Mae Cymru yng Nghwpan Pêl Rwyd y Byd yn Ne Affrica ar hyn o bryd - y tro cyntaf iddyn nhw gymhwyso ar gyfer y twrnamaint ers 2015.
I chwaraewyr Plu Cymru, dyma uchafbwynt eu gyrfaoedd a phenllanw blynyddoedd o ymdrechu.
Ond mae ganddyn nhw i gyd rywbeth yn gyffredin gyda phob chwaraewr ysgol a chlwb yn y wlad – fe ddechreuodd eu cyflawniadau pêl rwyd nhw drwy greu hoffter ac angerdd dros weithgarwch corfforol a'r hwyl mae’n gallu ei gynnig.
Fe roddodd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr gynnig ar amrywiaeth o chwaraeon yn yr ysgol ac roedd un neu ddwy – fel y capten Nia Jones – yn ddigon da i gynrychioli Cymru mewn mwy nag un gamp hyd yn oed. Yn ei hachos hi, pêl droed a phêl rwyd.
Tair o Blu Cymru – Phillipa Yarranton, yr is-gapten Bethan Dyke a Clare Jones sy’n dweud wrthyn ni am eu siwrneiau pêl rwyd a beth sy’n gwneud amgylchedd chwaraeon iach.
Pa chwaraeon eraill wnaethoch chi eu chwarae yn ifanc?
Phillipa: Fe wnes i chwarae llawer o bêl droed ac fe wnes i lawer o athletau pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Os oedd unrhyw gamp yn golygu bod posib i mi adael fy ngwersi, fe fyddwn i’n mynd i'w gwneud!
Rydw i’n rheolwr perfformiad pêl rwyd ym Mhrifysgol De Cymru ac rydw i’n gweld bod gan gryn dipyn o ferched bellach gefndir dawns a gymnasteg cyn iddyn nhw ddod i mewn i bêl rwyd ac mae hynny’n ddefnyddiol iawn.
Erbyn i bobl ifanc gyrraedd 18 oed a dod i’r coleg, maen nhw wedi dechrau arbenigo, ond yn sicr mae’n fantais dysgu sgiliau gwahanol o wahanol chwaraeon cyn hynny.
Bethan: Fe wnes i ddechrau chwarae pêl rwyd drwy wylio Mam yn chwarae. Roeddwn i'n arfer ei gwylio hi yn y cynghreiriau lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda fy chwaer.
Fe wnes i chwarae pêl rwyd drwy'r ysgol gynradd ac ymuno â chlwb y tu allan i'r ysgol hefyd.
Ond fe wnes i lawer o chwaraeon eraill wrth dyfu i fyny hefyd. Fe wnaeth fy chwaer a minnau lawer o gymnasteg, trampolinio a nofio.
Yn y diwedd, fe wnes i gyrraedd pwynt lle roedd popeth yn dechrau gwrthdaro ac fe wnes i ddewis pêl rwyd fel fy mhrif gamp.
Fel athrawes Addysg Gorfforol, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon yn yr ysgol. Mae llawer o ddisgyblion sy'n gwneud amrywiaeth o weithgareddau. Mae hynny'n bwysig oherwydd y sgiliau trosglwyddadwy ar draws yr holl chwaraeon gwahanol.
Yn sicr fe wnaeth gymnasteg fy helpu i gyda fy hyblygrwydd, er efallai nad ydw i mor hyblyg ag yr oeddwn i unwaith! Ond yr hyn sydd hefyd yn helpu ydi gweithio gyda gwahanol hyfforddwyr mewn gwahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau chwaraeon.
Clare: Roeddwn i'n chwarae mwy o chwaraeon unigol pan oeddwn i'n tyfu i fyny - fel tennis ac athletau.
Fe wnes i chwarae tennis i’r sir ar un adeg ac mae fy sgiliau raced i’n reit dda o hyd! Fe helpodd hynny fi gyda chydbwysedd a chydsymud.
Pan wnes i weld merched yn chwarae pêl rwyd i ddechrau, roeddwn i'n meddwl ei fod yn edrych yn anhygoel. Fe es i adref at Mam a dweud wrthi fy mod i wedi gweld gêm oedd yn edrych yn egnïol iawn, ac yn llawer o hwyl, ac roedd yn cynnwys pêl. Roeddwn i eisiau rhoi cynnig arni.
Yn debyg i Beth, rydw i'n meddwl bod well gen i amgylchedd tîm na chwaraeon unigol. Roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r wefr o fod mewn tîm. Fe ddaeth pêl rwyd a hoci yn ddwy gamp fawr i mi, gydag athletau a thennis wedyn yn fwy at ddiben hamdden yn unig.
Roeddwn i’n ddigon ffodus i fynychu canolfannau talent Cymru ar gyfer hoci a phêl rwyd. Roeddwn i’n teimlo bod pêl rwyd yn rhoi rhyddhad gwych i mi o bwysau academaidd, a dyna oedd fy hoff gamp i wedyn.
Pwy ydi'r bobl sydd wedi eich helpu chi ar hyd y ffordd?
Clare: Athrawes oedd fy hyfforddwr pêl rwyd cyntaf i – Rebecca Sear. Fe wnaeth hi roi cychwyn i mi pan oeddwn i tua wyth oed ac mae hi'n dal i fy ngwylio i nawr, chwarae teg iddi!
Phillipa: Fe wnes i syrthio mewn cariad hefo pêl rwyd yn ystod fy mlwyddyn gyntaf i yn y brifysgol ym Met Caerdydd. Nia Jones – sydd bellach yn gapten i ni – oedd fy mhrif hyfforddwr i. Roedd yr amgylchedd yn amgylchedd perfformiad uchel yn bendant ac roeddwn i wrth fy modd.
Yn blentyn, roedd fy mam yn ddylanwad enfawr, a hefyd Karen Moore, fy hyfforddwr Dan 16 i yng Nghaerwrangon.
Bethan: Roedd fy mam i’n gefnogaeth enfawr hefyd wrth i mi dyfu i fyny. A hefyd Gail Calford, fy hyfforddwr clwb cyntaf i a’r person cyntaf i gredu yna i mewn gwirionedd. Fe wnaeth hi i mi gredu fy mod i’n dda ac y gallwn i ddal ati i fwynhau gwella.
Ond roedd hi bob amser yn gwneud y sesiynau'n hwyl hefyd. Roedd hi’n gwneud i chwaraewyr fod eisiau mynd yn ôl.