Mae’r ychwanegiad hirddisgwyliedig at y Gemau Olympaidd – sboncen, ochr yn ochr â’r bwrlwm ar lefel iau sy’n dod i’r amlwg yn y gamp yng Nghymru, yn rhoi pob gobaith i Sboncen Cymru am gyfnod cyffrous o’u blaen.
Mae’r newyddion bod sboncen wedi cael ei dewis fel camp ar gyfer y rhaglen Olympaidd yn Los Angeles 2028 wedi arwain at freuddwydion o’r newydd i’w gwireddu i chwaraewyr gorau Cymru, a chynulleidfa ehangach i’w hysbrydoli.
Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc yn arbennig.
Ond gyda Gemau LA bum mlynedd i ffwrdd, mae Sboncen Cymru yn canolbwyntio ar roi mwy o gyfleoedd i ieuenctid ddechrau chwarae’r gêm nawr. Ac mae eu hymdrechion yn dwyn ffrwyth, gydag adrannau iau newydd yn ffynnu mewn pedwar clwb ar draws y wlad – Y Fenni, Old Penarthians, Llanelli a Llanfair ym Muallt.
Mae strategaeth Sboncen Cymru ar gyfer datblygu’r adrannau iau hynny yn ddeunydd darllen diddorol i chwaraeon eraill sydd eisiau gweld sut gallent hwythau ddal dychymyg meddyliau ifanc.
Ystyriodd Sboncen Cymru ddata’r Arolwg Chwaraeon Ysgol – sy’n cael ei gynnal gan Chwaraeon Cymru i ddangos lefelau cyfranogiad a galw cudd am chwaraeon ymhlith pobl ifanc – i nodi unrhyw fannau problemus posibl, ond gwnaethant hefyd flaenoriaethu pwysigrwydd cael hyfforddwyr yn eu lle i ddechrau.
Dyma Dave Evans, Cyfarwyddwr Perfformiad Sboncen Cymru, i egluro: “Unwaith yr oedden ni wedi meddwl am y pedwar clwb yma, roedd yn bwysig i ni gysylltu â nhw i weld a oedd unrhyw aelodau o’r clwb a fyddai â diddordeb mewn hyfforddi chwaraewyr ifanc. Heb hynny, byddai ein cynlluniau ni wedi methu ar y rhwystr cyntaf.
“Ond ar ôl i ni gael unigolion gwych yn eu lle a oedd yn awyddus i wynebu’r her, fe wnaethon ni lwyddo i ymweld ag ychydig o ysgolion cynradd lleol i roi sesiynau blasu sboncen i blant gan ddefnyddio rhwyd adlam symudol. Ar sail y sesiynau hynny, yn ogystal â thafod lleferydd, mae’r niferoedd wedi cynyddu'n gyson yn y clybiau iau newydd yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn am y gwaith caled mae’r hyfforddwyr wedi ei wneud eisoes, a gobeithio bydd y clybiau’n parhau i fynd o nerth i nerth.”