Bydd tri phencampwr byd sydd â chasgliad o 15 medal aur byd-eang rhyngddynt yn arwain carfan gref o saith athletwr o Gymru ym Mhencampwriaethau Para Athletau y Byd fis hwn yn Dubai.
Yn ymuno ag Aled Davies, Hollie Arnold ac Olivia Breen yn nhîm Prydain Fawr bydd Pencampwyr Ewropeaidd y WPA Sabrina Fortune a Harri Jenkins, a hefyd athletwyr Para Academi Chwaraeon Anabledd Cymru, Kyron Duke a Jordan Howe.
I'r taflwr siot F63, Davies, sydd wedi hawlio chwe theitl byd nodedig, a'r seren taflu gwaywffon F46, Arnold, y gystadleuaeth yn Dubai fydd eu pumed pencampwriaeth byd.
Yn y cyfamser, bydd Breen yn cystadlu yn y naid hir T38 a'r 100m yn ei thrydedd pencampwriaeth byd, ar ôl ennill medalau aur yn y gystadleuaeth yn 2015 a 2017.
Er mai dim ond 25 oed yw Arnold, sy'n dal record byd y waywffon, mae ei gyrfa gyda Phrydain Fawr yn dyddio'n ôl i Gemau Paralympaidd Beijing yn 2008 a hithau'n cystadlu'n ddim ond 14 oed.