Mae’r seren Baralympaidd Olivia Breen yn edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli Cymru yn y Gemau Cymanwlad nesaf ac mae’n dyheu am fwy fyth o lwyddiant ar ôl ennill ei medal Baralympaidd unigol gyntaf yn Tokyo yr haf yma.
Ar ôl cymryd seibiant haeddiannol yn dilyn haf prysur, mae’r ferch 25 oed yn cynllunio’r flwyddyn sydd i ddod fel un o athletwyr Paralympaidd mwyaf cyson ac amryddawn Cymru.
Hawliodd Breen efydd yn y naid hir T38 yn Japan ar ôl ennill yr un lliw yn y ras gyfnewid 4x100m yn Llundain 2012.
Roedd hi hefyd yn bencampwraig byd yn y naid hir T38 ym Mhencampwriaethau'r Byd IPC yn 2017, ond fe aeth i'r Gemau Paralympaidd dan gysgod blwyddyn yr amharwyd arni gan broblemau anafiadau.
“Rydw i ar ben fy nigon gyda sut aeth pethau yn Tokyo,” meddai Breen, y mae’r wên ar ei hwyneb yn dangos yn glir pa mor falch yw hi o’i chyflawniadau.
“Fe gymerodd lawer o waith caled i gyrraedd y sefyllfa i allu ennill medal unigol.
“Fy mreuddwyd i oedd dod adref o Tokyo gyda medal ac mae wedi digwydd bellach.”
Mae Breen - sydd â pharlys yr ymennydd ac sydd wedi helpu yn ddiweddar i roi cyhoeddusrwydd i Ddiwrnod Parlys yr Ymennydd y Byd - yn ddiolchgar iawn bod y Gemau wedi cael eu cynnal o ystyried yr holl gyfyngiadau a’r ansicrwydd oedd wedi’i greu gan y pandemig.
“Fe wnaeth yr oedi fy helpu i mewn ffordd bositif gan fy mod i wedi gallu gweithio ar fy ngwendidau,” esboniodd.
“Rydw i’n credu ei fod wedi chwarae rhan fawr o ran fy helpu i ennill medal yn Tokyo.
“Roedd yn drueni na allen ni gael unrhyw deulu na ffrindiau allan gyda ni ond roedden nhw yno mewn ysbryd.
“Mae wedi bod yn hyfryd ers i mi gyrraedd yn ôl gan fy mod i wedi cael llawer o ddathliadau gyda fy holl deulu a ffrindiau.
“Rydw i eisiau mwynhau’r foment, mae fel cyflawniad unwaith mewn oes.”
Un siom i Breen oedd na allai weld mwy o Japan oherwydd y gofyniad i’r athletwyr fod mewn swigen.
“Fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael gweld mwy o Japan gan mai dim ond pan oedden ni'n teithio ar y bws y gwnaethon ni weld rhannau o'r wlad.
“Mae Pencampwriaethau’r Byd yn Japan y flwyddyn nesaf hefyd ac mae ychydig ohonom ni eisoes wedi sôn am fynd i weld rhai rhannau o’r wlad bryd hynny.
“Roedd y bobl wnaethon ni eu cyfarfod yno i gyd mor hyfryd ac yn bositif iawn.”