Main Content CTA Title

Seren Glynebwy’n anelu at gyrraedd yr uchelfannau

Os gall Charlotte Carey ddangos yr un penderfyniad yn y cystadlaethau cymhwyso Olympaidd ag y mae wedi'i ddangos wrth hedfan o amgylch Ewrop yn ystod y misoedd diwethaf, gallai’r chwaraewyr yn y safleoedd uchaf gael dipyn o sioc.

Mae Rhif 1 tennis bwrdd Cymru yn paratoi ar gyfer ceisio ennill lle yn Tokyo fel rhan o garfan Prydain Fawr o bedair sy'n cystadlu yn y digwyddiad cymhwyso ym mis Chwefror.

Roedd cael ei dewis fel un o ddim ond dwy ferch yn y garfan yn gyflawniad ynddo'i hun, ond wedyn mae Carey wedi bod yn cyflawni’n wych ac yn goresgyn rhwystrau ers y llynedd dim ond i ddal ati i chwarae.

Mae seren driphlyg Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, sydd wedi'i lleoli yn Barcelona ar hyn o bryd, wedi bod yn cystadlu yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop – lefel elitaidd y gamp – ar gyfer tîm yn Sbaen ac un arall sydd wedi'i leoli ar ynysoedd Portiwgeaidd yr Azores.

Charlotte Carey

 

Mae wedi golygu ymdrech gyson i geisio dal y nifer cyfyngedig o deithiau awyren yn ystod y pandemig, yn ogystal â chael y profion Covid-19 angenrheidiol i symud rhwng gwledydd.

Ar y cyfrif diwethaf, roedd wedi cael 14 prawf gwahanol ac er ei bod yn cydnabod eu bod yn gwbl hanfodol, mae'n cyfaddef: "Weithiau mae’n gallu teimlo fel bod rhywun yn ceisio procio eich trwyn i fyny i'ch ymennydd!

"Ond mae'n rhaid gwneud hyn ac er ei fod yn dod ag ychydig o ddagrau i'ch llygaid, mae'n bris bach i'w dalu er mwyn gallu dal ati i gystadlu."

Ac nid y swabiau ydi'r unig achos dagrau, chwaith. O ystyried yr angen am wasanaeth canlyniadau cyflym iawn cyn iddi hedfan o Lundain i Lisbon y diwrnod o'r blaen, roedd bil o £289 i’w dalu.

Mae symud drwy feysydd awyr llawn panig, yn ceisio cadw’n ddiogel ei hun, a hefyd cynnal ei hamserlen ymarfer a'i hymddangosiadau mewn twrnameintiau’n ddigon anodd.

Mae hyd yn oed yn fwy heriol pan mae’n rhaid ymarfer a chymryd rhan mewn rhai gemau cystadleuol yn Sbaen yn gwisgo masg.

Ond mae Carey, 26 oed, nid yn unig wedi llwyddo i wneud hyn, ond hefyd mae wedi bod yn chwarae’n dda iawn gan drechu chwaraewyr sydd wedi’u lleoli’n uwch na’i safle byd presennol hi, sef rhif 151.

Yn ôl ym mis Hydref, llwyddodd y ferch o Lynebwy i drechu dwy o chwaraewyr o'r 80 gorau i gyrraedd rownd derfynol digwyddiad Meistri Sbaen cyn cael ei threchu yn y diwedd gan Rif 47 y Byd, Bruna Takahashi, o 4-3, gan orfod bodloni ar ddod yn ail. 

"Mae gwisgo masg yn anodd," cyfaddefa Carey. "Mae'r rhai cotwm yn gyfforddus, ond rydych chi'n eu hanadlu nhw i mewn rywsut wrth chwarae. 

"Mae'r rhai papur yn well yn hynny o beth, ond maen nhw'n symud o gwmpas braidd ac yn rhwystro eich golwg. Rydw i'n dod i arfer, ond dydw i ddim wedi dod o hyd i fasg rydw i’n ei hoffi eto mewn gwirionedd."

Er hynny, drwy chwarae’n dda, enillodd Carey le yn sgwad Prydain Fawr ar gyfer gemau cymhwyso’r Gemau Olympaidd sy'n digwydd yn Lisbon ac sy'n dechrau ar Chwefror10.

Ochr yn ochr â hi bydd hyfforddwr cenedlaethol Cymru, Stephen Jenkins, a fydd yn goruchwylio tîm y merched sy'n cynnwys dim ond Carey a Rhif 1 Lloegr, Tin-Tin Ho.

"Roeddwn i wedi bod yn gweithio'n galed drwy'r cyfyngiadau symud cyntaf ac roedd sut wnes i chwarae yn y Meistri yn Sbaen yn cyfiawnhau fy newis rwy'n credu," ychwanegodd Carey.

"Rydw i'n mynd yno i geisio cael canlyniadau da a mwynhau fy ngêm. I gymhwyso, fe fydd rhaid i mi greu dipyn o sioc, felly mae'n dasg anodd. Ond mae'n un rydw i'n gyffrous iawn amdani.

"Rydw i’n chwarae'n dda, does dim pwysau arna i, ac rydw i jyst yn mynd yno i fwynhau'r profiad a gwneud fy ngorau.

"’Alla i ddim rhoi mewn geiriau beth fyddai'n ei olygu i mi gyrraedd y Gemau Olympaidd. Mae'n nod i bawb, mewn gwirionedd – y pinacl mawr. 

"Does dim un ohonon ni’n siŵr y bydd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal, na sut Gemau fyddan nhw, ond mae'n nod a hyd yn oed os na fydda’ i’n llwyddo, byddaf yn dal ati i geisio cael lle ym Mharis ymhen pedair blynedd."

Un elfen bwysig arall ym mharatoadau Carey eleni, mae'n credu, yw gwell cryfder meddyliol ac mae’n dweud mai ei hastudiaeth o seicoleg chwaraeon sy’n gyfrifol am hynny. Mae wedi cynyddu ei hastudiaethau ers y cyfyngiadau symud cyntaf fis Mawrth diwethaf.

Mae ymddangosiad cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad yn ddim ond 14 oed a gadael cartref i chwarae’n rheolaidd yn nhwrnameintiau gorau Ewrop ddwy flynedd yn unig yn ddiweddarach yn awgrymu hyder naturiol, ond nid yw hynny'n gwbl wir.

"Doeddwn i ddim yn meddwl ’mod i'n berson hyderus iawn nes i mi symud oddi cartref a hyd yn oed wedyn roeddwn i'n esgus bod yn hyderus. Weithiau rydw i’n gallu bod yn llawn tensiwn mewn gemau felly rydw i wedi gweithio ar ymlacio. 

"Mewn gemau lle roeddwn i ar y blaen yn erbyn chwaraewyr da, roeddwn i’n gallu ei chael yn anodd mynd dros y llinell. Ond rydw i'n meddwl ’mod i'n goresgyn hynny nawr.

"Fe wnes i gynyddu fy nhrefn ffitrwydd, ond mae'r ochr seicoleg wedi gwella pethau'n aruthrol. Pan ydych chi’n treulio cymaint o oriau yn ymarfer ar y bwrdd, weithiau rydych chi’n gallu esgeuluso ochr feddyliol y gêm.

"Nawr rydw i’n gobeithio dechrau gradd Prifysgol Agored eleni mewn gwyddor chwaraeon ac rydw i'n meddwl y gall effeithio cryn dipyn ar fy ngêm." 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy