Fe ddechreuodd y cyfan fel syniad annelwig a grybwyllwyd ar draeth Aberafan gan gyn-hyfforddwr pêl droed, Julie Clayden.
Roedd hynny fis Tachwedd diwethaf – dim ond 10 mis yn ôl.
Ers hynny, mae My Rounders wedi blaguro yn 73 o dimau cofrestredig sy’n chwarae mewn wyth cynghrair ar wahân gyda mwy na 1,200 o chwaraewyr.
“Roedd galw allan yna am gamp gymdeithasol a fyddai’n hwyl i’w chwarae, ond a fyddai hefyd yn helpu eich ffitrwydd chi,” meddai Julie.
“Fe wnes i roi neges ar y cyfryngau cymdeithasol ac o fewn tair wythnos roedd gen i 152 o bobl oedd eisiau chwarae. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cofio rownderi o’u dyddiau iau a’r hwyl roedd yn ei gynnig iddyn nhw.”
Dyna oedd y sbarc i Gynghrair Port Talbot, sy’n cael ei chwarae yng Nghanolfan Hamdden Aberafan. Nesaf daeth Tre-gŵyr ger Abertawe, Pontardawe, Castell-nedd ac mae cynghreiriau ar y ffordd i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a'r Barri.
I'r rhai sydd wedi hen anghofio, mae rownderi yn gamp sy'n cynnwys naw chwaraewr mewn tîm, bat, pêl, pedwar postyn siâp diemwnt, bowliwr, a dyfarnwr.
Mae pob batiwr yn ceisio mynd o amgylch y pedwar postyn i ennill pwynt neu rownder a'r tîm gyda'r mwyaf o rownderi ar ôl nifer penodol o fatiadau ydi'r enillydd.
Gall y timau fod o'r un rhyw neu'n gymysg. Mae My Rounders yn caniatáu i bob tîm gynnwys uchafswm o dri chwaraewr gwrywaidd, ond maen nhw hefyd yn rhedeg timau a chynghreiriau merched yn unig ar wahân.
“Mae rownderi yn gamp gymdeithasol gwbl hygyrch y mae pawb i weld yn ei mwynhau,” meddai Julie.
“Mae pobl wrth eu bodd gyda’r ffaith ei bod ar gyfer pob oedran, a phob lefel o ffitrwydd. Rydyn ni wedi denu rhai pobl sy'n eithaf heini ac actif ac sy’n chwarae chwaraeon eraill hefyd, ond mae gennym ni hefyd lawer mwy o chwaraewyr oedd eisiau'r agwedd o gyfeillgarwch a'r elfen o hwyl - yn enwedig ymhlith eu ffrindiau a'u teuluoedd, neu gydweithwyr.
“Pan wnaethon ni ddechrau yng Nghanolfan Hamdden Aberafan, roedd gennym ni oriel wylio ac roedd yn wych bod mam sengl yn gallu dod draw, chwarae rownderi, a chael ei phlant yn ei chymeradwyo o'r oriel wylio lle roedden nhw'n gwbl ddiogel a saff.
“Dydych chi ddim yn cael llawer o chwaraeon mor gymdeithasol â rownderi, mae’r rheolau’n syml ac mae’n ymddangos bod pobl wrth eu bodd.”
Fel pob camp sy’n cael ei threfnu, mae angen swyddogion a dyfarnwyr ar gyfer My Rounders i'w helpu i redeg yn esmwyth, a dyna pam eu bod yn cynnig hyfforddiant i ddyfarnwyr.
Mae My Rounders yn archebu'r lleoliadau, yn cyflenwi'r dyfarnwyr, a hyd yn oed yn helpu i ffurfio timau os yw unigolyn eisiau chwarae ond nad oes ganddo gyd-chwaraewyr parod eraill.
Mae'r costau tua £50 yr wythnos i bob tîm, sy'n costio rhwng £4 a £5 i bob chwaraewr.
Felly, beth am y chwaraewyr? Pwy ydyn nhw a pham maen nhw'n chwarae rownderi?