Main Content CTA Title

Rhestr Chwaraeon Siôn Corn

Mae hi bellach yn ‘amser ychwanegol’ ar gyfer siopa Nadolig. Gyda dim ond ychydig ddyddiau ar ôl, a fyddwn ni’n gweld anrheg chwaraeon funud olaf yn llithro dan y Goeden Nadolig? 

Does dim gwell anrheg na chwaraeon ac ymarfer y Nadolig yma. Yn lle llenwi’r hosanau (er gallai pâr o sanau chwaraeon da fod yn ddefnyddiol), beth am helpu i gadw’ch anwyliaid yn actif? 

Dyma grynodeb o anrhegion gwych ac eitemau i lenwi’r hosan i’ch helpu chi i ddechrau arni. 

Esgidiau Ymarfer 

Rhedeg, cerdded neu fynd i’r gampfa? Un amlwg efallai, ond mae llawer o bobl yn dewis yr esgidiau anghywir ac yn dioddef oherwydd hynny. 

Ewch i siop lle gall rhywun eich cynghori chi ar sail pethau fel y gweithgaredd mewn golwg neu siâp y droed.       

Os byddwch yn gwneud hyn yn iawn, bydd yn rhoi cyflymdra yn eich trefn redeg. 

Mapiau Cerdded Cymru 

Eryri, Bannau Brycheiniog a llwybr yr arfordir sy’n mynd ar hyd arfordir cyfan ein gwlad ni. Mae Cymru yn wych felly codwch allan i weld ei harddwch ar lwybrau cerdded a rhedeg hardd. Ymarfer yng nghanol golygfeydd godidog – y dewis cywir!                   

Careiau Enfys

Mae chwaraeon i bawb a gallwch gefnogi cynhwysiant LGBTQ+ yn y byd chwaraeon a ffitrwydd y Nadolig yma. Os ydi hynny ar y cae neu ar strydoedd, mae gwisgo Careiau Enfys eiconig Stonewall yn y gêm gymunedol yn ffordd berffaith o ddathlu eich hunaniaeth neu ddangos undod gyda phobl LGBT.

Dechreuwch y sgwrs drwy roi careiau yn hosan rhywun. Bydd eich arian yn helpu tuag at yr ymgyrch hefyd – mae’n dymor y rhoi wedi’r cwbl.             

Gwersi Chwaraeon 

Rhowch yr hwb mae rhywun ei angen i roi cynnig ar gamp newydd drwy brynu gwersi iddo y Nadolig yma. Mae golff yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd a gall unrhyw un bron roi cynnig ar hyn. Peidiwch â diystyru tennis na nofio chwaith. Efallai bod mam a dad angen treulio amser arbennig gyda’i gilydd. Beth am ddosbarthiadau dawns i gyplau i’w cadw nhw’n heini? 

Rhaff Sgipio

Perffaith i lenwi’r hosan. Mae’r rhaff sgipio yn cynnig ymarfer cardio gwych y gellir ei wneud yn unrhyw le bron. Gan ddibynnu ar faint rydych chi eisiau ei wario, gallwch ddewis model sylfaenol neu un sy’n cyfrif nifer y neidiau yn ogystal â chyfrif nifer y calorïau rydych chi’n eu llosgi. Gallwch hyd yn oed gynyddu’r ymarfer gyda rhaff â phwysau – cymhelliant ychwanegol i ddal ati i sgipio.               

Bar Tynnu 

Mae bar tynnu yn un o’r ymarferion pwysau corff gorau y gallwch eu gwneud – ond mae’n un o’r rhai anoddaf hefyd. Mae bariau ar gael i’w hongian ar ddrysau felly mae’n rhywbeth syml y gallwch roi cynnig arno adref ar unrhyw adeg.         

Mae’r Flwyddyn Newydd yn cynnig cyfle i osod nodau newydd. Heriwch ffrind neu berthynas i gyrraedd nifer penodol o ymarferion tynnu yn 2022 – boed yn 1 neu’n 101. 

Hyffordwyr ar fat ymarfer corff

Citiau Ymarfer Cartref 

Do, do, mae llawer ohonom ni wedi cael digon ar ymarfer gartref ond gallai hwn fod yn fan cychwyn perffaith ar gyfer dechreuwr sydd ddim wir yn barod i gamu i’r gampfa. Ac mae’n llawer haws cynnwys y rhain mewn amserlen brysur. 

Mae peli ymarfer, bandiau ymwrthedd, pwysau bychain a thrampoliniau bychain yn ddelfrydol ar gyfer y cartref. Neu beth am rywbeth mwy amgen, fel cit ioga, sy’n cynnwys mat a fideo cyfarwyddyd.               

Mae digonedd o fideos ar-lein i’ch helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn rydych chi’n ei brynu. 

Clustffonau 

Mae wedi’i brofi bod ymarfer i gerddoriaeth yn ei wneud yn fwy pleserus. Ac ar y dyddiau hynny pan mae’n anodd meddwl am ymarfer, mae amser fel pe bai’n mynd yn gyflymach wrth wrando ar eich hoff draciau. Cadwch lygad am setiau sydd wedi’u cynllunio gan feddwl am ffitrwydd – yn enwedig modelau di-wifr y gellir eu cysylltu ar Bluetooth i ffôn neu ddyfais arall.   

Het beanie gyda thortsh pen 

Mae’r misoedd yn oer a thywyll ond ni ddylai hynny eich stopio chi rhag ymarfer y gaeaf yma. 

Cadwch eich pen yn gynnes a golau ar eich llwybr drwy wisgo het beanie gyda golau rydych yn gallu ei ailwefru. Rhowch siaced lachar yn anrheg gyda’r het, neu gôt addas sy’n galluogi i’ch corff anadlu drwyddi, a byddwch yn gallu ymarfer yn ddiogel, beth bynnag yw’r tywydd – dim esgusion!

Bagiau Ergydio

Mae bagiau ergydio’n wych ar gyfer gwella cydsymudiad, hyblygrwydd, llosgi calorïau a chael gwared ar straen. Byddant yn amsugno unrhyw gosb y gallwch ei thaflu atynt. Mae bag ergydio rydych yn ei chwythu, sy’n ysgwyd yn ôl ac ymlaen gyda phob ergyd, yn cynnig ymarfer difrifol a hwyliog i’r teulu cyfan. Bydd hynny yn sicr yn eich helpu i ollwng stêm fel mae pethau ar hyn o bryd! 

Sach Picnic 

Mae sach picnic fechan yn ffordd dda o annog y cerddwr amharod i fod yn fwy actif. Gyda chymhelliant o wledd yn yr awyr agored hanner ffordd drwodd, mae mentro allan am dro yn llawer mwy apelgar. Ychwanegwch fflasg thermal fel bod cyfle i bobl sy’n hoff o goffi neu de fwynhau eu hoff ddiod hefyd.         

Peiriant Cyfrif Camau

Mae’r twf mewn technoleg glyfar wedi gwneud teclynnau ymarfer ychydig yn fwy fforddiadwy. 

Gall tracio camau a gweithgarwch fynd yn batrwm cyson a rhoi cymhelliant ychwanegol i godi oddi ar y soffa. Eto, ffordd arall o osod nodau ac annog ffrindiau i gyrraedd targedau.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy