Gan Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru
Gofynnwyd i mi yr wythnos ddiwethaf oeddwn i’n credu bod Chwaraeon Cymru yn sefydliadol hiliol. Mae'n gwestiwn rwyf wedi'i ofyn i mi fy hun sawl gwaith, yn enwedig ers marwolaeth George Floyd, a sbardunodd drafodaethau byd-eang am hil a chydraddoldeb. Ac ar ôl ystyried y cwestiwn yn ddwys, gallaf ddweud yn gwbl onest, na, nid wyf yn credu bod Chwaraeon Cymru yn sefydliadol hiliol.
Fodd bynnag, rwyf yn derbyn yn llwyr nad oes digon wedi cael ei wneud yn rhagweithiol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol ar unrhyw lefel mewn chwaraeon, o'n hystafelloedd bwrdd i’r caeau chwarae a'r llinellau ochr.
Un o flaenoriaethau allweddol Chwaraeon Cymru yw mynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae'n hanfodol ein bod yn siarad am y pwnc hwn yn onest, ac i bawb sy'n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru ystyried a ydynt yn gwneud digon.
Mae'n amlwg yn broblem gymdeithasol ehangach – nid chwaraeon yw'r unig faes sy'n cael problemau amrywiaeth. Ond fel sector mae'n rhaid i ni ymrwymo i wrando’n well a chynnwys y bobl y mae pob math o anghydraddoldeb mewn chwaraeon wedi effeithio arnynt, er mwyn gallu cymryd y camau cywir i sicrhau effaith hirhoedlog a chyffredinol.
Angen camau gweithredu ar y cyd ar gyfer newid tymor hir
Rhaid i ni beidio â syrthio i'r fagl o wneud cynnydd mewn pocedi bach yn unig – rydyn ni wedi gwneud hynny o'r blaen.
Dros y blynyddoedd gwelwyd nifer o brosiectau lleol rhagorol sydd wedi cael effaith gadarnhaol, ond mae arnom ni angen dull gweithredu ar y cyd os ydym am weld gwelliannau cynaliadwy yn y tymor hir. Rhaid i bawb chwarae eu rhan. Nid yw'n mynd i fod yn hawdd, ac nid yw'n mynd i gael ei gyflawni'n gyflym, ond gydag ewyllys ar y cyd i wneud yn well, gallwn weithredu gyda'n gilydd i sicrhau bod chwaraeon yn dod yn wirioneddol gynhwysol.
Er mwyn helpu i ddylanwadu ar raddfa'r newid rydym eisiau ei weld, mae ein strategaeth yn ein harwain at ailwampio'n llwyr y ffordd rydym yn gweithio i ymgorffori a gosod rhoi sylw i anghydraddoldeb yn flaenllaw ym mhopeth rydym yn ei wneud. Fel rhan o hyn, mae ein dull o gyllido’n newid yn sylweddol, gyda'r rhai sy'n gallu ac yn y sefyllfa orau i gael effaith ymhlith grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol ar hyn o bryd yn cael gwell cymorth ariannol a mwy o ymreolaeth.
Mae Cronfa Cymru Actif, sy’n helpu clybiau i oroesi argyfwng Covid-19 ar hyn o bryd, wedi gweld arwyddion bach o gynnydd eisoes o'r dull newydd hwn. Mae ymuno â chyrff a grwpiau eraill sydd eisoes wedi sefydlu cysylltiadau cymunedol yn helpu i wneud y gronfa'n fwy hygyrch i grwpiau amrywiol. Mae chwarter y 1,200 o geisiadau i’r gronfa wedi dod gan glybiau sy'n ceisio gwella eu darpariaeth ar gyfer grwpiau o Bobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig.
Creu diwylliant o gynhwysiant
Mae cyfle i chwaraeon greu newid mawr. Gall chwaraeon chwarae rhan allweddol wrth greu cymdeithas fwy amrywiol. Yn fy marn i, mae gan chwaraeon allu unigryw i oresgyn rhwystrau, uno ac felly helpu i arwain y ffordd ar draws cymdeithas wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Ond nid heb i ni ymrwymo i'r gwaith caled, yr adnoddau a'r newid meddwl fydd ei angen i sicrhau hyn.
Wrth i ni adfer o argyfwng Covid-19 nid dim ond meddwl am gael ein hen gynulleidfaoedd yn ôl i'r chwaraeon maent mor hoff ohonynt ddylem ni. Mae gennym ni gyfle i ailddyfeisio'r hyn y gall ac y dylai chwaraeon fod yn y dyfodol, a denu cynulleidfaoedd newydd i deimlo bod croeso iddynt a chael yr opsiwn i ddod o hyd i weithgareddau maent yn hoff ohonynt.
