Skip to main content

Sylw i bartner – Pêl Droed Stryd Cymru

Efallai bod Cwpan y Byd FIFA 2022 wedi ysbrydoli pobl ledled y byd, ond yng Nghymru mae un sefydliad yn benodol sy’n gobeithio y gall y twrnamaint helpu i newid bywydau.

Mae Pêl Droed Stryd Cymru – un o bartneriaid cenedlaethol Chwaraeon Cymru – yn defnyddio “y gêm hardd” fel ffordd o wneud rhywbeth llawer mwy na dim ond cynnig cyffro ar y cae.

Drwy bêl droed, mae’r elusen cynhwysiant cymdeithasol yn meithrin cymunedau, gan alluogi’r rhai sydd wedi bod drwy amseroedd anodd i adfer hunanhyder, cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn.

Mae’n stori bêl droed gyda gôl tymor hir sy’n fwy na dim ond cicio pêl rhwng y pyst; newid cymdeithasol i'r rhai sydd wedi'u gwthio i'r cyrion a'u heithrio. 

I'r rhai sydd angen sefydlogrwydd, cysondeb, ymddiriedaeth a chyfeillgarwch yn eu bywydau, mae Pêl Droed Stryd Cymru yn cynnig cynllun.

Rydych chi'n cyrraedd, rydych chi'n chwarae pêl droed gydag eraill, ac rydych chi'n teimlo'n well amdanoch chi'ch hun ac am fywyd.

Mae canolfannau pêl droed galw heibio yn cael eu cynnig yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Merthyr a Threffynnon ar gyfer unrhyw un sydd ffansi cicio pêl, beth bynnag yw eu lefel, beth bynnag yw eu ffitrwydd, a beth bynnag yw eu cymhelliant.

Yn bennaf, mae chwaraewyr newydd yn dod i wybod am y chwe chanolfan (mae gan Gaerdydd ddwy, gan gynnwys lleoliad i ferched yn unig yn Ocean Way) drwy dafod lleferydd neu atgyfeiriadau gan weithwyr cefnogi.

Mae'r sefydliad yn defnyddio hyfforddwyr a gwirfoddolwyr cymwys i helpu i gynnal eu sesiynau ac, ar hyn o bryd, mae’n cynnig gweithgarwch pêl droed i fwy na 450 o chwaraewyr.

Darparu ar gyfer gwahanol ddyheadau 

Dim ond eisiau'r ymdeimlad o undod o chwarae gyda chwaraewyr eraill mae rhai chwaraewyr ac nid oes ganddynt unrhyw ddyhead i wneud mwy na hynny. Efallai bod gan eraill uchelgais i wisgo crys coch a chynrychioli Cymru mewn twrnameintiau fel Cwpan y Byd y Digartref.

“Mae’r mwyafrif eisiau chwarae pêl droed am yr hyn y gall hynny ei gynnig,” meddai rheolwr y prosiect, Scott Jeynes.

“Prin y gall rhai gicio pêl pan maen nhw’n dod i ddechrau; mae llawer o bobl sydd heb chwarae pêl droed ers iddyn nhw fod yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd.

“Ond mae gennym ni lawer o bêl droedwyr talentog iawn hefyd.

“I’r mwyafrif, pêl droed cymunedol yw e, mae’n ymwneud â dod â phobl at ei gilydd. I rai, maen nhw wir yn llawn dyhead i gynrychioli Cymru mewn twrnameintiau Pêl Droed Stryd.

“Mae gennym ni gyn-chwaraewraig gyda merched Dinas Caerdydd; mae hi'n chwaraewraig anhygoel ac mae hi'n chwarae gyda rhywun bob wythnos yng Nghaerdydd sydd jyst yn gwenu am gael bod yno. Dyna’r math o ethos sydd gennym ni.”

Partneriaethau Pêl Droed 

Mae Pêl Droed Stryd Cymru yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill – gan gynnwys Chwaraeon Cymru – ac yn aml yn canfod mai grwpiau eraill sydd wedi cyfeirio chwaraewyr posibl atynt.

“Mae gennym ni bartneriaeth dda, yn seiliedig ar ein hymddiriedaeth ni gyda llety hostel, gyda grwpiau fel Pobl a Llamau,” meddai Scott.

“Oherwydd bod gennym ni berthynas gyson, efallai y bydd y gweithiwr cefnogi’n annog pobl i ddod i’r sesiynau pêl droed. Sesiynau hyfforddi anffurfiol yn unig ydi’r rhain, does dim cwestiynau ffurfiol.

