Skip to main content

Prosiect FelMerch yr Urdd: Grymuso merched a genethod mewn chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Prosiect FelMerch yr Urdd: Grymuso merched a genethod mewn chwaraeon

Byddai’n syniad da i unrhyw un sy’n chwilio am ffigur ysbrydoledig yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Merched edrych ar ymdrechion anhygoel Menna Fitzpatrick.

Yn ddiweddar cynhaliodd Urdd Gobaith Cymru eu cynhadledd #FelMerch yng Nghaerdydd i gyd-fynd â’r diwrnod byd-eang blynyddol ar Fawrth 8.

Nod #FelMerch yw ysbrydoli a chefnogi merched ifanc a genethod i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel a byddai’n anodd dod o hyd i fodel rôl cystal â Fitzpatrick.

Does gan y sgïwr paralympaidd 23 oed o Gymru ddim golwg yn ei llygad chwith, a dim ond golwg gyfyngedig yn ei llygad dde. 

Ond mae hi wedi goresgyn y rhwystr hwnnw – yn ogystal â’r holl rai strwythurol eraill y mae cymdeithas wedi’u creu iddi fel merch mewn camp nad yw’n cael ei chysylltu â Chymru fel arfer – i gyrraedd copa uchaf y mynydd.

Pan enillodd Menna fedal arian yn y gystadleuaeth sgïo Super-G yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Beijing yr wythnos hon, daeth yn Baralympiad Gaeaf mwyaf llwyddiannus Prydain erioed.

Ar y cyfrif diwethaf, roedd hi wedi ennill chwe medal Baralympaidd – pedair yng Ngemau PyeongChang yn 2018 ac arian ac efydd yr wythnos hon yn Tsieina.

Nid yw'r ffaith ei bod wedi cael ei geni gyda phlygiadau retinal cynhenid ​​sydd wedi cyfyngu ar ei golwg wedi amharu erioed ar ei phenderfyniad a'i huchelgais.

Aeth ar wyliau sgïo gyda'i rhieni ac roedd angen eu cefnogaeth hwy ar y llethrau yn ogystal â chefnogaeth ei thywyswyr, sy'n mynd gyda hi pan fydd yn hedfan i lawr y cwrs ar gyflymder o hyd at 60mya.

Mae ymgyrch #FelMerch yr Urdd yn cydnabod bod pob merch sy’n awyddus i gymryd rhan mewn chwaraeon yn wynebu heriau, hyd yn oed os nad ydynt mor amlwg efallai â’r rhai mae Menna yn eu hwynebu. 

Ei nod yw cefnogi menywod a merched i deimlo eu bod wedi'u grymuso i gael y gorau o weithgarwch corfforol. Y bwriad yw sicrhau bod merched yn cadw'n heini wrth iddynt fynd yn hŷn a'u bod yn gallu goresgyn anghydraddoldebau o ran mynediad a chyfranogiad.

Mae llai o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon na bechgyn ym mhob oedran, mae cadw genethod a merched ifanc mewn chwaraeon yn llai sicr nag ydyw ar gyfer eu cyfoedion gwrywaidd, ac mae’r gymhareb hyfforddwyr a gweinyddwyr hefyd yn pwyso'n drwm yn erbyn merched.

Mae ymchwil wedi dangos hefyd bod yr holl dueddiadau hyn o anghydraddoldeb wedi'u hehangu yn ystod cyfnodau clo’r pandemig.

Hollie Arnold yn dathlu i Gymru
Hollie Arnold yn cefnogi #FelMerch yr Urdd Llun: Gemau’r Gymanwlad Cymru

"Mae pob merch ifanc yn haeddu’r un cyfleoedd"

Roedd y gynhadledd genedlaethol yn cynnig gweithdai ar iechyd a ffitrwydd, bwyta'n iach, iechyd meddwl, cyfleoedd o fewn chwaraeon i bobl anabl, yn ogystal â thrafodaethau ar y cyfryngau mewn chwaraeon a chydraddoldeb, delwedd y corff a gwytnwch.

Mae'r gweithgareddau a ddarperir yn cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd wyneb yn wyneb yn ogystal â chyfarfodydd ar-lein, rhaglenni hyfforddi arweinyddiaeth a chanolfannau gweithgareddau gwyliau.

Fodd bynnag, nod yr Urdd yw bod yn llawer mwy na dim ond siop siarad ar gyfer trafod y materion hynny. Mae wedi penodi llysgenhadon i ysbrydoli merched ledled Cymru ac mae’n cynllunio cyrsiau arwain chwaraeon a hyfforddwyr i ferched yn unig, ynghyd â gweithgareddau wythnosol cynhwysol.

Mae'r llysgenhadon #FelMerch yno i sefydlu grwpiau yn eu hardal i hyrwyddo nodau'r ymgyrch a rhannu profiadau a syniadau. Mae mwy o lysgenhadon yn cael eu recriwtio ledled Cymru a gellir cael y manylion yma.

Fe wnaeth hefyd ddenu rhai enwau mawr sydd eisoes wedi cael effaith yn eu dewis chwaraeon i helpu i rymuso eraill i fod yn rhan - ac wedyn aros yn rhan - o chwaraeon.

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Gemma Grainger, sydd wedi arwain ei thîm tuag at siawns o gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn Awstralia a Seland Newydd, yn rhan o ymgyrch yr Urdd.

Meddai: “Mae’r fenter #FelMerch ehangach yn hanfodol bwysig i gynyddu cyfranogiad merched a chynnig mwy o gyfleoedd ym mhob camp ledled Cymru.

“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weld llwyddiant #FelMerch gyda fy llygaid fy hun yng nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog, a chefnogaeth yr Urdd i drefnu bysiau cefnogwyr i’n gemau ni fel tîm Cymru.

“Rydw i’n gyffrous i weld sut bydd #FelMerch yn parhau i ddatblygu yn y dyfodol.” 

Cefnogwr arall i #FelMerch yw’r taflwr gwaywffon Hollie Arnold sydd wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd bedair gwaith ac yn bencampwr y byd.

Fel Fitzpatrick, mae hi wedi gorfod goresgyn heriau oherwydd ei hanabledd, ond dywedodd: “Rydw i bob amser wedi ei ddefnyddio er mantais i mi.

“I mi, mae’r cyfan yn ymwneud â meddylfryd ac agwedd tuag at beth bynnag ydi’r her.

“Mae pob merch ifanc yn haeddu’r un cyfleoedd a dyna pam rydw i wrth fy modd o gael bod yn rhan o gynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf erioed Cymru, #FelMerch, gan helpu i ysbrydoli, grymuso a darparu cyfleoedd i gefnogi merched ifanc a genethod i gyflawni eu llawn botensial a chyrraedd y nod maen nhw wedi’i ddewis.”

Bydd rhwystrau i'w goresgyn bob amser, hyd yn oed pan fydd y llwybr o'ch blaen yn edrych yn glir.

Roedd Menna Fitzpatrick wedi paratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd gyda Katie Guest fel ei thywysydd. Cafodd y cynlluniau hynny eu chwalu’n llwyr pan brofodd Guest yn bositif am Covid y noson cyn y Gemau.

Daeth Gary Smith i’r adwy fel ei thywysydd newydd a phrofodd Menna bod unrhyw beth yn bosibl gyda phenderfyniad a chefnogaeth pobl eraill. 

Llun Gemma Grainger: FAW

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy