Main Content CTA Title

Pecyn cyllid gwerth £14 miliwn ar gyfer sector chwaraeon a hamdden Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pecyn cyllid gwerth £14 miliwn ar gyfer sector chwaraeon a hamdden Cymru

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi pecyn cyllid heddiw [dydd Iau 17 Medi] i gefnogi sector chwaraeon a hamdden Cymru.     

Bydd y ‘Gronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden’ yn cefnogi’r sector gyda’r heriau parhaus sydd wedi deillio o bandemig COVID-19 ac yn sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hwy.

Nod y gronfa yw darparu cymorth hanfodol i glybiau a sefydliadau chwaraeon, darparwyr annibynnol a digwyddiadau chwaraeon sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod yr argyfwng ac sy’n parhau i ddioddef effeithiau difrifol. Bydd y gronfa'n helpu i ysgogi arloesedd mewn  ganolfannau hamdden awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ac yn ychwanegu ac y  gronfa caledi  ar gyfer llywodraeth leol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy'n falch ein bod yn gallu arwain y ffordd yng Nghymru wrth ddiogelu a chynnal y rhan bwysig iawn hon o’n cymdeithas drwy ddarparu’r pecyn cymorth hwn wedi’i dargedu. 

“Daeth chwaraeon ledled Cymru i ben yn gwta ledled Cymru ar ddechrau’r argyfwng, a gwelwyd yr effeithiau ar unwaith. Rydym hefyd yn cydnabod bod y sector yn wynebu heriau sylweddol yn y tymor hwy – sy’n gysylltiedig ag ailagor yn raddol a chapasiti isel. Dw i’n gobeithio y bydd y gronfa hon yn helpu gyda chynllunio ar gyfer y tymor hir a chynaliadwyedd yn y sector chwaraeon a hamdden – sector sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau cenedl iach a chorfforol weithgar.”

Dyrennir y pecyn cyllid i Chwaraeon Cymru, a fydd yn ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Ar ran y sector hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru - mae hwn yn becyn o gymorth ariannol hanfodol sydd i'w groesawu'n fawr. Mae'n atgyfnerthu'r rôl bwysig y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ei chwarae wrth helpu i ddatblygu poblogaeth fwy iach ac actif.  Roedd gweithgarwch corfforol yn achubiaeth i lawer yn ystod y pandemig ac mae'r sector wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed dros y chwe mis diwethaf, gan ddefnyddio cyllid a gynlluniwyd i helpu'r clybiau, y grwpiau a'r sefydliadau a fu'n bennaf gyfrifol am alluogi cymunedau ledled Cymru i fwynhau bod yn egnïol yn ddiogel. Mae'r her o ddiogelu sefydliadau, cyfleusterau a swyddi yn parhau i fod yn hollbwysig ac rydym wrth ein bodd y gellir darparu cymorth ychwanegol yn fuan drwy'r Pecyn Achub Chwaraeon a Hamdden.

“Mae’n bwysig cofio, nid yw pawb yng Nghymru yn cael yr un cyfle i gael chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi dangos bod llawer o'r anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli o ran cyfranogiad mewn chwaraeon wedi'u dwysáu, gyda llawer gormod o bobl yn colli allan ar y manteision y gall bod yn egnïol eu cynnig. Rhaid i fynd i'r afael â hyn, a gwneud yn siwr fod yn hyn flaenoriaeth i bawb sy'n ymwneud â chwaraeon.  Bydd y pecyn yma hefyd yn canolbwyntio ar y partneriaid a'r darparwyr hynny sy'n datblygu ffyrdd arloesol o oresgyn y rhwystrau i chwaraeon sy'n bodoli ar hyn o bryd i gymunedau ledled Cymru.

“Ar gyfer clybiau a grwpiau sy'n chwilio am gymorth ar unwaith, byddwn yn eu hannog i ystyried Cronfa Cymru Actif sydd eisoes wedi diogelu cannoedd o glybiau ac sy'n eu helpu i baratoi ar gyfer dychwelyd i chwaraeon yn ddiogel ac yn gyfrifol. Byddwn yn awr yn gweithio'n gyflym gyda phartneriaid a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu'n effeithlon ac yn effeithiol i gyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf."

Newyddion Diweddaraf

Ffenestri ymgeisio newydd ar gyfer Cronfa Cymru Actif

Bydd Cronfa Cymru Actif yn cael ei rhedeg gyda thair ‘ffenestr’ ymgeisio yn ystod 2025-26.

Darllen Mwy

Rhoi llais i bobl ifanc ym maes diogelu

Darganfod pam y dylech gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau diogelu yn eich clwb neu sefydliad chwaraeon.

Darllen Mwy

Cyngor doeth ar gyfer creu clwb chwaraeon cynhwysol

Wrecsam Clwb Rygbi Cynhwysol Rhinos yn rhannu eu cyngor ar sut y gallwch greu amgylchedd cynhwysol

Darllen Mwy