Ar hyn o bryd mae mudiad Urdd Gobaith Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed mewn steil drwy weithio gyda'i bartneriaid i hyrwyddo digwyddiadau fel Rygbi 7 bob ochr i Ysgolion Cenedlaethol a Gemau Stryd - tra hefyd yn nodi ei ben-blwydd mewn steil drwy dorri recordiau'r byd.
Yr Urdd yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru ac mae wedi darparu cyfleoedd i dros bedair miliwn o bobl ifanc fwynhau profiadau chwaraeon, diwylliannol, gwirfoddoli a phreswyl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd llawer o blant sydd wedi cael eu magu yng Nghymru wedi bod ar dripiau ysgol i leoedd fel Llangrannog a Glan-llyn, tra hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon neu Eisteddfodau a drefnir gan yr Urdd.
Bu'r Urdd a'i gefnogwyr yn anrhydeddu'r garreg filltir drwy dorri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu'r un gân wedi’u llwytho i fyny i Facebook a Twitter mewn cyfnod o awr.
Roedd 1,176 fideo o bobl yn canu "Hei Mistar Urdd" wedi eu postio ar Twitter a dros 800 ar Facebook. Cafodd y caneuon eu llwytho i fyny ar 25 Ionawr sef pen-blwydd swyddogol yr Urdd.
"Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth arwyddocaol iawn i nodi a dathlu canmlwyddiant yr Urdd ac roedd angen iddo fod yn rhywbeth a allai gynnwys ein holl aelodau, rhai’r gorffennol a'r presennol," meddai Sian Lewis, sy'n brif weithredwr yr Urdd.
“Roedd sicrhau Record Byd Guinness ddwywaith yn berffaith. Roedd yn wych gweld ein holl aelodau yn cymryd rhan - yn amrywio o ysgolion, clybiau chwaraeon, gwirfoddolwyr a busnesau.
"Roedd yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan fach neu arwyddocaol yn y gwaith o wneud yr Urdd yn fudiad pwysig i bobl Cymru.”
Bu pandemig Covid-19 yn gyfnod heriol i'r Urdd ond mae bellach yn edrych i'r dyfodol ac mae ganddo ystod o ddigwyddiadau a chynlluniau newydd ar waith i gwblhau ei flwyddyn canmlwyddiant.
"Does dim dwywaith mai'r cyfnod ers Mawrth 2020 fu'r un mwyaf heriol yn ein hanes," ychwanegodd Lewis.
"O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu'n rhaid i ni gau ein gwersylloedd a bu'n rhaid i'n gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a diwylliannol rheolaidd ddod i ben.
"Fodd bynnag, rydyn ni'n ailadeiladu, a bydd blwyddyn ein canmlwyddiant yn un i'w chofio, gyda chynlluniau pob adran yn adlewyrchu ein hysbryd a'n huchelgais.”
Mae gan chwaraeon ran ganolog yn y gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg i'r Urdd ac roedd ei gyfarwyddwr chwaraeon, Gary Lewis, yn falch o fod wedi gallu cynnig gwasanaeth i bobl ifanc yn ystod y pandemig.
"Yn ystod Covid, fe wnaethon ni gynnig gwersi chwaraeon digidol drwy brosiect o'r enw Actif Adref," meddai Lewis.
“Rhoddodd hyn gyfle i blant oed cynradd roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon fel gymnasteg, pêl-droed, rygbi a phêl-fasged ac roedd yn wych cysylltu â gwahanol bartneriaid fel Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Roedd dros 2,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn ein sesiynau ar-lein bob wythnos, ac roedd yn bwysig i ni ddangos ein hymrwymiad i bobl ifanc yn ystod y pandemig a sicrhau nad oeddent yn colli allan.”