Main Content CTA Title

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Gyda threfn rhywun yn diflannu dros dymor yr ŵyl, mae ymarfer corff a symud yn tueddu i syrthio i waelod eich rhestr o flaenoriaethau. O fynd am dro yn y gaeaf i fentro i’r dŵr, mae cymaint o bethau am ddim y gallwch chi eu gwneud yng Nghymru i gadw’n actif. 

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.           

Rhoi cynnig ar fentro i ddŵr oer gyda nofio Nadoligaidd 

Am ias oer o endorffinau, ymunwch ag un o’r torfeydd ar draeth yng Nghymru am nofio rhewllyd fel rhan o’r traddodiad Nadoligaidd yma. 

Mae nofio dŵr oer yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn chwilio amdano erbyn hyn i roi hwb i’w hiechyd meddwl. Ond mae’r poblogrwydd yn ei anterth yn ystod wythnos olaf mis Rhagfyr pan fydd miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn nofio Nadoligaidd ar hyd a lled y wlad. 

Gallwch gymryd rhan mewn nofio Nadoligaidd ym Mhorthcawl ar Ddydd Nadolig, Dinbych-y-pysgod ar Ŵyl San Steffan, neu Abersoch ar Ddydd Calan. Neu cymerwch ran gyda grŵp nofio dŵr oer cymunedol fel y Dawnstalkers neu'r Bluetits ar ddyddiau eraill dros yr ŵyl. 

Edrychwch ar y nofio Nadoligaidd y gallwch roi cynnig arno yng Nghymru yma. 

Am fwy o wybodaeth am Nofio Dŵr Agored, ewch i wefan Nofio Cymru.

Mynd â’r plant i nofio am ddim           

Ydi hi’n well gennych chi gynhesrwydd pwll nofio na thymheredd rhewllyd y môr? Yn ystod gwyliau’r ysgol, gallwch fynd â’ch plant i nofio am ddim mewn pyllau nofio lleol ledled Cymru. Dewch â thaid a nain hefo chi hefyd, oherwydd mae pobl dros 60 oed yn gallu elwa hefyd o sesiynau am ddim neu gyda chymorth ariannol. 

Mae sblasho a nofio yn eich pwll lleol nid yn unig yn fuddiol i'ch corff chi, ond mae hefyd yn ffordd wych o glirio'r meddwl a lleihau eich lefelau straen.

Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig nofio am ddim i ofalwyr ifanc a’r lluoedd arfog. Cysylltwch â’ch pwll cyhoeddus lleol i gael rhagor o wybodaeth ac amserlenni nofio am ddim i bawb dan 16 a thros 60 oed.

Cymryd rhan yn parkrun

Iawn, efallai eich bod chi wedi clywed am y traddodiad Nadoligaidd o fentro i’r môr ond nawr mae parkrun wedi dechrau cynnig rhywbeth tebyg. Os ydych chi’n chwilio am ychydig o ymarfer corff gyda bwrlwm cymunedol, bydd y digwyddiadau 5k yma’n cael eu cynnal ledled Cymru ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan.

Bydd llawer o leoliadau, o Aberystwyth i Rogiet, yn cynnal eu parkrun ar y ddau ddiwrnod. Mae lleoliadau eraill, fel Coedwig Niwbwrch a Thremorfa, yn dewis dim ond un diwrnod arbennig i droedio'r llwybr. Os yw Dydd Nadolig a Dydd Calan ychydig yn rhy brysur i chi, mae’r rhan fwyaf o parkruns yn cael eu cynnal am 9am bob dydd Sadwrn a gall plant gymryd rhan mewn ras 2k ar ddyddiau Sul.

A pheidiwch â chael eich twyllo gan yr enw. Os yw’n well gennych chi beidio â rhedeg, gallwch gerdded, loncian neu hyd yn oed fod yn wirfoddolwr Nadoligaidd – mae hetiau Siôn Corn yn ddewisol ond yn cael eu hannog.

Edrychwch ar y rhestr yma i weld ble gallwch chi gymryd rhan mewn parkrun dros yr ŵyl.

Mynd i redeg eich hun         

Does dim angen i redeg fod ar ddiwrnod arbennig, does dim angen ei drefnu a does dim angen iddo fod yn rhan o grŵp hyd yn oed. Weithiau rydych chi jyst eisiau rhoi eich esgidiau ymarfer am eich traed, dewis eich rhestr chwarae a mynd eich hun. Fe allwch chi osod y cyflymder sydd fwyaf addas i chi heb boeni am orfod sgwrsio â phartner hyfforddi.

Os ydych chi'n meddwl dechrau rhedeg, gall Couch to 5K y GIG eich helpu chi i roi cychwyn i’ch siwrnai. Byddwch yn mynd ar ôl y gorau personol yna yn gynt nag ydych chi’n ei feddwl. 

Dyma rai llwybrau rhedeg o ledled Cymru.

Pobl yn rhedeg yn Parkrun Porthcawl
Mae pawb yn gallu cymryd rhan yn parkrun

Ymarfer gartref 

Weithiau gall tywydd y gaeaf ddifetha eich cynlluniau ffitrwydd chi, ond does dim angen i chi adael eich cartref hyd yn oed i chwysu dros y gwyliau. Beth bynnag yw eich lefel ffitrwydd a beth bynnag ydi’r math o ymarfer corff rydych chi'n chwilio amdano, fe allwch chi ddod o hyd i ymarfer corff sy’n benodol ar gyfer eich anghenion chi ar YouTube neu ar-lein.

Chwiliwch am ymarferion fel Ioga, hyfforddiant HIIT ac ymarferion dawnsio i gael y gwaed i bwmpio o gysur eich cartref. Mae hon yn ffordd wych o roi cynnig ar ymarfer newydd cyn penderfynu a yw’n rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau. Neu ewch i sianel Joe Wicks – mae ganddo fideos i bawb gan gynnwys ymarferion cadair i bobl hŷn a threfn ymarfer corff fer, ryngweithiol i blant.

Mae gan Scope gyngor ar gyfer y rhai sydd ag anableddau i ymarfer gartref.

Cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru

Estynnwch am eich esgidiau cerdded, gwisgwch gôt gynnes a chael ychydig o awyr iach ar daith gerdded hamddenol yn ystod y gaeaf. Ac os ydych chi’n chwilio am ymarfer corff gyda golygfa dros y Nadolig, does dim llawer o lefydd gwell i ymestyn eich coesau a chodi’r pwls nag ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Gall pawb fwynhau taith gerdded ar hyd arfordir garw Cymru. Ond peidiwch â phoeni am lwybrau anwastad neu dir creigiog - mae’r 870 o filltiroedd yn cynnwys digon o adrannau sy’n hygyrch i bawb sydd angen defnyddio cadair olwyn neu bram ac yn addas i lefel eich ffitrwydd. 

Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i ddod o hyd i lwybr cerdded yn eich ardal chi.

Mentro i’r mynyddoedd 

Un arall o roddion naturiol Cymru yw ein mynyddoedd ni. Mae llwybrau cerdded hardd ar gyfer pob gallu ym Mharciau Cenedlaethol EryriBannau Brycheiniog i chi fanteisio arnyn nhw i gadw’n heini dros yr ŵyl. Os ydych chi eisiau rhywbeth ychydig yn fwy heriol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio'r tywydd, defnyddiwch yr offer priodol a byddwch yn barod. 

Nid dim ond yn ein parciau cenedlaethol ni mae llwybrau cerdded a dringo mynyddoedd yn bosib. Mae llawer o lecynnau hardd eraill lle gallwch chi fwynhau mynd am dro fel Llwybr Clawdd Offa, sy’n rhedeg ar hyd y ffin gyda Lloegr, a Mynyddoedd y Cambrian, y gofod gwyrdd helaeth yng nghanolbarth Cymru. 

Edrychwch ar gyngor doeth y Ramblers ar ddringo mynyddoedd.

Mynd ar helfa drysor (neu geogelcio)

Efallai y bydd pythefnos o wyliau ysgol a phlant llawn cyffro yn gwneud i chi chwilio am weithgaredd hwyliog i losgi rhywfaint o'u hegni. Rydyn ni wedi crybwyll cerdded yn aml ond weithiau mae angen mwy na golygfa syfrdanol i gadw'r plant yn hapus. Gallai geogelcio fod yn ateb gwych!

Mae Geogelcio yn helfa drysor mewn dull cyfeiriannu y gallwch ei mwynhau gyda'r teulu wrth archwilio'r awyr agored. Mae gan Fannau Brycheiniog ddarpariaeth geogelcio i chi yn y Parc Cenedlaethol neu gallwch ddilyn un o ddau lwybr geogelcio ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau. Ond gyda miliynau o leoliadau geogelcio ar draws y byd, does dim rhaid i chi fynd i'r mynyddoedd. Mae'n bosibl bod trysor i'w ganfod ar garreg eich drws chi! 

Ewch i’r wefan Geogelcio i ddechrau arni gyda’ch helfa drysor.

 

Ar gyfer unrhyw weithgareddau awyr agored rydych chi am gymryd rhan ynddyn nhw efallai, dilynwch y canllawiau ar sut i gadw'n ddiogel wrth wneud ymarfer corff yn y tywyllwch.

Dyma awgrymiadau defnyddiol Run4Wales ar gyfer rhedeg yn y gaeaf. Gallwch ddefnyddio'r rhain ar gyfer unrhyw weithgareddau awyr agored dros yr ŵyl.

Felly, gwnewch fis Rhagfyr yn un actif a symud digon gyda rhai o'r pethau am ddim yma i'w gwneud.

Os byddwch chi’n penderfynu rhoi cynnig ar y gweithgareddau yma, byddem wrth ein bodd yn gweld beth rydych chi’n ei wneud! Tagiwch ni yn eich negeseuon ar Facebook a Twitter.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy