Pan fydd Geraint Thomas yn cyrraedd y llinell gychwyn ar gyfer ras ffordd Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham fe fydd yn gyfle i nifer o bobl yng Nghymru adlewyrchu ar sut wnaethon nhw ei helpu i gyrraedd yno.
Bydd beiciwr gwrywaidd gorau erioed Cymru yn mynd am yr aur, wedi’i bweru gan ei dalent ei hun a’r cyllid sydd wedi’i ddarparu gan bawb sydd wedi prynu tocyn y Loteri Genedlaethol erioed.
Yn wir, gellid dweud bod arian y Loteri Genedlaethol wedi meithrin siwrnai’r cyn-enillydd yn y Tour de France er pan oedd yn fachgen wyth oed yng Nghaerdydd hyd at bodiymau ar y Champs-Elysees a, gobeithio, yng nghanol Birmingham fis nesaf.
Arian gan chwaraewyr y loteri helpodd i droi olwynion clwb beicio iau cyntaf Thomas, y Maindy Flyers yn y brifddinas.
Arian y loteri wnaeth ei anfon i Melbourne yn 2006 yn fachgen 20 oed i gystadlu yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf i Gymru.
Ac £8m o arian y Loteri Genedlaethol a helpodd i adeiladu’r felodrom yng Nghasnewydd, a gafodd ei ailenwi’n Felodrom Geraint Thomas yn 2018, y flwyddyn y daeth yn Gymro cyntaf i ennill y Tour.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu i godi mwy na £30m yr wythnos ar gyfer amrywiaeth o achosion da ledled y DU a dim ond un o’r achosion da hynny yw chwaraeon yng Nghymru.
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, 2022-23, mae mwy na £7m o arian y Loteri Genedlaethol wedi’i neilltuo i gefnogi chwaraeon perfformiad uchel yng Nghymru ac yn uniongyrchol i rai athletwyr.
Ar yr un pryd, mae £3.5m wedi’i ymrwymo i gefnogi syniadau arloesol, cynhwysol a chynaliadwy gan glybiau a phrosiectau ar lawr gwlad drwy Gronfa Cymru Actif.
Ac mae £2m wedi’i ymrwymo i bartneriaid fel StreetGames Cymru, yr Urdd a phartneriaid cenedlaethol eraill i alluogi pobl, yn enwedig pobl ifanc, yng Nghymru i fwynhau bod yn actif.
O’r herwydd, mae’r Loteri Genedlaethol wedi dod yn bartner allweddol i Chwaraeon Cymru – o gyllido clybiau a chyrff rheoli ar lawr gwlad, i’r athletwyr elitaidd gwrywaidd a benywaidd.
Ochr yn ochr â Thomas, bydd athletwyr eraill o Gymru a fydd yn rhan o Dîm Cymru yn Birmingham – ar draws 15 o wahanol chwaraeon – yn derbyn cefnogaeth sy’n dod gan brynwyr y Loteri Genedlaethol ledled y wlad.
Felly, pan fyddwch chi’n gwylio Thomas yn gwibio ar hyd strydoedd Birmingham, neu’r fam newydd Elinor Barker yn hedfan o amgylch y trac beicio, neu’r para-athletwyr Aled Sion Davies a Harrison Walsh yn taflu yn y stadiwm athletau, gall unrhyw un sydd erioed wedi bod “in it, to win it” deimlo eu bod wedi chwarae eu rhan.