Er mwyn creu diwylliant o gynhwysiant, mae angen i bawb sy'n ymwneud â chwaraeon, ar draws pob lefel, fod yn barod i ofyn rhai cwestiynau anodd a derbyn lle mae ein gwendidau wedi bod yn y gorffennol. Er enghraifft, a yw ein clwb neu ein camp yn ddigon croesawgar? Ydyn ni'n gynhwysol mewn gwirionedd? Efallai bod rhai o'r atebion yn anghyfforddus i'w clywed, ond mae angen i ni fod yn barod i wynebu hyn a gwrando'n astud ar y materion sy'n dod i'r amlwg.
O'r caeau i'r ystafelloedd bwrdd
Yn ogystal â chymryd camau i wella cyfleoedd cyfartal i bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, rhaid i ni hefyd gymryd camau pellach i fynd i'r afael â'r diffyg amrywiaeth ymhlith pobl mewn swyddi arwain yn y byd chwaraeon yng Nghymru.
Rhaid i arweinwyr, y bobl sy’n gwneud penderfyniadau a darparwyr chwaraeon fod yn gynrychioliadol o'n poblogaeth ni, oherwydd heb hyn byddwn yn parhau i'w chael yn anodd gwneud chwaraeon yn ddeniadol ac yn hygyrch i bawb. Byddwn yn parhau i gamddeall, methu cysylltu neu’n anwybodus o ran anghenion y rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn ein system.
Yn Chwaraeon Cymru, rydym yn derbyn nad yw ein ffigurau am amrywiaeth yn ddigon da, er ein bod wedi gwneud rhai gwelliannau yn ystod y degawd diwethaf. Wyth mlynedd yn ôl, roedd ein bwrdd yn wyn ac yn wrywaidd iawn. Heddiw, mae gennym ni wyth aelod benywaidd o'r bwrdd, a chwech o aelodau gwrywaidd ac rydw i’n gwybod bod cynnydd tebyg wedi'i wneud gyda rhywedd mewn ystafelloedd bwrdd chwaraeon eraill yng Nghymru hefyd. Mae'r llwyddiant o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau yn arwydd o hyder y gallwn ni wneud hyn, dim ond i ni ehangu cwmpas y gwaith hwnnw i gynnwys grwpiau eraill a dangynrychiolir hefyd. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn awyddus iawn i weithio gyda sefydliadau eraill, y tu mewn a'r tu allan i chwaraeon, fel ein bod yn gallu elwa o'u gwybodaeth a'u profiadau.
#RhannwchEichStori
Dywedais yn gynharach, er mwyn symud ymlaen, i ddechrau mae angen i ni wrando ar y bobl iawn a'u cynnwys er mwyn i ni allu deall yn well y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal â rhwystrau cynnydd gyrfaol i'r rhai sydd eisiau gweithio yn y byd chwaraeon.
Yn ddiweddar rydym wedi ymuno â Chynghorau Chwaraeon eraill y gwledydd cartref yn ogystal ag UK Sport i gomisiynu Prifysgol Sheffield Hallam i gynnal astudiaeth fanwl newydd i gasglu data nad oes gennym ar hyn o bryd, ac i roi cyngor ar y ffordd orau o ddiweddaru'r wybodaeth hon yn barhaus.
Bydd prosiect ymchwil sylweddol, a arweinir eto gan gorff ymchwil allanol, o'r enw #RhannwchEichStoriyn dechrau'r wythnos hon hefyd, gan gynnig lle diogel i bobl rannu eu profiadau byw o anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth mewn chwaraeon, boed fel cyfranogwyr, athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr neu rieni. Bydd cyfweliadau, fforymau ar-lein a phorthol ar-lein yn darparu cyfleoedd i gasglu’r straeon hyn. Rhaid i'r sgwrs barhau, a bydd yn parhau. Byddwn yn annog pawb i rannu eu straeon fel ein bod yn gallu creu newid parhaus ac ystyrlon.
Rwyf yn gwbl hyderus y gallwn, ac y byddwn, ni fel sector yn newid hyn i wneud chwaraeon yn rhywbeth i bawb yng Nghymru. Mae llwybr hir o'n blaen ond rwy'n gwybod bod ymrwymiad didwyll i wneud gwahaniaeth. Dyma fyddwn yn ei wneud pan nad yw llygaid y cyhoedd yn gwylio, cydnabod a derbyn y problemau yn ddidwyll, ac wedyn dilyn hyn gyda gweithredu gwybodus, parhaus ac ystyrlon a fydd yn sbarduno graddfa’r newid sydd ei angen.