Gall atgofion chwaraeon bara am oes, ond yn fuan iawn gallent helpu i ymestyn a gwella bywydau ledled Cymru.
Mae'r Rhwydwaith Atgofion Chwaraeon yn un o blith 17 o brosiectau sydd wedi cael cyllid mewn ymgais i gael pobl i fod yn egnïol yn gorfforol a hefyd helpu gyda'u hiechyd meddwl
Mae'r Rhwydwaith Atgofion Chwaraeon yn un o blith 17 o brosiectau sydd wedi cael cyllid mewn ymgais i gael pobl i fod yn egnïol yn gorfforol a hefyd helpu gyda'u hiechyd meddwl
Ond mae'n syniad syml mewn gwirionedd. Cael pobl hŷn at ei gilydd i siarad am chwaraeon. Gall fod yn gamp roeddent yn ei chwarae eu hunain unwaith, neu'n gêm wych neu seren chwaraeon gofiadwy o'r gorffennol.
Wrth hel atgofion mewn sefyllfa gymdeithasol, y gobaith yw sicrhau manteision o ran mynd i'r afael â dementia, ynysu ac unigrwydd. Wedi'r cwbl, weithiau mae'n haws i rai ohonom gofio pwy oedd yn chwarae mewn rownd derfynol Cwpan nodedig na chofio ble rydyn ni wedi rhoi allweddi'r car.
Ar ôl procio'r cof, efallai y byddwch yn llwyddo i gael pobl i gymryd rhan yn gorfforol - neu eu harwain o leiaf tuag at bêl droed yn cerdded, pêl rwyd yn cerdded, neu ddartiau
Fel yr 16 prosiect arall, mae grwpiau chwaraeon yn ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect hwn, sef Sefydliad Cymunedol Dinas Caerdydd, y Gweilch yn y Gymuned, Clwb Criced Morgannwg a Chriced Cymru.
Syniad y gronfa yw newid ymddygiad, yn hytrach na dim ond cyfrannu arian at syniad sy'n rhedeg ei gwrs ac wedyn yn dod i ben pan mae'r arian yn dod i ben.