Mae gan Chwaraeon Cymru nifer o grantiau a chyfleoedd cyllido ar gael i unigolion, clybiau a grwpiau.
Mae gennym ni:
- Grantiau ar gyfer clybiau ar lawr gwlad a grwpiau cymunedol nid er elw
- Grantiau ar gyfer athletwyr
- Grantiau ar gyfer prosiectau a rhaglenni, fel cyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau
Mae gwybodaeth fanwl am beth sydd ar gael i’w weld ar ein tudalennau Cyllido a Chefnogaeth.