Skip to main content

PEDWAR PENIGAMP O GYMRU YN Y RAS AM WOBR O BWYS I’R DU

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. PEDWAR PENIGAMP O GYMRU YN Y RAS AM WOBR O BWYS I’R DU

Mae pedwar prosiect gwych o Gymru yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd er mwyn cael eu coroni yn Brosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2021.  

Mae’r Green Valley Conservation and Heritage Project yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, Clwb Chwaraeon Anabledd a Rygbi Cynghrair Cadair Olwyn Croesgadwyr Gogledd Cymru, Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGBT+ o Gaerdydd ac elusen a menter gymdeithasol Wastesavers a leolir yn ne ddwyrain Cymru wedi llwyddo i drechu cystadleuwyr gwych mewn cystadleuaeth gyda 1500 o gynigion i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus.  

Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol.  

Mae’r pedwarawd o Gymru ymysg 17 o ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer o bob cwr o’r DU, a fydd yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus dros 4 wythnos i gael eu henwi yn Brosiect Loteri Genedlaethol dechreuol y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £3,000 ar gyfer eu prosiect a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.  

Mae’r Green Valley Conservation and Heritage Project yn Abercynon yn helpu pobl o fewn yr hen bentref glofaol Cymreig yn Rhondda i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a’u lles trwy arddio a chysylltu gyda natur. Tair blynedd yn ôl,  tir diffaith oedd safle Cynon Valley Organic Adventures, cartref  y prosiect Cadwraeth a Threftadaeth. Heddiw, mae wedi cael ei drawsnewid yn ardd gymunedol gyda mannau ar gyfer alotiadau sy’n tyfu bwyd ar gyfer eu banc bwyd, caffi, ysgol haf a hyd yn oed campfa werdd. Maen nhw hefyd yn darparu gweithgareddau a rhaglenni awyr agored ar gyfer ieuenctid sydd wedi ymddieithrio ac yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc awtistig ac unrhyw un sy’n profi anawsterau iechyd meddwl. 

Sefydlwyd Clwb Chwaraeon Anabledd a Rygbi Cynghrair Cadair Olwyn Croesgadwyr Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2013 i sicrhau fod rygbi cynghrair o fewn cyrraedd i bawb yng ngogledd Cymru a’r ardaloedd cyfagos. Ers hynny, mae’r clwb a leolir yn Wrecsam a Sir y Fflint ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn (a chwaraewyr nad ydynt mewn cadair olwyn) wedi meithrin 16 o chwaraewyr rhyngwladol ac wedi parhau i dyfu yn ystod y pandemig, ynghyd â chynnig man cymdeithasol hanfodol. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu i ddarparu storfa ac i brynu cadeiriau olwyn chwaraeon fel cyfarpar ar gyfer y timau, gan wneud y clwb yn fwy hygyrch. Y clwb yw'r unig glwb rygbi'r gynghrair cadair olwyn yn y byd i gael tri thîm yn chwarae yn yr un system gynghrair ac mae wedi gweld y twf mwyaf mewn aelodau o'r holl glybiau sefydledig yn y DU. Y Croesgadwyr hefyd fydd y clwb cyntaf yng Nghymru i sefydlu tîm Rygbi Cynghrair Anabledd Corfforol, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gyda anableddau nad ydynt mewn cadeiriau olwyn, i chwarae'r gêm.      

North Wales Crusaders Wheelchair Rugby League & Disability Sports Club Team in Action
Mae Rygbi Cynghrair Cadair Olwyn Croesgadwyr Gogledd Cymru yn cystadlu.

 

Sefydlwyd Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGTB+ a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2006 nid yn unig fel dathliad o gynhyrchu ffilmiau cwiar ond hefyd i godi ansawdd y gwaith yn y maes hwn. Pymtheng mlynedd yn ddiweddarach, mae’r ŵyl yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac yn sbardun ar gyfer doniau newydd. Roedd hefyd wedi agor themâu LGBT+ i ragor o gynulleidfaoedd a sefydlu Caerdydd fel cyrchfan boblogaidd ar y map gŵyl ffilmiau, gyda chefnogaeth Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) fel prif noddwr yr ŵyl. Mae gwaith allgymorth hefyd yn rhan allweddol o ethos Gwobr Iris, ac mae'n cynnig rhaglenni mewn ysgolion a'r gymuned. 

Menter gymdeithasol ac elusen a leolir yn ne ddwyrain Cymru yw Wastesavers, gyda ffocws ar gynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Fe’i sefydlwyd fel prosiect amgylcheddol yn 1985 a heddiw mae’n rhedeg gwasanaethau ailgylchu ar gyfer 75,000 o drigolion yng Nghasnewydd ynghyd â chael nifer o brosiectau elusennol. Yn ystod y pandemig, maen nhw wedi darparu dyfeisiau TG ail-law a chyfrannu dodrefn i bobl mewn argyfwng. Mae rhwydwaith o naw siop ailddefnyddio ar draws Caerdydd, Casnewydd a Chymoedd De Cymru gan Wastesavers, lle gall unigolion a chwmnïau gyfrannu eitemau TG a thrydanol ac eitemau o’r cartref nad oes mo’u heisiau bellach. Nid yn unig mae’r siopau yn atal y deunyddiau hyn rhag mynd i safleoedd tirlenwi ond maent yn helpu’r sawl sy’n cael anawsterau ariannol, tra bo staff a gwirfoddolwyr yn ennill sgiliau wrth adfer y deunyddiau. Mae rhaglen hyfforddiant digidol yn rhedeg ochr yn ochr â hyn i sicrhau fod pawb yn gallu defnyddio TG.  

Dywedodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Yn yr amseroedd heriol hyn yr ydym yn canfod ein hunain ynddynt, rydym yn gweld cymaint o enghreifftiau o waith ysbrydoledig trwy ein cymunedau, wedi’u gyrru gan yr union brosiectau hyn. Mae ein diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £36 miliwn pob wythnos ar gyfer achosion da fod prosiectau gwych fel y rhain yn bosibl. 

“Mae’r prosiectau hyn yn gwneud llawer o waith anhygoel o fewn eu cymuned leol ac maent oll yn llwyr haeddu bod yn rownd derfynol Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn 2021. Gyda’ch cefnogaeth, gallent fod yn enillydd.”  

I bleidleisio dros unrhyw un o’r prosiectau hyn, edrychwch ar lotterygoodcauses.org.uk/cy/awardsneu defnyddiwch yr hashnod penodol ar trydar ar gyfer pob prosiect:  

  • Ar gyfer y Green Valley Conservation and Heritage Project, defnyddiwch yr hashnod #NLAGreenValley ar trydar
  • Ar gyfer Clwb Chwaraeon Anabledd a Rygbi Cynghrair Cadair Olwyn Croesgadwyr Gogledd Cymru, defnyddiwch yr hashnod #NLACrusaders ar trydar
  • Ar gyfer Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGTB+, defnyddiwch yr hashnod #NLAIris ar trydar
  • Ar gyfer Canolfan Ailddefnyddio Wastesavers, defnyddiwch yr hashnod #NLAWastesavers ar trydar

  
Cynhelir y cyfnod pleidleisio rhwng 9am ar 6 Medi tan 5pm ar 4 Hydref. 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy