Offer Newydd
Peli rygbi, bagiau taclo, tagiau, neu gonau; os oes angen offer newydd ar gyfer rygbi merched yn eich clwb chi, gall Cronfa Cymru Actif helpu.
Yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, fe ddywedodd 31% o’r merched a ymatebodd y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe baent yn teimlo’n fwy hyderus, ac mae gwneud yn siŵr bod gan bawb y cit cywir yn ffordd gyflym a hawdd o helpu chwaraewyr benywaidd yn eich clwb i deimlo bod croeso iddynt.
Angen mwy o offer i gefnogi tîm rygbi merched yn eich clwb? Neu eisiau uwchraddio offer hen ffasiwn neu ail-law? Gwnewch gais am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Cymru Actif i ddarparu'r cit maen nhw’n ei haeddu i ferched ym myd rygbi.
Llifoleuadau
Gall cael amser cyfyngedig i hyfforddi fod yn rhwystr i chwarae rygbi, felly gall buddsoddi mewn llifoleuadau ynni-effeithlon greu mwy o gyfleoedd i dîm rygbi merched chwarae rygbi yn eich clwb, hyd yn oed ar ôl iddi dywyllu.
Os oes angen uwchraddio eich offer presennol neu os na allwch chi ddefnyddio eich cae o gwbl gyda’r nos, mae llifoleuadau’n nodwedd wych arall y gall Cronfa Cymru Actif ei chefnogi.
Cyrsiau i Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr a hyfforddwyr wrth galon pob clwb rygbi – hebddynt, ni fyddai clwb i fynd iddo! Bydd Cronfa Cymru Actif yn cefnogi cyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddi, dyfarnu a chymorth cyntaf yn eich clwb. Os ydych chi'n hyfforddi mwy o bobl, gallwch gynnal mwy o sesiynau a gweithredu mwy o dimau, gan gynnwys un ar gyfer merched a genethod.
Dyma'n union beth wnaeth y North Wales Crusaders! Maen nhw wedi derbyn cyllid ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf a chyrsiau diogelu ar gyfer eu hyfforddwyr a’u gwirfoddolwyr i gadw merched a phlant yn ddiogel wrth chwarae rygbi.
Fe all cyrsiau hyfforddi sicrhau hefyd bod eich sesiynau wedi'u teilwra ar gyfer anghenion penodol merched mewn chwaraeon, felly hyfforddwch y gwirfoddolwyr hynny ac ewch amdani!