Fel ymateb i’r galw gan athletwyr, mae panel newydd wedi cael ei greu i helpu i ddatblygu amgylcheddau mwy cadarnhaol fel bod dynion a merched Cymru wir yn gallu ffynnu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon elitaidd.
Mae’r ‘Panel Llais Athletwyr’, a fydd yn cael ei gefnogi gan Chwaraeon Cymru, yn cynnwys athletwyr presennol a rhai sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, sy’n awyddus i gyd i rannu eu profiadau a’u syniadau.
Mae Rosie Eccles, bocswraig sydd wedi ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad, Jordan Hart (badminton), Luke George (codi pŵer), Bethan Davies (cerdded rasio), ac Anastasia Blease (pêl fasged cadair olwyn) i gyd ar y panel, ynghyd â’r cyn-nofwyr Alys Thomas a Georgia Davies.
Dywedodd Cath Shearer, Arweinydd yr Amgylchedd yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r panel yma’n banel cyntaf o’i fath i Chwaraeon Cymru, ac mae’r cyfan yn deillio o’r ffaith bod athletwyr wedi dweud wrthyn ni bod hwn yn rhywbeth mae arnyn nhw ei angen ac y maen nhw ei eisiau. Bydd y panel yn darparu gwybodaeth werthfawr gan athletwyr ar lawr gwlad am yr hyn sy'n eu helpu i fod ar eu gorau. Bydd yn helpu i gefnogi amrywiaeth o waith arall sydd ar y gweill fel bod pawb sy’n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru yn gallu creu amgylcheddau gwirioneddol wych sy’n rhoi ystyriaeth lawn i iechyd meddwl a lles athletwyr.
“Er y byddwn ni wrth law i helpu i lywio rhai o’r sgyrsiau mae’r panel yn eu cael, rydyn ni’n awyddus iawn i aelodau’r panel yrru’r agenda yn ei blaen eu hunain. Rydyn ni’n rhagweld y bydd rhai pethau syml y gellir eu newid fel ymateb i adborth y panel, yn ogystal â rhai newidiadau a fydd yn fwy hirdymor.”
Dywedodd Alys Thomas, aelod o’r panel: “Rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r Panel Llais Athletwyr ac yn teimlo y bydd yn paratoi llwybr newydd i wrando ar leisiau athletwyr. Mae eisoes yn teimlo mor wych, cael trafodaethau gydag unigolion o'r un anian o wahanol chwaraeon ar amrywiaeth o bynciau. Gobeithio bod llawer y gallwn ni adeiladu arno i helpu i greu a gwella profiadau athletwyr ledled Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
“Fel nofiwr sydd newydd ymddeol fy hun, rydw i’n wirioneddol angerddol am ddefnyddio fy mhrofiadau i allu rhoi yn ôl i nofio a chwaraeon mewn rhyw ffordd, ac rydw i’n credu bod y rôl yma’n ffordd y galla’ i wneud hynny.”