Wrth i Baralympwyr gorau’r byd baratoi i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol yn Tokyo yr wythnos hon, mae bachgen yn ei arddegau sydd â pharlys yr ymennydd yn gobeithio cystadlu mewn Gemau Paralympaidd yn y dyfodol wrth iddo sbrintio tuag at lwyddiant.
Mae gan Tomi Robert Jones o’r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd barlys yr ymennydd, sef cyflwr sy’n effeithio ar ei olwg, ei symudiad a’i symudedd cyffredinol ar ochr dde ei gorff. Er hynny, mae’r bachgen 15 oed wedi bod yn angerddol am redeg ers oedd yn naw oed.
Heb fod yn un i adael i’w anabledd ei ddal yn ôl, mae Tomi yn sbrintiwr, ac mae’n ymarfer sawl gwaith yr wythnos. Ar ôl cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Athletau Iau Cenedlaethol yn ddiweddar, mae Tomi yn paratoi i gystadlu yng Ngemau Ysgol 2021 ym mis Medi.
Mae Tomi yn rhan o Raglen Llwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru, cynllun sydd wedi’i greu i gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc fel Tomi i gyrraedd eu potensial ym maes chwaraeon.
Ar ôl i ymarferion ddod i stop am bron i flwyddyn yn ystod y cyfnod clo, mae Tomi bellach wedi dychwelyd i ymarfer gyda’i hyfforddwr, sef sbrintiwr Paralympaidd Cymru ac athletwr Gemau’r Gymanwlad Tîm Cymru, Morgan Jones.