“Mae Mind a Barod yn eiriolwyr da iawn ar gyfer ein gwaith ni. Rydyn ni wedi cael llawer o lwyddiant gyda'u cleientiaid nhw.

“Pan mae pobl yn gallu gweld ein gwaith ni, maen nhw wedyn yn gallu ymddiried ynon ni. Mae clywed straeon rhai o chwaraewyr y gorffennol wedi helpu yn y maes hwnnw hefyd, fel bod y bobl yma’n gallu gweld sut rydyn ni’n gweithio a sut rydyn ni wedi effeithio ar fywydau pobl.”

Presgripsiwn Pêl Droed

Fel ParkRun, mae Pêl Droed Stryd Cymru wedi cynnal trafodaethau gyda meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill am fanteision hyrwyddo pêl droed fel ffordd o newid iechyd a ffordd o fyw o bosibl.

“Rydyn ni wedi cael rhai atgyfeiriadau anffurfiol gan feddygon teulu ac rydyn ni’n gweithio gyda’r grwpiau AA sy’n cyfeirio at ein hyfforddiant ni fel cyfle i bobl fod yn actif ac ymuno â grŵp cymdeithasol newydd,” ychwanegodd Scott.

“Mae’n rhywbeth fyddai’n helpu llawer o bobl yn fy marn i. Fe all chwaraeon o unrhyw fath fod o fudd mawr i bobl sydd â phroblemau corfforol a meddyliol.

“Fe allwch chi weld yr effaith mae pêl droed yn ei chael ar y bobl sydd wedi bod yn cymryd rhan yma. Mae’n wych gweld yr effaith gadarnhaol y gall chwaraeon ei chael.”

A football team wearing red

Brwdfrydedd Michael Sheen 

Rhoddodd Cwpan y Byd y Digartref gyfle anhygoel i bêl droedwyr stryd uchelgeisiol pan gafodd ei gynnal yng Nghymru dair blynedd yn ôl.

Daeth bron i 500 o chwaraewyr o bob rhan o’r byd i Gaerdydd i gynrychioli 46 o wledydd mewn digwyddiad yr oedd yr actor o Gymru, Michael Sheen – un o noddwyr Pêl Droed Stryd Cymru – yn drefnydd allweddol ac yn gyllidwr pwysig ar ei gyfer.

Meddai Sheen: “Er bod Cwpan y Byd y Digartref yn gymhelliant gwych ac yn rhywbeth y dylen ni i gyd ei gefnogi, y rhaglen ehangach sy’n fy nghyffroi i fwyaf, yr effaith y gallwn ni i gyd ei chael gyda’n gilydd.

“Fel noddwr, fy nod i yw helpu’r tîm i gael mwy o effaith, bod yn fwy cynaliadwy wrth iddo dyfu a gwneud pawb yng Nghymru yn falch o’u timau Cwpan y Byd Digartref!”

Dylai twrnamaint Caerdydd 2019 fod wedi bod yn sbardun i fwy o gyfranogiad mewn pêl droed stryd ledled Cymru a’r DU.

Ond tarodd Covid yn fuan wedyn a tharfu ar gynlluniau ac mae Scott yn cyfaddef ei bod yn her anodd cynnal y sefydliad.

“Dylai fod wedi bod yn ddigwyddiad i daflu pêl droed stryd yn fwy fyth i lygad y cyhoedd,” meddai Scott. “Michael Sheen oedd ein noddwr ni, ac mae’n dal i noddi, ac fe gefnogodd y digwyddiad i’r carn.”

“Roedd gennym ni lawer o fechgyn oedd eisiau chwarae pêl droed, ond sut gallwch chi gyrraedd pobl sydd heb ffôn? Dydych chi ddim yn gallu cynnal unrhyw gyfarfodydd Zoom hyd yn oed, felly fe gawson ni gryn anhawster cyrraedd pobl yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Dim ond nawr ydyn ni’n medi budd Cwpan y Byd, oherwydd does dim Cwpan y Byd Digartref wedi bod ers yr un yng Nghaerdydd.

“Rydyn ni’n ôl nawr yn tynnu sylw at sgyrsiau am ddigartrefedd ac eithrio cymdeithasol a hefyd yn gallu cynnig pêl droed rheolaidd.

“Rydyn ni wedi brwydro drwodd ac rydw i’n meddwl bod y dyfodol ar gyfer yr hyn y gall Pêl Droed Stryd ei gynnig i bobl, y newid y gall helpu i’w sicrhau, yn ddisglair iawn.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy