Mae gwyliau'r ysgol bron yma. A gyda chwe wythnos yn ymestyn o’n blaen, rydyn ni wedi rhoi rhai syniadau at ei gilydd i gael y teulu cyfan i fod yn actif am ddim yng Nghymru.
Mae ymarfer corff yn ffordd wych o dreulio amser gyda’ch gilydd a does dim rhaid torri’r banc…
1. Ewch i’ch pwll nofio lleol – am ddim
Ar ddiwrnod poeth, oes unrhyw beth gwell na phlymio i’ch pwll lleol? A'r newyddion da ydi y gall plant fynd i nofio AM DDIM yng Nghymru. Do, rydych chi wedi clywed yn iawn.
Mae nofio yn ymarfer corff gwych i’r corff cyfan. Mae hefyd yn lleihau lefelau straen ac yn lleihau gorbryder. Felly, paciwch eich bagiau nofio a chysylltwch â’ch pwll cyhoeddus lleol i gael amserlenni, a manteisiwch i’r eithaf ar nofio am ddim i bawb dan 16 a thros 60 drwy gydol yr haf.
2. Mynd ar eich beic
Gwiriwch eich teiars, llenwch eich potel ddŵr a neidiwch ar eich beic yr haf yma. Os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd, mae gwefan Croeso Cymru yn awgrymu llawer o lwybrau beicio heb lawer o draffig a chyfeillgar i deuluoedd.
Hefyd mae digonedd o lwybrau beicio mynydd am ddim a thraciau pwmp BMX ledled Cymru. Dim beic? Mae rhai cynlluniau ailgylchu beiciau am ddim yng Nghymru fel Free Bikes 4 Kids yng Nghasnewydd a Chynllun Beiciau Am Ddim Grŵp Ynni Trefaldwyn sy’n atal beiciau rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i gartref da yn lle hynny.
Gallwch hefyd ddod o hyd i feic am ddim ar Facebook Marketplace a Gumtree – cofiwch wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn neu ewch i’ch caffi atgyweirio agosaf os oes arnoch chi angen rhywfaint o gyngor.
3. Padlfyrddio
Ni fyddai unrhyw restr o bethau i'w gwneud yr haf yma yn gyflawn heb badlfyrddio. Yn boblogaidd iawn, mae'n llawer o hwyl ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'n ddiogel ar y dŵr. Mae gan Canŵio Cymru wybodaeth a chyngor diogelwch gwych ac mae hefyd yn cynnig cyrsiau i'ch rhoi chi ar ben ffordd.
Fel arall, chwiliwch am glwb yn eich ardal chi – yn aml mae ganddyn nhw fyrddau sbâr ar gael a thripiau padlo wythnosol.