Skip to main content

Sorba Thomas – Y Siwrnai yng Nghymru wedi’i Hysbrydoli Gan Mam

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sorba Thomas – Y Siwrnai yng Nghymru wedi’i Hysbrydoli Gan Mam

Bydd gan Sorba Thomas un cefnogwr arbennig iawn ymhlith y degau ar filoedd o leisiau a fydd yn ceisio rhuo Cymru gam mawr yn nes at rowndiau terfynol Cwpan y Byd y penwythnos yma.

Sef y fenyw sydd wedi gwneud y cyfan yn bosibl - ei fam.

Mae asgellwr Huddersfield Town yn debygol o gael ei drydydd cap yn erbyn Belarws ddydd Sadwrn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac wedyn gallai ychwanegu pedwerydd os bydd yn chwarae yn erbyn Gwlad Belg dridiau yn ddiweddarach.

Mae’r ddwy gêm gymhwyso yn hanfodol i obeithion Cymru o orffen yn ail yn eu grŵp, ond y cymhelliant ychwanegol i Thomas yw y bydd ei fam, Gail, yn y dorf.

Hi sy’n gyfrifol bod y llanc 22 oed, a aned yn Llundain, yn gymwys i chwarae dros Gymru, gan ei bod hi’n dod o Gasnewydd.

Hwn fydd y tro cyntaf i’r fam falch fod yno yn gwylio ei mab mewn crys coch ar ôl gwylio ei ddau gap blaenorol ar y teledu ac meddai Sorba: “Fe ddywedodd hi ei bod yn sefyll ar ei thraed drwy’r rhan fwyaf o’r gemau oddi cartref fis diwethaf gan ei bod hi mor nerfus a chyffrous.

“Mae hi’n mynd i fod yn y ddwy gêm sydd i ddod. Bydd yn arbennig iawn iddi hi gan mai’r rhain fydd y gemau Cymru cyntaf iddi fod ynddyn nhw hefyd.

“Mae fy mam i’n wahanol i’r rhan fwyaf o famau. Mae hi'n hoffi bod yng nghanol y dorf gan ei bod wrth ei bodd yn teimlo'r awyrgylch.

“Rydw i’n credu ei bod hi wedi cael sioc enfawr pan ddaeth hi i Huddersfield i fy ngwylio i’n chwarae ac roedd hi mewn bocs corfforaethol.

“Yn benodol, drwy fod wrth ymyl holl gefnogwyr Cymru, hefyd, fe fydd yn ei helpu i greu mwy fyth o atgofion.”

Mae Thomas - a aned yn Llundain ac a oedd ar lyfrau West Ham ar un adeg pan oedd yn iau - eisoes wedi profi bod modd teimlo cenedligrwydd ac ymdeimlad o berthyn drwy rieni neu neiniau a theidiau.

Yn ei achos ef, fe wnaeth brwdfrydedd ei fam dros Gymru a threftadaeth ei mab ei anfon ar siwrnai a arweiniodd ato’n hyfforddi gyda'i eilun, Gareth Bale, yr wythnos yma.

Roedd gan gapten Cymru anaf pan chwaraeodd Sorba am y tro cyntaf yn erbyn y Weriniaeth Tsiec fis diwethaf a hefyd pan gafodd gap yn erbyn Estonia ar ôl hynny.

“Roeddwn i’n methu dweud dim pan wnes i gwrdd â Gareth Bale am y tro cyntaf,” mae’n cyfaddef.

“Mae e’n berson mor wych ac yn chwaraewr gwych hefyd wrth gwrs. Rydyn ni wedi cael cryn dipyn o sgyrsiau eisoes. Roeddwn i’n ei holi am ei gyfnod yn chwarae gyda Ronaldo yn Real Madrid. 

“Roeddwn i hefyd yn ei wylio yn hyfforddi ac yn edrych am rai pethau i’w hychwanegu at fy ngêm.

“Mae’n arwr enfawr i’r wlad gyfan ac rydw i’n dyheu am fod felly.”

Cefnogwyr Cymru mewn gêm bêl-droed
Mae Thomas eisiau creu mwy fyth o atgofion i Gymru drwy sgorio o flaen y Wal Goch.

"Y freuddwyd yw sgorio i Gymru"

Mae wedi bod yn gorwynt o ddechrau i’r tymor i Thomas a nawr mae eisiau creu mwy fyth o atgofion i Gymru drwy sgorio o flaen y Wal Goch.

Bydd buddugoliaeth yn erbyn Belarws a phwynt yn erbyn Gwlad Belg yn gwarantu ail safle i Gymru yn eu grŵp a gêm ail gyfle a allai fod yn haws o bosibl na phe baent yn gorffen yn drydydd.

“Ar ôl gwneud fy ymddangosiad cyntaf fis diwethaf, rydw i nawr yn dyheu fwy fyth am gyflawni pethau gwych yn y gêm. 

“Y freuddwyd yw sgorio i Gymru yn enwedig gyda fy mam yn y dorf.

“Byddai’n foment y byddwn i’n llythrennol yn ei chofio am weddill fy oes.”

Mae llwybr Thomas i’r llwyfan rhyngwladol wedi bod yn un anghonfensiynol ac mae bellach yn elwa o’i ddyfalbarhad.

Cafodd ei ryddhau gan West Ham yn ei arddegau a dechrau colli diddordeb yn y gêm.

Ond ar ôl cyfnod heb fod mewn cynghrair ac yn gweithio y tu allan i’r byd chwaraeon, mae bellach wedi dod o hyd i'w ffordd yn ôl i'r brig.

“Fe gefais i rai dyddiau caled yn gweithio gyda sgaffaldiau, rhoi polion i fyny, ac roedd mynd yn ôl ar gefn y ceffyl yn anodd.

“Fe ddechreuais i dîm Cynghrair Sul bach am ychydig fisoedd a cheisio dod o hyd i hoffter o’r gêm eto. 

"Pan wnes i chwarae eto, y nod oedd ceisio cyrraedd y brig a'i rwbio yn wynebau ychydig o bobl – y rhai oedd heb gredu yno i yn ôl ar y dechrau. 

“I mi, mae’n llawer o danwydd i’w losgi."

Chwaraeodd Thomas bron i 100 o gemau i Boreham Wood cyn cytuno i symud i'r Bencampwriaeth gyda Huddersfield – gan ddilyn yn ôl troed sêr fel Ashley Williams a Jamie Vardy allan o bêl-droed y tu allan i’r gynghrair.

“Rydw i’n edrych ar eu siwrneiau nhw wrth iddyn nhw ddod yn chwaraewyr mawr yn yr Uwch Gynghrair,” meddai.

"Rydych chi eisiau dilyn yn ôl eu troed a chreu eich llwybr eich hun.” 

Mae'r wythnos nesaf yn un fawr i Gymru wrth i’r tîm geisio cymhwyso ar gyfer ei Gwpan Byd cyntaf ers 1958.

Os bydd Cymru’n hawlio pedwar pwynt o’r ddwy gêm yma, byddant yn selio’r ail safle yn y grŵp ac yn cymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Nid yw tîm Robert Page eisiau dibynnu ar eu lle yn y gemau ail gyfle sydd wedi’i sicrhau fwy neu lai drwy Gynghrair y Cenhedloedd, gan y byddent yn debygol o chwarae eu gemau allweddol oddi cartref. 

“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r ddwy gêm nesaf,” eglura Thomas.

“Mae’n rhaid i ni wneud i’n gêm ni mewn llaw ar y Weriniaeth Tsiec gyfrif drwy guro Belarws ddydd Sadwrn.

“Mae pawb â’u meddwl ar waith ac rydyn ni'n barod i ennill a chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.”

Newyddion Diweddaraf

Y 37 prosiect chwaraeon fydd yn rhannu £3.5m o gyllid Llywodraeth Cymru

Dyma restr lawn o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan £3.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Darllen Mwy

Prosiectau chwaraeon cyffrous wedi'u cefnogi gan £3.5m o gyllid

Wedi’i neilltuo gan Chwaraeon Cymru, bydd y cyllid yn ehangu mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol…

Darllen Mwy

Helpwch ni i wella gwefan Chwaraeon Cymru

Gallech hefyd ennill gwobr o £50

Darllen Mwy