Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn nes ymlaen eleni, ond nid yw’n ormod o ymdrech dychmygu y gallai uchafbwynt ei haf fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon.
Fe yw’r dyn oedd yn gapten ar dîm pêl fasged cadair olwyn Prydain Fawr enillodd fri ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2018.
Dychwelodd yr athletwr 30 oed, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, i Bencampwriaethau'r Byd y llynedd, lle daeth Prydain Fawr yn ail, a bydd yno eto yn y Gemau Paralympaidd ym mis Awst.
Ond pe bai bywyd wedi cymryd tro gwahanol, fe allai ei gadair olwyn fod wedi bod yn rholio allan ar lawntiau gwyrdd Wimbledon ym mis Gorffennaf, yn lle hynny.
Efallai bod Phil wedi gorfod dysgu ei sgiliau chwaraeon ar ei eistedd er pan oedd yn blentyn bach, ond dydi hynny ddim wedi ei atal rhag rhoi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon.
“Pan oeddwn i’n blentyn, fe wnes i roi cynnig ar lawer o chwaraeon gwahanol - tennis cadair olwyn, rasio cadair olwyn, hoci sled, pob math o bethau gwahanol,” meddai.
“Tennis cadair olwyn oedd y gamp o ddifrif gyntaf i mi. Roedd gen i gydsymudiad llaw a llygad gweddol dda ac fe wnes i roi llawer o oriau i mewn i’r gamp.
“Dydw i ddim yn gallu cofio pa un yn bendant, ond fe wnes i gyrraedd ail neu drydydd yn y byd o dan 18. Roeddwn i'n eithaf da."
Eithaf da, ond ddim digon da i oresgyn un anfantais fawr. Doedd e ddim yn hoffi’r gamp.
Ffafrio chwaraeon tîm
“Doeddwn i ddim yn mwynhau, a dweud y gwir. Rydych chi ar eich pen eich hun gyda'ch hyfforddwr ac rydych chi'n gwneud yr un nifer cyfyngedig o ymarferion.
“Rydw i’n meddwl bod rhaid i chi wir fwynhau camp i roi popeth iddi ac fe wnes i deimlo ’mod i’n cael llawer mwy allan o bêl fasged cadair olwyn, yr oeddwn i’n ei gwneud bryd hynny fel dim ond hobi.”
Yn fuan iawn fe ddaeth y gamp oedd yn hobi yn brif gamp.
Fel camp i dimau, fe welodd rywbeth mewn pêl fasged cadair olwyn a oedd wedi ei ddenu i wylio pêl-droed, angerdd y mae'n ei gynnal o hyd drwy ei hoffter o Ddinas Caerdydd.
“Rydw i’n meddwl bod yn well gen i’r amrywiaeth mewn pêl fasged o gymharu â thennis. Rydych chi'n dal i wneud rhai ymarferion, ond mae'r allbwn yn wahanol gan nad ydi’r chwarae byth yn union yr un fath.
“Roeddwn i hefyd yn hoffi’r agwedd tîm, o gymharu â thennis. Mewn pêl fasged, mae'n rhaid i chi gael y gorau nid yn unig gennych chi’ch hun, ond hefyd eich cyd-chwaraewyr a'ch hyfforddwr. Roedd yn teimlo bod llawer mwy iddo.”