Main Content CTA Title

Plas Menai yn chwilio am bartneriaeth newydd

Efallai bod y rheoliadau presennol wedi gorfodi Plas Menai i gau ei ddrysau dros dro ond mae gwaith ar y gweill bellach i wella ei enw da fel canolfan awyr agored genedlaethol Cymru. 

Ar ôl cyfnod o adolygu, mae Bwrdd Chwaraeon Cymru wedi cytuno mai dyma'r amser iawn i weithredu ar yr argymhelliad bod angen ystyried model gweithredu amgen o ystyried y rhagolygon ariannol heriol ar gyfer Plas Menai. Y nod yw sefydlu partneriaeth gyda sefydliad sy'n rhannu'r un uchelgais a phenderfyniad â ni i wneud Plas Menai yn llwyddiant.  

Arforgampau

 

Dywedodd Sarah Powell: "Mae Plas Menai wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer fawr iawn o bobl am flynyddoedd lawer, ond rydyn ni eisiau i fwy o bobl fwynhau popeth sydd gan y cyfleuster i'w gynnig. Mae gan Blas Menai lawer iawn i'w gynnig i bobl yng Nghymru a thu hwnt." 

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod yn amlwg, er gwaethaf ymrwymiad y staff, bod cynnal y cyfleuster a gwneud y gorau o'i botensial yn dod yn fwy o her. Rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau bod Plas Menai yn gallu darparu profiad gwych i ddefnyddwyr presennol a denu cynulleidfaoedd newydd a all elwa o bopeth sydd gennym ni i'w gynnig.  

"Mae angerdd ac ymroddiad y staff yn amlwg pan rydych chi’n cyrraedd y Ganolfan ac mae'r lleoliad yn eithriadol. Fel rhan o'n hymrwymiad hirdymor i wella'r cyfleuster, mae'n braf cadarnhau buddsoddiad cyfalaf o fwy nag £1 miliwn yn ystod 2021/22. Gydag arbenigedd ychwanegol mewn nifer o feysydd drwy bartneriaeth gyda sefydliad sy'n rhannu ein huchelgeisiau, rydyn ni’n hyderus y gall y Ganolfan fynd o nerth i nerth."   

Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn dechrau ffurfioli ein dull o weithredu i ganfod sefydliadau addas sy'n rhannu ein huchelgeisiau ar gyfer Plas Menai. Mae’r sgyrsiau gydag arbenigwyr yn y diwydiant wedi bod yn galonogol gan awgrymu mai nawr yw'r amser iawn i ffurfioli'r broses gyda'r bwriad o sefydlu partneriaeth o fewn y 18 mis nesaf. 

Rydym bellach yn hysbysebu am ymgynghoriaeth i weithio gyda ni i reoli'r prosiect hwn. Bydd hyn yn galluogi i'r tîm rheoli ym Mhlas Menai a Chwaraeon Cymru ganolbwyntio ar addasu i'r heriau parhaus a achosir gan y pandemig.  

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl yn ôl i Blas Menai yn ddiogel unwaith y bydd y cyfyngiadau'n caniatáu.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy