Skip to main content

Prosiectau chwaraeon cyffrous wedi'u cefnogi gan £3.5m o gyllid

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Prosiectau chwaraeon cyffrous wedi'u cefnogi gan £3.5m o gyllid

Mae’r ymgyrch barhaus i gael mwy o bobl i fod yn actif ledled Cymru yn cael ei chefnogi gan £3.5m o gyllid Llywodraeth Cymru sy’n mynd tuag at 37 o brosiectau chwaraeon.

Wedi’i neilltuo gan Chwaraeon Cymru, bydd y cyllid yn ehangu mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith cymunedau, yn creu mwy o gaeau artiffisial yn y lleoliadau sydd eu hangen fwyaf, a hefyd yn cefnogi ein hathletwyr mwyaf talentog ni i wireddu eu breuddwydion.

Gwnaeth sawl awdurdod lleol gais llwyddiannus am gyllid i helpu i wneud canolfannau hamdden yn fwy ynni-effeithlon fel bod gweithgareddau’n gallu parhau i fod yn fforddiadwy i gymunedau eu mwynhau.

Er enghraifft, bydd costau rhedeg yn cael eu torri yn y Ganolfan Hamdden yn Abertawe diolch i osod paneli solar a goleuadau LED yn eu lle, a bydd gwerth £175,226 o welliannau yn helpu i arbed ynni mewn llawer o safleoedd ar draws Sir Benfro.

Bydd cyfleusterau poblogaidd eraill yn elwa o filiau cyfleustodau is hefyd. Bydd yr Urdd yn defnyddio £25,860 tuag at osod paneli solar yn eu lle yng Nghanolfan Breswyl Llangrannog, a bydd Stadiwm Queensway yn Wrecsam yn gosod goleuadau LED yn eu lle a fydd yn gwella effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd y stadiwm.

Mae syniadau arloesol i helpu mwy o bobl i ddod yn actif wedi derbyn cyllid sylweddol. Bydd cynlluniau Cyngor Sir Penfro ar gyfer defnyddio technoleg Deallusrwydd Artiffisial i greu sesiynau ymarfer corff personol ar gyfer pob gallu yn derbyn £99,630, ac mae Bocsio Cymru wedi derbyn cyllid i gyflwyno cyfleoedd ar gyfer Bocsio Realiti Rhithwir – sy’n ddelfrydol ar gyfer rhoi cyfle i bobl â namau fwynhau’r gamp yn ddiogel.

Mae cynnig i roi wyneb newydd ar y trac athletau ym Mhentref Chwaraeon Sir Benfro wedi derbyn £191,253, ac mae Chwaraeon Cymru wedi cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru i neilltuo cyllid ar gyfer nifer o gaeau artiffisial newydd ym Mhort Talbot, Wrecsam, Cwmbrân, Bae Colwyn a Hwlffordd.

Yn dynn ar sodlau Gemau Paris 2024 llwyddiannus i athletwyr Cymru, mae mwy na hanner miliwn o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi i wella cyfleusterau a chreu amgylcheddau chwaraeon gwell fel bod athletwyr mwyaf talentog y wlad yn gallu cyflawni eu potensial.

Mae’r prosiectau y dyfarnwyd cyllid iddynt yn cynnwys creu Canolfan Ragoriaeth gyntaf erioed ar gyfer Bocsio Cymru, cyfres o fesurau uwchraddio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru a’r Ganolfan Hoci Genedlaethol, gwelliannau i’r gampfa berfformiad yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, a gosod 2,000 yn rhagor o seddi yn lleoliad y Tŷ Chwaraeon yng Nghaerdydd – cartref pêl rwyd perfformiad yng Nghymru.

Mae merch yn cicio pêl-droed tuag at ei chyd-chwaraewyr ar gae 3G

 

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, Brian Davies: “Fe gawson ni lefel uchel o geisiadau gan awdurdodau lleol, cyrff rheoli chwaraeon a phartneriaid cenedlaethol am gyfran o’r cyllid yma ac fe wnaethon ni flaenoriaethu prosiectau a fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar wneud chwaraeon yn fwy cynhwysol i bawb yn ogystal â cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer meithrin athletwyr dawnus.

“Yn union fel y gwnaethon ni y llynedd, rydyn ni’n falch o fod wedi gallu dyfarnu swm mawr o arian i helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor cyfleusterau hamdden drwy eu gwneud yn fwy ynni-effeithlon a chynaliadwy. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn cynhyrchu arbedion carbon sylweddol, gan helpu i gefnogi targedau newid hinsawdd Cymru.”

Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth Cymru: "Drwy'r cyllid hwn - sy'n rhan sylweddol o'n buddsoddiad o £8m yn Chwaraeon Cymru eleni - rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau i hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon, yn cefnogi ein clybiau ar lawr gwlad ac yn buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon newydd, o safon fyd-eang ar gyfer athletwyr talentog ein cenedl.

"O gyfleusterau arloesol sy'n cael eu gyrru gan dechnoleg i leoedd ynni-effeithlon, bydd y prosiectau hyn yn cynnig cyfleoedd cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i bobl ledled Cymru fwynhau manteision iechyd corfforol a meddyliol chwaraeon, ac i hogi eu sgiliau a'u talent i gyflawni eu potensial ac efelychu eu harwyr chwaraeon.”

Mae’r holl grantiau wedi bod yn bosibl diolch i gyfanswm o £8m o gyllid cyfalaf ar gyfer 2024-25 sydd wedi’i neilltuo i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae pob grant yn amodol ar fodloni rhai telerau ac amodau. Mae rhai o'r prosiectau eisoes ar droed, ac mae eraill wedi'u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf.

Mae rhestr lawn o’r 37 o brosiectau sydd i dderbyn cyllid cyfalaf i’w gweld isod.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy