Bydd rhieni ar hyd a lled Cymru'n deall pa mor heriol yw danfon plant hoff o chwaraeon i sesiynau ymarfer a chystadlaethau amrywiol ar amser.
Efallai bod plentyn rhif un angen bod mewn gwers gymnasteg am 6pm, a phlentyn rhif dau angen bod mewn sesiwn pêl droed rai milltiroedd i fyny'r ffordd ar yr un pryd.
Felly meddyliwch sut mae pethau i deulu'r Backstedts o Bontyclun gyda'r sêr beicio, Elynor (17) a Zoe (14), yn cystadlu'n aml mewn gwahanol wledydd, heb sôn am wahanol drefi.
Yn gynharach y mis yma, roedd y chwaer iau, Zoe, yn ennill Ras A Ieuenctid Cyfres Cylched Beicio Prydain yn Sir Efrog, tra oedd Elynor yn cynrychioli Prydain Fawr yng Ngwlad Belg - gan ennill dau deitl Ewropeaidd unigol a dod o fewn trwch blewyn i gipio record iau y byd.
O ofyn iddo sut mae ef a'i wraig Megan yn ymdopi â logisteg cael dwy ferch o safon byd yn cystadlu mewn grwpiau oedran gwahanol, chwerthin mae Magnus: "Mae'n hunllef!
"Weithiau rydw i'n meddwl y byddai'n haws rhedeg DHL neu UPS neu rywbeth. Ond rydyn ni'n gwneud iddo ddigwydd rywsut."
Ond mae ychydig bach mwy i'r stori yma am ddatrys problemau logisteg chwaraeon.
Mae gan Mr a Mrs Backstedt rywfaint o brofiad o gystadlu ar lwyfan beicio'r byd.
Cafodd Magnus yrfa broffesiynol ddisglair. Bu'n Bencampwr Rasio Ffordd Cenedlaethol Sweden ac enillodd gymal yn y Tour De France a'r Giro d'Italia ac enillodd glasur anrhydeddus Paris-Roubaix yn 2004.
Megan oedd Pencampwraig Rasio Ffordd Genedlaethol Prydain yn 1998 a chystadlodd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur yn y rasio ffordd a'r ras bwyntiau, gan orffen yn bumed.