Mae Gwobrau Hyfforddi’r DU yn dathlu hyfforddwyr o bob rhan o’r DU sy’n gwneud gwaith gwych ac ysbrydoledig i gefnogi eu cymunedau drwy chwaraeon. Bydd enillwyr pob categori yn cael eu datgelu yn eu seremoni wobrwyo ddydd Mawrth 5 Rhagfyr.
Eleni, mae pedwar hyfforddwr o Gymru wedi cael eu cydnabod mewn tri chategori gwahanol am eu hymroddiad i hyfforddi.
Mae mwy o wybodaeth am yr enwebeion isod.
Gwilym Iolo Lewis – Gwobr Newid Bywyd
Trodd hoffter Gwilym o rygbi yn angerdd dros hyfforddi yng Nghlwb Rygbi Warriors Llanelli, lle mae wedi bod yn gwneud byd o wahaniaeth i chwaraewyr ar y cae ac oddi arno bob wythnos ers dros ugain mlynedd.
Mae Warriors Llanelli yn croesawu oedolion o bob gallu i gymryd rhan, ac mae ystod eang o chwaraewyr ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol wedi dod o hyd i gartref yn y clwb.
Enwebwyd Gwilym ar gyfer y Wobr Newid Bywyd yma am ei gefnogaeth i chwaraewr ag anawsterau dysgu. Mae’r chwaraewr wedi gallu gwneud cynnydd yn y clwb, gan ddod yn gapten a chymhwyso i fod yn hyfforddwr Lefel 1.