Os oes arnoch chi angen ysbrydoliaeth i brofi nad ydi hi byth yn rhy hwyr i wella eich ffitrwydd a’ch gweithgarwch, gwrandewch ar stori Rhys Jones.
Lai na thair blynedd yn ôl, roedd Jones yn rhedwr cyffredin 39 oed ac yn nofiwr ofnadwy yn ôl ei gyfaddefiad ei hun gyda’i olwg yn dirywio.
Nawr, mae’n mynd i Gemau’r Gymanwlad i gystadlu dros Gymru fel paratriathletwr yn Birmingham.
Aeth Jones - sy'n llwyddo i gyfuno ei hyfforddiant a chystadlu â gweithio fel seiciatrydd ymgynghorol yn Leeds - ar ei feic a gweithiodd yn galed i wella ei feicio a’i redeg a dysgu nofio o’r newydd unwaith eto.
Roedd ei wylio’n mynd ar wib ar hyd llwybr yr arfordir yn Llanelli mewn digwyddiad Cyfres Uwch Triathlon Prydain yn ddiweddar – gan osgoi bolardiau a chyrbiau concrid yn fedrus gyda help ei dywysydd Rhys James – fel gwylio archarwr canol oed.
Cnociodd funud neu ddau oddi ar ei amser gorau blaenorol a dyddiau yn ddiweddarach, cadarnhawyd ei le yng ngharfan Tîm Cymru ar gyfer y Gemau, lle bydd yn gwisgo fest goch Cymru am y tro cyntaf yn ei fywyd yn 42 oed.
“Fe ddes i at driathlon drwy ddigwyddiad adnabod talent,” meddai Rhys, sy’n dioddef o gyflwr golwg o’r enw dystroffi côn.
“Dim ond rhedwr amatur oeddwn i cyn hynny mewn gwirionedd, er fy mod i wedi chwarae pêl droed a phêl fasged pan oeddwn i’n iau.
“Roeddwn i wastad wedi mwynhau rhedeg ond doeddwn i erioed wedi ystyried triathlon tan i mi fynd i’r digwyddiad talent yma. Fe wnaethon nhw awgrymu fy mod i’n rhoi cynnig arni, felly fe wnaethon nhw fy rhoi i ar feic Watt ac roeddwn i'n eithaf da.
“Fe wnaethon nhw ofyn, ‘Alli di nofio?’ Ac fe atebais i, na.
“Felly, fe wnaethon nhw ddweud wrtha i ei bod yn well i mi fynd i ddysgu a dyna wnes i ar siwrnai hir a phoenus. Nawr, mae gwelliannau i’w gwneud o hyd, ond mae'n dod o'r diwedd.
“Roeddwn i’n 39 oed pan ddechreuais i. Rydw i'n 42 nawr.
“Weithiau, rydw i’n teimlo’n 42. Weithiau, dydw i ddim.”
Weithiau mae paratriathletwyr eraill yn gallu cadw i fyny gyda Peter Pan y gamp. Weithiau dydyn nhw ddim.
Y llynedd - yn ei dymor llawn cyntaf yn cystadlu ar lefel ryngwladol - fe orffennodd yn 10fed ym Mhencampwriaethau Ewrop ac wedyn cipio efydd arloesol yng Nghwpan y Byd yn Alhandra, ym Mhortiwgal ym mis Hydref.
“Pan wnes i ddechrau cymryd rhan mewn para-triathlon, roedd yn achos o roi cynnig arni a gweld sut oedd pethau’n mynd,” ychwanegodd Rhys, sydd ag arbenigedd meddygol ym maes anhwylderau bwyta.
“Fe fues i’n llwyddiannus mewn rhai rasys a meddwl y byddwn i’n ymrwymo i’r gamp.
“Mae fy ngwaith i wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi dweud wrtha i am fynd amdani. Felly, rydw i ar seibiant gyrfa ar hyn o bryd.”