Skip to main content

Pum ffordd y gallwn ni gyllido eich clwb rygbi drwy Lle i Chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pum ffordd y gallwn ni gyllido eich clwb rygbi drwy Lle i Chwaraeon

Gyda Chwpan Rygbi’r Byd yn ei anterth, beth am i ni edrych yn ôl ar bum prosiect y mae Chwaraeon Cymru wedi’u cyllido mewn clybiau rygbi drwy ein cronfa Lle i Chwaraeon.

Mae Lle i Chwaraeon yn cynnig cyfle i glybiau rygbi ymgysylltu â’u cymuned a chodi arian drwy Crowdfunder. Ac os ydyn nhw’n cyrraedd eu targed codi arian, mae Chwaraeon Cymru yn camu i mewn gydag arian ychwanegol i gefnogi’r prosiect. Gwych de? 

Allai'r prosiectau yma ysbrydoli'ch clwb chi i ddechrau cyllido torfol?

Mynd i'r afael â chostau byw yng Nghlwb Rygbi Treganna

Lai na dwy filltir o Stadiwm Principality ei hun, fe ddewch chi o hyd i Glwb Rygbi Treganna. A gyda bron i 200 o blant bellach yn mwynhau rygbi yno wythnos ar ôl wythnos, mae’r clwb o Gaerdydd yn llawn dop ac mae gwir angen mwy o le.

Yn fwy na hynny, breuddwyd fawr y clwb ydi dod â'r costau i rieni i lawr i ddim. Wel am wych! 

Penderfynodd y clwb fynd ati i sefydlu prosiect Cyllido Torfol i weld a allai godi digon o arian ar gyfer cynhwysydd storio newydd. Byddai hwn nid yn unig yn gartref i offer ond byddai hefyd yn helpu'r clwb i dalu costau hyfforddiant y gaeaf drwy agor cegin fechan.

Mae'r clwb wedi codi cyllid torfol o bron i £7000 a derbyniodd £3,500 arall gan Chwaraeon Cymru.

Cyngor Doeth

Meddai’r Cadeirydd ar gyfer yr Adran Mini ac Iau, Wayne David, “Gwnewch eich gwaith cartref yn gyntaf – edrychwch ar brosiectau llwyddiannus Crowdfunder i’ch helpu chi i benderfynu ar eich targed. Siaradwch â chlybiau eraill sydd wedi bod drwy’r broses a chael arweiniad gan eich Corff Rheoli Cenedlaethol fedr eich helpu chi i roi cynllun at ei gilydd.”

Newid mawr yng Nghlwb Rygbi Rhuthun

Gydag un gawod gymunedol yn unig, mae cyfleusterau Clwb Rygbi Rhuthun wedi bod angen eu hadnewyddu ers tro. Ar ôl siarad gyda phartneriaid cyllido eisoes i godi rhywfaint o’r arian oedd ei angen, sefydlodd Clwb Rygbi Rhuthun brosiect Cyllido Torfol i weld a allai’r gymuned leol wthio’r prosiect dros y llinell.

Ac fe wnaethon nhw'n union hynny. Gyda chyllid torfol o £15,000, cyfrannodd Chwaraeon Cymru £10,000 ychwanegol o'i gronfa Lle i Chwaraeon.

Ar wahân i gyfleusterau cawod llawer gwell, bydd gan y clwb bellach adeilad clwb modern ac ystafelloedd newid y gall y gymuned gyfan eu mwynhau. Bydd yn galluogi'r clwb i barhau i ddatblygu rygbi iau a'i adran Ravens gynyddol boblogaidd i ferched a genethod.

Cyngor Doeth

“Peidiwch â gadael eich dyddiad cau yn rhy hir,” meddai Sam Higgitt o Glwb Rygbi Rhuthun. “Mae angen i chi adeiladu momentwm ac mae hynny'n haws o fewn amserlen fyrrach. Cofiwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl pan fyddwch chi'n cyrraedd eich cerrig milltir hefyd!”

Mae’n gyfnod newydd i Waunarlwydd

Pentref yn Abertawe yw Waunarlwydd ac wrth ei galon mae ei glwb rygbi sydd wedi bod yn dysgu rygbi cymunedol ers mwy na 120 o flynyddoedd. Mae hefyd wedi helpu i ddatblygu chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Nicky Smith, Liam Williams a Siwan Lillicrap.

Mae adeilad y clwb wedi chwarae sawl rôl ers iddo gael ei adeiladu yn y 1970au - banc bwyd yn ystod y pandemig a lleoliad i godi arian i’r ysgol leol i enwi dim ond dau. Ond er ei fod yn hynod boblogaidd, nid yw bellach yn addas i'r pwrpas.

Gan droi at Crowdfunder, amlinellodd y clwb ei gynlluniau i ddatblygu adeilad clwb cwbl fodern a fyddai o fudd i'r gymuned gyfan. Gydag arian cyfatebol gan Chwaraeon Cymru, mae’r clwb eisoes wedi codi mwy na £40,000 ar gyfer ffitio’r adeilad sydd wedi’i adeiladu gan ddatblygwr.

Cyngor Doeth

“Mae’n syniad da cael rhywun i arwain arno er mwyn iddo allu dal ati i atgoffa pobl i gyfrannu,” meddai Andrew Wedlake, Cadeirydd y Clwb.

darluniad o dŷ clwb newydd ar gyfer Clwb Rygbi Waunarlwydd
Syniad Clwb Rygbi Waunarlwydd ar gyfer eu dŷ clwb newydd

Yr Hendy ar y trywydd iawn i ddatblygu mwy o chwaraewyr Cwpan y Byd y dyfodol

Yn y cyfamser, penderfynodd Clwb Rygbi’r Hendy y tu allan i Abertawe wneud cais i gronfa Lle i Chwaraeon Chwaraeon Cymru er mwyn gallu buddsoddi mewn offer dadansoddiad fideo. Ac mae eisoes wedi codi mwy na £2000.

Y gobaith ydi y bydd y dechnoleg newydd yn gwella hyfforddi ar lefelau iau a hŷn. Yn sicr mae ganddo enw da am ddatblygu chwaraewyr, ar ôl meithrin doniau Josh Adams, un o sêr Cymru yng Nghwpan y Byd.

Gall troi at y gymuned i helpu i godi arian ymddangos yn heriol yn aml. Ond gan fod y clwb eisoes yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar gyfer yr ysgol leol yn ogystal ag achlysuron cymdeithasol a dosbarthiadau ioga, mae pobl leol wedi bod yn barod iawn i helpu.

Cyngor Doeth

“Mae angen iddi fod yn ymdrech gydlynol – gwneud pawb yn ymwybodol – gwirfoddolwyr, chwaraewyr a phobl a’u cael nhw i’w rannu hefyd. Fe helpodd hynny ni’n fawr i’w gael e dros y llinell,” meddai prif hyfforddwr y dynion, Sam Collins.

Clwb Rygbi Bangor yn ffarwelio â fandaliaeth a baw ci

Roedd Clwb Rygbi Bangor yn dod yn fwyfwy rhwystredig ynglŷn â lefel y fandaliaeth ac, ie, baw ci, ar ei gaeau. Er gwaethaf gosod arwyddion yn eu lle, doedd y broblem ddim yn diflannu, gan achosi pryderon iechyd a diogelwch.

Er mwyn gwarchod y chwaraewyr, yn enwedig y rhai iau, penderfynodd y clwb ffensio'r cae. Ond ar gost o £10,000, ni allai wneud hynny ar ei ben ei hun.

Fe drodd at Crowdfunder a chronfa Lle i Chwaraeon Chwaraeon Cymru a rhagori ar ei darged drwy godi bron i £11,500. Nawr mae'r ffens yn ei lle ac mae’r chwaraewyr yn gallu mwynhau rhedeg, pasio a thaclo ar gae heb unrhyw fandaliaeth na baw ci. Rhagorol!

Cyngor Doeth

Meddai John Lloyd, codwr arian y clwb, “Daliwch ati i atgoffa pobl pam ydych chi’n rhoi’r prosiect ar waith – i ni, roedd hynny er mwyn diogelu iechyd ein plant ni.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy