Mae myfyrwyr a phobl ifanc yng Nghymru wedi cael blas ar driathlon a'r gobaith yw eu bod wedi'i fwynhau.
Roedd y digwyddiad yn ddeuathlon Go-Tri diweddar o fewn gweithgarwch ehangach ym Mharc Gwledig Pen-bre, a oedd hefyd yn cynnwys deuathlon cystadleuol ar gyfer rhedwyr a beicwyr mwy rheolaidd.
Wedi'i drefnu gan ColegauCymru/Colleges Wales – un o bartneriaid Chwaraeon Cymru – roedd y diwrnod wedi'i anelu at bob gallu ac roedd yn cynnwys myfyrwyr a staff.
Roedd yn rhan o strategaeth ColegauCymru o geisio cael mwy o bobl i fod yn actif ac yn iach, yn gorfforol ac yn emosiynol, yn enwedig yn y grŵp oedran 16 i 19 oed lle mae ymchwil wedi dangos y gall lefelau gweithgarwch ostwng yn sydyn.
Mae gan yr elusen agwedd dair elfen at chwaraeon mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Nid yn unig y mae’n gweithio i sicrhau bod pob myfyriwr yn aros yn iach, ond mae hefyd yn trefnu chwaraeon cystadleuol ar draws y campysau yn ogystal ag annog datblygiad arweinwyr y dyfodol drwy hyfforddi, dyfarnu a gwirfoddoli.
Yn hynny o beth, roedd y deuathlon yn ticio'r holl flychau, gyda channoedd o fyfyrwyr o bob gallu yn cymryd rhan, athletwyr cystadleuol yn sicrhau amseroedd rasio cryf, a gwirfoddolwyr yn helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.
Meddai Rob Baynham, rheolwr prosiect chwaraeon a lles ColegauCymru: "Roedd y deuathlon yn ymgais i gael mwy o bobl yn amgylchedd y coleg i gymryd rhan mewn gweithgarwch, gyda'i gilydd.
"Roedd wedi'i anelu'n arbennig at annog merched a phobl ag anawsterau dysgu, a allai wynebu rhwystrau ychwanegol i gyfranogiad
"Ond roeddem hefyd yn edrych ar gyfleoedd newydd ar gyfer chwaraeon cystadleuol hefyd. Gan fod triathlon mor boblogaidd, roedd deuathlon yn fformat da i'w gynnig."
O ran deuathlon, yn hytrach na thriathlon, roedd elfennau rhedeg a beicio, ond nid oedd yn cynnwys unrhyw ddisgyblaeth nofio.
I'r rheini oedd yn rasio, roedd y llwybr yn cynnwys rhedeg am 5k, ac yna beicio am 20k, cyn dychwelyd i redeg ar lwybr 2.5k i orffen.
Roedd y digwyddiad blasu 'Go-Tri' ar yr un fformat, ond gyda phellteroedd byrrach.
I ColegauCymru, yr her yw sicrhau bod myfyrwyr a staff mewn 12 o aelod-golegau Addysg Bellach ledled Cymru yn cael digon o gyfle i fod yn actif ac yn cael eu hannog i wneud hynny.
Mae tua 50,000 o fyfyrwyr – tua hanner y boblogaeth yn y grŵp oedran hwnnw - yn mynd i golegau AB yn hytrach na chweched dosbarth.