Mae Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y sefydliad ym mis Hydref i ymgymryd â rôl Prif Weithredwr Gymnasteg Prydain.
Penodwyd Sarah yn Brif Weithredwr yn 2013, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Corfforaethol cyn hynny. Bydd yn aros yn ei swydd tan fis Hydref.
Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cytuno y bydd y Cyfarwyddwr presennol, Brian Davies, yn cael ei benodi ar sail tymor penodol fel y Prif Weithredwr o fis Hydref ymlaen. Bydd hyn yn cael ei adolygu unwaith y bydd Cadeirydd newydd yn ei swydd yn 2022 i alluogi i'r Cadeirydd newydd arwain unrhyw broses recriwtio yn y dyfodol.
Talodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Lawrence Conway, deyrnged i Sarah gan ddweud: “Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn fy mod wedi gweithio gyda Sarah am y 5 mlynedd diwethaf. Mae ei gweledigaeth, ei hegni a'i hymroddiad i chwaraeon yng Nghymru wedi bod yn eithriadol ac mae ganddi gymaint i fod yn falch ohono. Mae Sarah wedi wynebu'r heriau a'r cyfleoedd niferus sy’n deillio o weithio yn y sector cyhoeddus gydag angerdd a ffocws diwyro ac mae wedi newid barn llawer o bobl am chwaraeon. Wrth ymdrechu i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy pleserus, hygyrch a chynhwysol i bawb yng Nghymru, bydd yn gadael gwaddol bwysig a sylfeini cadarn y mae'n rhaid i ni fel sefydliad barhau i adeiladu arnynt. Ar ran bawb yn Chwaraeon Cymru, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Sarah yn ei rôl newydd gyda Gymnasteg Prydain.
“Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gytuno i’r argymhelliad i benodi Brian Davies yn Brif Weithredwr ar sail tymor penodol, unwaith y bydd Sarah yn gadael, am weddill fy nghyfnod i fel Cadeirydd. Bydd hyn yn galluogi i'r sefydliad barhau â'r gwaith hanfodol sydd eisoes ar droed i gefnogi'r sector yn ystod y pandemig a bydd yn rhoi cyfle i'm holynydd arwain unrhyw broses recriwtio sy’n cael ei hystyried yn angenrheidiol yn y dyfodol. Mae Brian yn weinyddwr chwaraeon uchel ei barch a phrofiadol a gwnaeth waith rhagorol yn arwain a chefnogi'r sefydliad am gyfnod pan oedd Sarah ar absenoldeb mabwysiadu, felly rwy'n falch iawn ei fod wedi derbyn y rôl. "
Wrth sôn am ei chyhoeddiad dywedodd Sarah Powell: “Mae wedi bod yn fraint llwyr gweithio i Chwaraeon Cymru ac yn anrhydedd arwain y sefydliad fel Prif Swyddog Gweithredol. Rwy'n ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydw i wedi'i derbyn ac i'r bobl rydw i wedi gweithio gyda nhw. Mae angerdd ac ymrwymiad pawb sy'n ymwneud â’r byd chwaraeon yng Nghymru, boed yn wirfoddolwyr, hyfforddwyr, gweinyddwyr neu gyfranogwyr, yn eithriadol.
“Rwy’n hynod falch y bydd Brian yn cymryd yr awenau fel Prif Swyddog Gweithredol, mae’n uchel ei barch ac yn arweinydd eithriadol ac rwy’n gwybod y bydd chwaraeon yng Nghymru, o dan ei ofal ef, nid yn unig yn adfer o’r pandemig ond yn dod yn ôl yn gryfach ac yn ffynnu unwaith eto.
“Ni allwn danamcangyfrif faint o waith sydd wedi’i wneud eisoes gan y sector a’r gwytnwch mae pawb dan sylw wedi’i ddangos i alluogi chwaraeon i oroesi drwy’r pandemig. Does gen i ddim amheuaeth y bydd chwaraeon yng Nghymru’n mynd i'r afael â'r posibiliadau sydd ar y gorwel gyda dycnwch ac yn parhau i fod yn benderfynol o sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau bod yn actif yn gorfforol.
“Er y byddaf yn colli gweithio yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn unig, byddaf yn parhau i fod yn gefnogwr brwd i Dîm Cymru yn ei holl ffurfiau. Does gen i ddim amheuaeth y bydd chwaraeon yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. ”