd, eu gwaith ac agweddau eraill ar fywyd mewn amgylchedd agored a chynhwysol, gan rannu'r hyn nad yw'n cael ei rannu'n aml. Rydyn ni'n siarad yn agored am iechyd meddwl a phenderfyniadau anodd bywyd. Rydyn ni hefyd yn siarad am feicio wrth gwrs, ac yn benodol pa anturiaethau rydyn ni'n eu cynllunio nesaf."

Yr her o ddod â phobl LHDTC+ at ei gilydd ledled Cymru

Yn Llundain yn enwedig, mae beicio a chwaraeon LHDTC+ yn gyffredinol yn llwyddiannus, ond mae hyn yn llai amlwg mewn ardaloedd mwy anghysbell. Yng nghefn gwlad Cymru, oherwydd arwahanrwydd daearyddol, mae Out Velo wedi gweld ei bod hi'n gallu bod yn anodd i bobl LHDTC+ gymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig chwaraeon penodol i LHDTC+, a mwynhau'r manteision. 

Dywedodd David: "Dyma un o'r prif heriau y mae Out Velo yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Gan ddysgu gan ein ffrindiau yn Outdoor Lads, sydd wedi gwneud Cymru yn ganolfan allweddol ers blynyddoedd lawer, rydyn ni'n cynnal penwythnosau beicio ffordd ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni wedi cael pobl o mor bell i ffwrdd ag Ynys Môn, Sir Benfro a'r Gororau yn ymuno â ni am deithiau beic mewn rhannau eraill o Gymru, ac mewn rhai achosion, wedi arwain y rhai o weddill Cymru a'r DU o amgylch eu hardal enedigol, gan roi cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl LHDTC+ eraill o bob cwr a mwynhau'r tirweddau anhygoel sydd gan Gymru i'w cynnig.”

dyn yn seiclo yng nghefn gwlad
Mae pobl LHDTQ+ yn dal i wynebu llawer o heriau. Mae astudiaethau wedi dangos eu bod nhw’n llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a'u bod yn llawer mwy tebygol o gael trafferth gydag iechyd meddwl.
David Sharpe, cyd-sylfaenydd Out Velo

Hwyluso digidol

Un adnodd allweddol yn null Out Velo o ddod â phobl at ei gilydd ar-lein yw Zwift. Mae hwn yn galluogi beicwyr LHDTC+ i sgwrsio a dod i adnabod ei gilydd cyn cyfarfod wyneb yn wyneb. Mae hyn wedi arwain yn uniongyrchol at nifer o ddigwyddiadau eleni, gan gynnwys un ar Ynys Môn. Mae Out Velo hefyd yn gweithio'n agos gydag arweinwyr y grŵp rhyngwladol LHDTC+ Zwifters, sydd wedi'i leoli yng Ngororau’r Alban, lle mae heriau tebyg i ddod â phobl at ei gilydd. 

Dywedodd David: "Ar yr un pryd â chynnydd ym mhoblogrwydd Zwift a newidiadau digidol wrth drefnu chwaraeon, mae apiau rheoli digwyddiadau pwrpasol fel Heylo a Spond wedi ei gwneud hi'n haws nag erioed i sefydlu clybiau chwaraeon, a dyma un o'r prif resymau pam mae Out Velo wedi dod mor llwyddiannus ag yr ydyn ni nawr.” 

"Mae'n amlwg bod arloesi digidol yn galluogi pobl i gysylltu mwy mewn chwaraeon, nid llai. Rydyn ni'n profi cyfnod o newid mawr mewn chwaraeon, a beicio LHDTC+ yn benodol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol!”

Dywedodd Caroline Spanton, Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru: "Mae Out Velo yn cynnig cyfleoedd gwych i ddod â phobl at ei gilydd mewn amgylchedd cefnogol. Wrth symud ymlaen, rydyn ni yn Beicio Cymru eisiau sicrhau bod beicio'n gynhwysol a bod cyfleoedd i bawb gymryd rhan. Drwy ddeall gwaith Out Velo a sefydliadau eraill ymhellach, fe fyddwn ni’n ceisio goresgyn y rhwystrau a chael mwy o bobl allan ar eu beiciau yn mwynhau tirweddau anhygoel Cymru.”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy