Yn ferch fach, arferai pencampwraig y Gymanwlad, Rosie Eccles, dynnu lluniau ohoni ei hun gyda medalau aur o amgylch ei gwddw.
Ond nid am focsio, y gamp mae hi newydd ddringo i frig y podiwm ynddi yn Birmingham, oedd hi yn eu hennill
"Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i’n tynnu lluniau ohono i fy hun fel Olympiad, yn rhedeg ac yn nofio. Wnaeth e ddim cweit digwydd, ond dyna beth roeddwn i eisiau bod," meddai Rosie, sydd wedi cael y llysenw Right Hand Rosie am bŵer ergyd ei llaw dde.
"Roeddwn i'n arfer caru rhedeg a nofio yn fy nghlwb lleol yng Nghas-gwent. Roeddwn i bob amser yn rhedeg, yn yr ysgol roeddwn i'n arfer gwneud y rhedeg traws gwlad drwy'r amser.
“Ond wedyn fe ges i fy anafu pan o’n i tua 12 oed. Roeddwn i mewn ras a wnes i ddim gweld y tro.
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i wedi ei wneud ar y pryd, roedd y cyfan ychydig yn wahanol bryd hynny, ond roeddwn i wedi anafu rhyw fath o ligament yn fy mhen-glin.
"Doeddwn i ddim yn gallu rhedeg wedyn nes oeddwn i tua 15 oed. Roeddwn i'n gwneud athletau yn yr ysgol, ond roeddwn i’n blino yn hawdd iawn. Felly, roedd yn dair blynedd o ddim llawer o chwaraeon."
Daeth colled athletau a nofio yn ennill i focsio.
Ddegawd ar ôl rhoi cynnig ar focsio am y tro cyntaf yn 16 oed, Eccles bellach yw pencampwraig pwysau canol ysgafn merched y Gymanwlad - yr ail focswraig fenywaidd yn unig o Gymru i ennill medal aur y Gymanwlad ar ôl Lauren Price.
Ond mae'n dweud bod ei chwilfrydedd i roi cynnig ar wahanol chwaraeon - sicrhau ffitrwydd a chydsymudiad cyffredinol mewn amrywiaeth o wahanol sgiliau - wedi rhoi sylfaen ardderchog iddi, ar gyfer chwaraeon ac ar gyfer bywyd.
“Fe es i i ddosbarth bocsio pan oeddwn i’n 16 oed, felly dyna sut dechreuodd y cyfan. Yn blentyn, fy mreuddwyd i oedd bod yn Olympiad.
“Mae'n rhaid mai Gemau Olympaidd 2008 yn Beijing oedden nhw. Rydw i'n cofio gwylio Mo Farah, fe fyddwn i o flaen y teledu yn gwylio'r holl chwaraeon. Roeddwn i yr un fath yn 2012.
“Er mai fy mreuddwyd i oedd rhedeg, ac roeddwn i’n eithaf da, nid dyna’r gamp i mi.
“Pan wnes i gamu i’r cylch bocsio yn 15 oed, dim ond dosbarth bocsymarfer oedd e yng Nghil-y-coed. Roeddwn i’n ffodus iawn fy mod i wedi cwrdd â'r hyfforddwr, Paul Maloney.
"Pan welodd e fi, fe ddaeth draw a gofyn a oeddwn i erioed wedi gwneud hyn o'r blaen. Fe ddywedodd wrtha’ i am ddod i lawr i'r gampfa yn y boreau pan oeddwn i’n 16 oed.