Dylai unrhyw un sy'n ymweld ag Afon Teifi dros y gwanwyn gymeradwyo gwaith Clwb Canŵio Paddlers Llandysul.
Roedd harddwch yr afon a'i chyffiniau dan fygythiad ddechrau eleni wrth i lygredd a sbwriel awgrymu bod pobl wedi’u gwaredu yn anghyfreithlon yn uwch i fyny'r nant o bentref Llandysul yng Ngheredigion.
Fe wnaeth hynny ysgogi aelodau'r clwb canŵio i archwilio ffynhonnell y broblem ac yn fuan fe wnaethon nhw ddarganfod tunelli o ddeunydd lapio silwair du wedi gollwng eu cynnwys i'r afon.
A hwythau'n awyddus i amddiffyn eu dyfrffordd - ac yn ymwybodol o'u rôl yn gofalu am yr amgylchedd - trefnodd canwyr Llandysul eu gwaith glanhau eu hunain, a hynny ar ôl tynnu sylw awdurdodau'r afonydd at y difrod.
Tair sesiwn lanhau galed yn ddiweddarach - a oedd yn cynnwys llenwi canŵs a rafftiau gwag gyda'r sbwriel a mynd ag ef oddi yno - mae'r clwb wedi tynnu dros 10 tunnell o wastraff hyd yma.
"Fe ddechreuon ni ym mis Chwefror a dechrau gyda thair sesiwn lanhau ar ddydd Sadwrn," meddai Gareth Bryant, rheolwr canolfan Llandysul Paddlers.
"Fe ddaeth llawer o wirfoddolwyr i'n helpu ni - mae'n rhaid bod tua 50 o bobl wedi bod yn un o'r sesiynau - mae'n dangos pa mor bryderus ac mewn braw oedd pobl o ran beth oedd yn digwydd yn y rhan yna o'r afon.
Tor calon
"Roedd cyflwr yr afon yn dorcalonnus. Ry'n ni wastad yn sylwi ar ychydig bach o sbwriel ac yn ei lanhau, ond roedd hyn ar lefel wahanol.”
Tynnwyd sylw at faint y broblem a'r difrod i fywyd gwyllt a chynefinoedd pan dynnwyd y silwair, a gwelwyd bod dwsinau o bysgod marw, pysgod yn dal yn fyw ond wedi eu dal yn y deunydd, yn ogystal â chorff chwe dafad wedi marw.
Bu'n rhaid i’r aelodau a'r gwirfoddolwyr dynnu'r cyfan yn glir cyn ei lwytho ar dractorau i'w symud.
"Mae'r ardal nawr yn edrych yn anhygoel eto, ond rydyn ni'n gobeithio bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i ymchwilio ac y byddant yn siarad â ffermwyr lleol, i wneud yn siŵr bod hyn ddim yn digwydd eto," meddai Gareth.
"Ry'n ni'n glwb canŵio, felly'r pryder yw os byddai'n digwydd eto, nad oes gennym ni’r adnoddau a'r oriau i barhau i lanhau'r afon.”